Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004, ISBN 0110909925. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3)(b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf")[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004. Y dyddiad a bennwyd ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â Chynllun Gofodol Cymru 2. Y dyddiad a bennwyd i adran 60 o'r Ddeddf ddod i rym yw'r 14 Gorffennaf 2004. Darpariaeth Drosiannol 3. Bydd unrhyw gam a gymerwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â darparu Cynllun Gofodol Cymru[2], gan gynnwys unrhyw ymgynghoriad gydag unrhyw berson mewn perthynas â darpariaethau'r Cynllun, i'w drin fel un a gymerwyd er mwyn cyflawni'r dyletswyddau a osodwyd ar y Cynulliad Cenedlaethol gan adran 60 o'r Ddeddf, boed i'r cam hwnnw gael ei gymryd cyn y dyddiad a bennwyd gan erthygl 2 neu ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 13 Gorffennaf 2004 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 60 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf") yn gosod dyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i baratoi cynllun gofodol (Cynllun Gofodol Cymru), i ymgyhgori gyda'r cyhoedd ar ei ddarpariaethau ac i'w gymeradwyo a'i gyhoeddi. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 60 o'r Ddeddf i rym ar 14 Gorffennaf 2004. Gan fod y gwaith o baratoi Cynllun Gofodol Cymru, gan gynnwys ymgynhori â'r cyhoedd arno, wedi'i gychwyn, o dan bwerau cyffredinol y Cynulliad Cenedlaethol, cyn fod adran 60 o'r Ddeddf wedi dod i rym, mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn darparu fod camau a gymerwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r cynllun hwnnw cyn i'r adran honno ddod i rym i'w trin, serch hynny, fel camau a gymerwyd yn unol â'r dyletswyddau perthnasol o dan yr adran honno. Notes: [1] 2004 p.5.back [2] Gweler adran 58(1) o'r Ddeddf.back
ISBN 0 11090992 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 23 July 2004 |