Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110909879. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(3), (4), (5) a (9) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2004 neu wedyn. Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau)1997[3] fel a ganlyn. (2) Yn rheoliad 2(2), yn lle "£12,508" rhoddir "£12,846". (3) Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhoddir -
(b) £41 where that income exceeds £11,935 but does not exceed £12,846.".
(4) Yn rheoliad 4 -
(b) ym mharagraff (4) -
(ii) yn lle "£11,460" rhoddir "£11,769".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 ("Rheoliadau 1997") mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn dechrau ar 1 Medi 2004 neu wedyn. Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer talu grantiau o ran mân dreuliau, ac ar gyfer gollwng mân dreuliau, mewn perthynas â disgyblion sy'n gymwys i barhau i gael lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun cymorth lleoedd wedi'i ddileu gan adran 1 o'r Ddeddf honno. Mae'r Rheoliadau hyn yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 2 o Reoliadau 1997) ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy ar gyfer grant gwisg ysgol o ran gwariant ar ddillad a dynnwyd mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2004/2005 a'r blynyddoedd ysgol dilynol. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn llacio'r prawf moddion ariannol (a nodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 1997) ar gyfer grantiau teithio ac yn cynyddu swm y grant a delir. Notes: [1] 1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1997/1969, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1585, O.S. 1999/1505, O.S. 2000/1939 (Cy.137), O.S. 2001/2708 (Cy.227), O.S. 2002/1880 (Cy.189) ac O.S. 2003/1779 (Cy.193).back
ISBN 0 11090987 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 20 July 2004 |