Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Cymru) 2004, ISBN 0110909968. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Cymru) 2004; maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym ar 1 Medi 2004. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Mewnforion Tatws sy'n tarddu o'r Aifft
(b) Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Diwygio) 1998[6].
(2) Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu -
(b) Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2001[8]); ac (c) Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2002[9].
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n berthnasol i Gymru yn unig, yn cydgrynhoi gyda diwygiadau Reoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft 1998 ("Rheoliadau 1998"). Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2004/4/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i gymryd mesurau ychwanegol dros dro yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith (a elwir bellach yn Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.) o ran yr Aifft ("y Penderfyniad"). Dim ond os cydymffurfiwyd â'r mesurau sydd wedi'u gosod yn y Penderfyniad y mae'r Penderfyniad yn caniatáu i datws sy'n tarddu o'r Aifft, ac eithrio tatws hadyd, gael eu mewnforio i'r Gymuned Mae'n cydgrynhoi ac yn dirymu Penderfyniad y Comisiwn 96/301/EC (fel y'i diwygiwyd). Mae Rheoliad 3(1) yn gwneud darpariaeth ynglŷr dystysgrif ffytoiechydol sy'n ofynnol o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 ("y Gorchymyn") sydd i fynd gyda mewnforion cloron tatws i Gymru ac y mae mewnforion o'r fath yn cael eu gwahardd hebddi. Yn achos tatws sy'n tarddu o'r Aifft, rhaid i'r dystysgrif gydymffurfio â'r gofynion ychwanegol sydd wedi'u gosod gan y Penderfyniad. Mae unrhyw berson sy'n mewnforio tatws o'r fath heb dystysgrif ffytoiechydol ddilys, yn groes i'r gwaharddiad sydd wedi'i osod gan Orchymyn 1993, gyda'r bwriad o osgoi'r gwaharddiad, yn euog o dramgwydd o dan adran 50(3) o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p.2) a chaniateir ei arestio. Mae unrhyw berson a geir yn euog o dramgwydd o'r fath o dan adran 50(3) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i gosb o £5,000 neu dair gwaith gwerth y nwyddau, p'un bynnag yw'r mwyaf, neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu'r ddau; neu, o'i gollfarnu ar dditiad, i gosb o unrhyw swm, neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na saith mlynedd, neu'r ddau. Mae'r tramgwydd hwn o dan adran 50(3) yn disodli tramgwydd tebyg o fewnforio tatws yn groes i Reoliadau 1998, a oedd wedi'i gynnwys yn y Rheoliadau hynny. Mae Rheoliad 3(2) yn dileu, o ran mewnforion tatws sy'n tarddu o'r Aifft, y gofyniad o dan Orchymyn 1993 i ddatganiad swyddogol bod y tatws yn tarddu o ardaloedd lle nad yw'n hysbys bod Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn digwydd. Mae Rheoliad 4 yn gosod gofyniad bod mangreoedd, (ac eithrio mangreoedd penodol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer pacio neu baratoi tatws i'w cyflwyno i'r defnyddiwr olaf) sy'n cael eu defnyddio i drin tatws sy'n tarddu o'r Aifft, yn cael eu cymeradwyo at y diben hwnnw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwn yn dramgwydd sy'n peri bod y tramgwyddwr yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (sef £5,000 ar hyn o bryd) (rheoliad 7). Mae Rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau drwy archwilwyr ac mae rheoliad 6 yn darparu pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru godi ffi o £37.50 am gymryd samplau o datws sy'n tarddu o'r Aifft i ddarganfod a ydynt wedi'u heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn unol â'r Penderfyniad. Mae hyn heb ei newid o'r ffi a oedd yn daladwy am samplu o'r fath o dan Reoliadau 1998. Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth yr Is-Adran Polisi Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Cynulliad Cendlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.S. 1993/1320; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245, 1999/2641 (Cy.8), 2001/2500 (Cy.203), 2001/3761 (Cy.310), 2002/1805 (Cy.175) a 2003/1851 (Cy. 201).back [4] OJ Rhif L2, 6.1.2004, t.50.back [5] O.S. 1998/201, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3167, 2000/22 a 2963, 2001/3574 a 2002/2902.back [8] O.S. 2001/2356 (Cy.194).back [9] O.S. 2002/120 (Cy.14).back
ISBN 0 11090996 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 7 September 2004 |