Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004, ISBN 011090981X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7 ac 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Tachwedd 2004. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
(b) llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr; (c) archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;
Hysbysiadau
(b) gellir eu diwygio, eu hatal dros dro, neu eu dirymu drwy hysbysiad a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol; ac (c) cânt fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol fod eu hangen i atal cyflwyno clefyd i'r fangre drwyddedig neu i atal lledaenu clefyd o fewn y fangre drwyddedig neu'r tu allan iddi.
Eithriadau
(b) bydd yr anifeiliaid i gyd yn dod o un set o fangreoedd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei awdurdodi fel grwp meddiannaeth unigol o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 [3]; ac (c) bydd y crynhoad anifeiliaid yn digwydd ar fangre y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arni neu yn ei meddiannu.
Defnyddio mangreoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid
(b) y fangre lle y caniateir crynhoi anifeiliaid, ac (c) yr ardal y mae'r anifeiliaid i gael mynediad ("yr ardal anifieliaid")
Cyfyngiad o 27 diwrnod ar gynnal crynhoad anifeiliaid
(b) ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre, pan fydd yr holl gyfarpar a ddefnyddiwyd gan yr anifeiliaid wedi ei lanhau fel nad oes unrhyw arwydd weledol ei bod wedi'i halogi.
Esemptiad i'r cyfnod cyfyngiad o 27 diwrnod ar gyfer mangre ag ardal i anifeiliaid sydd wedi'i phalmantu
(b) rhaid iddo gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre drwyddedig a chyn i grynhoad anifeiliaid gael ei gynnal ar y safle eto.
(3) Mae'n rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r ardal i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.
(b) yn cael eu trin er mwyn sicrhau nad oes perygl y byddant yn trosglwyddo clefydau; neu (c) eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt.
(5) Os, ar ôl yr achlysur diwethaf pan gafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, y'i halogir â dom anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid neu unrhyw halogyn sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid ysgubo neu grafu'n lân yr ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi eu halogi felly, a'u glanhau drwy olchi a thrwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd ar y fangre drwyddedig eto.
(b) mai bach yw'r perygl o gyflwyno clefydau yn y gwerthiant ac o ledaenu clefydau wedi hynny.
(3) Yn achos crynhoad anifeiliaid nad yw paragraff (1) yn gymwys iddo, os un o ddibenion y crynhoad yw crynhoi anifeiliaid ynghyd i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr, rhaid i'r crynhoad beidio â phara am fwy na 48 awr, gan ddechrau ganol dydd.
(b) rhoi cyhoeddusrwydd i'r crynhoad anifeiliaid fel y bydd y sawl sy'n dod ag anifeiliaid yno yn cael gwybod am yr amser dechrau a diweddu newydd.
(2) Os yw'r crynhoad anifeiliaid yn un sy'n digwydd ar sail reolaidd, gall yr hysbysiad a'r cyhoeddusrwydd fod ar gyfer cyfres o grynoadau anifeiliaid.
(b) ystyr "casgliad cigydda dynodedig" yw achlysur pan grynhoir anifeiliaid ynghyd yn unig at ddibenion eu traddodi ymlaen yn uniongyrchol i'w cigydda ym Mhrydain Fawr.
Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
(b) oni chafodd y cyfarpar ei ysgubo a'i grafu'n lân, ei lanhau drwy ei olchi a'i ddiheintio â diheintydd a gymeradwywyd.
Gorfodi Dyletswyddau trwyddedai 1. - (1) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y fangre drwyddedig yn cael gwybod bod y safle'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall. (2) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu baddonau traed ac ynddynt ddiheintydd a gymeradwywyd wrth y ffyrdd allan o'r ardal i anifeiliaid ac wrth unrhyw fan llwytho a dadlwytho, a darparu cyfleusterau ar y fangre drwyddedig ar gyfer newid, glanhau a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu. (3) Mae'n rhaid i'r trwyddedai -
(b) sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw anifeiliaid yn gadael yr ardal i anifeiliaid ac eithrio ar gerbyd.
(4) Yn achos crynhoad anifeiliaid y mae erthyglau 8 i 9 yn gymwys, rhaid i'r trwyddedai sicrhau -
(b) bod pob anifail yn cael ei symud o'r fangre erbyn diwedd y crynhoad anifeiliaid.
Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
(b) newid ei ddillad am ddillad glân; (c) eu taflu; neu (d) ymadael â'r fangre drwyddedig.
(3) Os bydd person y tu allan i'r ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â dom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis a hynny ar ei union -
(b) newid ei ddillad am ddillad glân, (c) gwaredu dillad y gellir eu taflu, neu (d) ymadael â'r fangre drwyddedig.
Esgidiau i'w gwisgo yn yr ardal i anifeiliaid
(b) yn unswydd er mwyn eu glanhau a'u diheintio, os yr eir â hwy yn unionsyth i'r cyfleusterau glanhau a diheintio yn ddi-oed ar ôl cyrraedd y fangre.
(3) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar sy'n ymadael â mangre drwyddedig -
(b) ac arnynyt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â dom yr anifeiliaid neu halogiad arall sy'n deillio o anifeiliaid a oedd yn cael eu llwytho ar y cerbyd ar y fangre drwyddedig
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003. Dyma'r newidiadau y mae'n eu gwneud i'r Gorchymyn hwnnw -
Mae'n ei gwneud yn ofynnol cael trwydded am grynoadau anifeiliaid, fel y bu hi'n ofynnol eisoes (erthygl 5). Mae'n pennu na cheir cynnal crynhoad anifeiliaid os nad yw'n digwydd 27 diwrnod ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre honno ac ar ôl i halogiad gweladwy gael ei lanhau oddi ar gyfarpar ar y fange honno (erthygl 6). Os ar fangre wedi ei phalmantu y cynhelir y crynhoad, mae erthygl 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer glanhau a diheintio'r fangre honno ac yn caniatáu cynnal crynhoad o fewn y terfynau amser arferol. Mae'n gosod terfyn amser o 48 awr ar grynoadau at ddibenion gwerthiant sy'n cael ei gynnal ar fangre wedi'i phalmantu (erthygl 8) a llwythi o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen a gedwir ar unrhyw fangre. Mae'n gosod dyletswyddau ar y personau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid (erthygl 7 a'r Atodlen). Mae'n gosod cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid (erthygl 12). Notes: [1] 1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999, O.S. 1993/3141). Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back [2] O.S. 1978/32, O.S. 1999/919, O.S. 2002/3195, O.S. 2001/641.back [3] O.S. 2003/1966 (Cy.211).back [4] O.S. 2003/1967 (Cy.212).back
ISBN 0 11090981 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 19 July 2004 |