Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004, ISBN 0110909852. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(3), (4), a (5) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1],ac ar ôl ymgynghori gyda'r Cyngor Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Darparu gwybodaeth
(2) Yn rheoliad 6(4), mewnosoder ar ôl y geiriau "rhaid iddo" y geiriau ", onid yw o'r farn na fyddai'n ymarferol i'r pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl,".
(ii) ar ôl y geiriau "na ddylid derbyn disgybl yn ôl" (fel y'u hamnewidir gan baragraff (i) uchod) mewnosoder y geiriau "neu ar ôl penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, yn penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd i'r pennaeth yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl".
Swyddogaethau awdurdod addysg lleol mewn perthynas â disgyblion wedi'u gwahardd am gyfnod penodedig
(2) Yn rheoliad 7(4), mewnosoder ar ôl y geiriau "rhaid iddo" y geiriau ", onid yw o'r farn na fyddai'n ymarferol i'r athro neu athrawes â gofal gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl,".
8A. Os yw'n fater -
(b) i'r corff llywodraethu, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 6, neu (c) i banel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 7,
i sefydlu unrhyw ffaith, rhaid penderfynu a gafodd y ffaith ei sefydlu yn ôl pwysau tebygolrwydd.".
8.
Ar ôl rheoliad 9 o Reoliadau UCD 2003 mewnosoder -
9A. Os yw'n fater -
(b) i'r awdurdod addysg lleol, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 7, neu (c) i banel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel y'i haddaswyd, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 8,
i sefydlu unrhyw ffaith, rhaid penderfynu a gafodd y ffaith ei sefydlu yn ôl pwysau tebygolrwydd.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003. Mae rheoliadau 3 a 4 yn ychwanegu dyddiad geni'r disgybl sydd wedi'i wahardd at ystod yr wybodaeth ar bob gwaharddiad y mae'n rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ac athro â gofal uned cyfeirio disgyblion ei darparu i'r awdurdod addysg lleol bob tymor. Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 er mwyn cywiro camgymeriad yn fersiwn Cymraeg y Rheoliadau hynny ac er mwyn darparu bod yn rhaid i gorff llywodraethu ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ai peidio ac os yw o'r farn y dylid derbyn disgybl yn ôl rhaid iddo yn ychwanegol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol ac ystyried os na fyddai'n ymarferol i'r pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd sy'n mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl. Mae rheoliad 6 yn gwneud diwygiad tebyg i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003. Mae rheoliad 7 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 er mwyn darparu bod yn rhaid i'r pennaeth, y corff llywodraethu neu'r panel apêl sefydlu'r ffeithiau yn ôl pwysau tebygolrwydd. Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiad tebyg i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003. Notes: [1] 2002 p.32; gweler adran 212(1) i gael ystyr "regulations" a "prescribed".back [2] 1992 p.53, diwygiwyd gan baragraff 22 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.back [3] O.S. 2003/3227 (Cy.308).back [4] O.S. 2003/3246 (Cy.321).back
ISBN 0 11090985 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 20 July 2004 |