Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2004, ISBN 0110909844. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, a chan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn 1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2004 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2004.
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 2.
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002[3] yn lle'r diffiniad o "the Commission Decision" rhodder y diffiniad canlynol -
"
"the Commission Decision" means Commission Decision 2002/79/EC imposing special conditions on the import of peanuts and certain products derived from peanuts originating in or consigned from China[4]) as amended by Commission Decision 2002/233/EC [5], Commission Decision 2002/678/EC[6], Commission Decision 2003/550/EC[7] and Commission Decision 2004/429/EC amending Decisions 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC and 2002/80/EC as regards the points of entry through which the products concerned may only be imported into the Community [8];".
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 3.
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) Rheoliadau 2002[9]) yn lle'r diffiniad o "the Commission Decision" rhodder y diffiniad canlynol -
"the Commission Decision" means Commission Decision 2002/80/EC imposing special conditions on the import of figs, hazelnuts and pistachios and certain products derived thereof originating in or consigned from Turkey[10] as amended by Commission Decision 2002/233/EC, Commission Decision 2002/679/EC[11]), Commission Decision 2003/552/EC[12] and Commission Decision 2004/429/EC amending Decisions 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC and 2002/80/EC as regards the points of entry through which the products concerned may only be imported into the Community [13];".
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 4.
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[14]) yn lle'r diffiniad o " Penderfyniad y Comisiwn" rhodder y diffiniad canlynol -
"
ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil sydd yn eu plisg ac sy'n tarddu o Brasil neu a draddodir oddi yno[15] fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/428/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2003/493/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned gnau Brasil sydd yn eu plisg ac sy'n tarddu o Frasil neu a draddodir oddi yno[16];".
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 5.
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003[17] yn lle'r diffiniad o "Penderfyniad y Comisiwn" rhodder y diffiniad canlynol -
"
ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 97/830/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ac sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran neu a draddodir oddi yno[18] fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 1998/400/EC[19]), Penderfyniad y Comisiwn 2000/238/EC[20], Penderfyniad y Comisiwn 2003/551/EC[21]) a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC sy'n diwygio Penderfyniadau 97/830/ EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC a 2002/80/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned y cynhyrchion dan sylw[22];".
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 6.
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[23] yn lle'r diffiniad o "Penderfyniad y Comisiwn" rhodder y diffiniad canlynol -
"
ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 2000/49/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 1999/356/EC ac sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio pysgnau a chynhyrchion penodol sy'n deillio o bysgnau sy'n tarddu o'r Aifft neu a draddodir oddi yno[24]) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/580/EC[25] a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC sy'n diwygio Penderfyniadau 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC a 2002/80/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned y cynhyrchion dan sylw[26];".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[27].
Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2295 fel y'i diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2296 fel y'i diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288) a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2910) er mwyn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC sy'n diwygio Penderfyniadau 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC a 2002/80/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned y cynhyrchion dan sylw (rheoliadau 2, 3, 5 a 6); a
Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 fel y'i diwygiwyd eisoes) er mwyn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn 2004/428/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2003/493/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned gnau Brasil sydd yn eu plisg ac sy'n tarddu o Frasil neu a draddodir oddi yno (rheoliad 4).
Mae pob un o'r offerynnau a ddiwygir gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio math penodol o fwyd.
Mae pob un o'r offerynnau hynny'n darparu ei bod yn rhaid i'r bwyd dan sylw gael ei fewnforio drwy bwyntiau mynediad penodol a restrir yn y Penderfyniad perthnasol.
Caiff y pwyntiau mynediad hynny eu hadolygu gan y Penderfyniadau a roddir ar waith gan y Rheoliadau hyn.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yngŷn â'r Rheoliadau hyn.