Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, ISBN 0110909755. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 132, 145 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 132(4), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 ac maent yn dod i rym at ddibenion rheoliadau 1, 2, 3 a 8 ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud ac at bob diben arall ar 1 Medi 2004. 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 3. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Mae cyfeiriad at sefydliad heb ddisgrifiad pellach yn gyfeiriad at sefydliad addysg bellach neu sefydliad o fewn y sector addysg uwch.
(b) rheoliad â Rhif , yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn; (c) paragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos; ac (ch) is-baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos.
Dirymiadau a darpariaethau trosiannol
(b) os ydynt yn bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 5 i 14 o Ran 1 o Atodlen 2 a'u bod wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor yn unol â rheoliad 6.
Hysbysu o statws athrawon cymwysedig
Achredu sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant cychwynnol athrawon 1. Bydd unrhyw achrediad at ddibenion -
(b) paragraff 2 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999 sydd mewn grym yn union cyn 1 Medi 2004,
yn cael effaith fel petai wedi'i roi at ddibenion rheoliad 7. 1. Yn yr Atodlen hon -
2.
Personau sy'n athrawon cymwysedig yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999.
(b) sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn sefydliad achrededig yng Nghymru; ac (c) sydd wedi'u hasesu gan y sefydliad achredu fel rhai sy'n bodloni'r safonau penodedig.
6.
Personau sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ysgol mewn sefydliad addysg yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
(b) datganiad a ddisgrifir yn is-baragraff (2).
(2) Mae'r datganiad yn ddatganiad bod y personau o dan sylw -
(b) yn bodloni un o'r gofynion canlynol -
(ii) maent wedi cwblhau dim llai na thri mis o wasanaeth fel athrawon graddedig neu ddim llai na blwyddyn o wasanaeth fel athrawon cofrestredig ac wedi gwneud y fath gynnydd yn ystod eu cyfnod o wasanaeth fel athrawon graddedig neu athrawon cofrestredig nad oedd angen iddynt, ym marn y corff argymell ac yng ngoleuni'r cynnydd hwnnw, gwblhau'r gwasanaeth hwnnw am gyfnod yr awdurdodiad cyn cael eu hasesu o dan baragraff (c); ac
(c) wedi'u hasesu gan berson cymwys fel rhai sy'n cyrraedd y safonau penodedig.
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr "corff argymell" yw'r corff sy'n drefnydd yr hyfforddiant a roddwyd i'r personau a enwyd yn yr argymhelliad.
(b) sydd wedi'u hasesu gan berson cymwys fel personau sy'n cyrraedd y safonau penodedig; ac (c) y mae argymhelliad amdanynt wedi'i gyflwyno gan neu ar ran y corff argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor a hwnnw'n argymhelliad y dylid eu hysbysu eu bod yn athrawon cymwysedig.
(2) Yn y paragraff hwn ystyr "corff argymell" yw'r corff, sy'n drefnydd unrhyw hyfforddiant a roddwyd i'r personau a enwir yn yr argymhelliad, neu'r ysgol neu sefydliad arall lle mae'r personau hynny wedi'u cyflogi, neu gorff arall sy'n gweithredu ar ran yr ysgol honno neu'r sefydliad hwnnw.
(b) yn bersonau a oedd wedi cyrraedd 24 oed cyn dyddiad cychwyn y drwydded; ac (c) yn bersonau a oedd, cyn dyddiad cychwyn y drwydded, wedi'u cyflogi am ddim llai na dwy flynedd fel athrawon neu ddarlithwyr mewn ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinasol neu Academi), neu sefydliad neu brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu fel Hyfforddwyr neu Swyddogion Addysg yn Lluoedd Arfog y Goron neu fel hyfforddwyr o dan baragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1993 neu baragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 neu baragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004 ac nad oeddent wedi'u diswyddo am resymau heblaw swyddi yn dod i ben.
(4) Maent -
(b) yn bersonau a oedd wedi cwblhau'n llwyddiannus, cyn dyddiad cychwyn y drwydded, naill ai -
(ii) cwrs gradd gyntaf a chwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol i athrawon ysgol mewn sefydliad o'r fath (p'un ai yn yr un sefydliad neu beidio); ac
(c) yn bersonau a oedd wedi'u cyflogi am ddim llai na blwyddyn fel athrawon neu ddarlithwyr mewn ysgol, ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinasol neu Academi), sefydliad neu brifysgol neu sefydliad addysg arall yng Nghymru neu Loegr neu yn rhywle arall ac nad oeddent wedi'u diswyddo am resymau heblaw swyddi yn dod i ben.
12.
- (1) Personau y mae'r awdurdod argymell wedi cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor argymhelliad y dylid eu hysbysu eu bod yn athrawon cymwysedig a datganiad -
(b) eu bod wedi'u hasesu gan yr awdurdod argymell fel rhai sy'n cyrraedd y safonau penodedig; ac (c) cyn -
(ii) 1 Ionawr 1974 eu bod wedi ennill gradd a roddwyd gan brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron, neu (iii) 1 Medi 1989 eu bod wedi ennill gradd a roddwyd gan brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, botaneg, sŵoleg, ffisioleg, biocemeg neu ddaeareg; ac
(ch) yr oeddent yn cael eu cyflogi fel athrawon mewn ysgol annibynnol neu sefydliad addysg bellach cyn 1 Medi 1989.
(2) Yn y paragraff hwn ystyr "corff argymell" -
(b) yn achos penaethiaid neu benaduriaid, cadeirydd corff llywodraethu'r ysgolion, neu os nad oes un, perchennog yr ysgolion.
13.
- (1) Personau y mae'r awdurdod argymell wedi cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor argymhelliad y dylid eu hysbysu eu bod yn athrawon cymwysedig a datganiad -
(ii) yn hyfforddwyr mewn ysgol yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004;
(b) eu bod wedi'u hasesu gan yr awdurdod argymell fel rhai sy'n cyrraedd y safonau penodedig;
(ii) 1 Ionawr 1974 eu bod wedi ennill gradd a roddwyd gan brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron, neu (iii) 1 Medi 1989 eu bod wedi ennill gradd a roddwyd gan brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol neu gan sefydliad estron mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, llysieueg, sŵoleg, ffisioleg, biocemeg neu ddaeareg;
(ch) yr oeddent yn cael eu cyflogi fel athrawon mewn sefydliadau addysg bellach neu ysgolion annibynnol cyn 1 Medi 1989;
(2) Yn y paragraff hwn ystyr "corff argymell" -
(b) yn achos penaethiaid neu benaduriaid, cadeirydd y corff llywodraethu.
14.
Personau a fodlonodd y gofynion ar gyfer cael hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn athrawon cymwysedig o dan Reoliadau 1982, Rheoliadau 1989, Rheoliadau 1993 neu Reoliadau 1999, a'r unig reswm pam nad ydynt yn athrawon cymwysedig yw'r ffaith na chawsant hysbysiad o'r fath. Celfyddyd 15. - (1) Gofynion y paragraff hwn yw bod personau -
(ii) Diploma Aelodaeth Gyswllt o Goleg Brenhinol Celfyddyd (ARCA) neu Feistr Celfyddyd Coleg Brenhinol Celfyddyd (M Art (RCA)), (iii) Diploma Dylunydd Coleg Brenhinol Celfyddyd (Des RCA) neu Dystysgrif Dylunydd Coleg Brenhinol Celfyddyd (Cert Des RCA) neu Feistr Dylunio Coleg Brenhinol Celfyddyd (M Des (RCA)), (iv) Tystysgrif Ysgolion yr Academi Frenhinol a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'r cwrs yn yr Academi yn llwyddiannus, neu (v) Diploma mewn Celfyddyd a Dylunio a ddyfarnwyd gan y Cyngor Cenedlaethol dros Ddiplomâu mewn Celfyddyd a Dylunio; neu
(b) wedi cael cymhwyster a bennwyd ym mharagraffau (i) i (v) o is-baragraff (a) ar 1 Ionawr 1965 neu ar ôl hynny, a chyn ennill y cymhwyster hwnnw eu bod wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol yr oedd eu hangen i gael mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.
Gwaith llaw
(ii) Diploma Graddedigion Ysgol Gerdd y Guildhall (GGSM), (iii) Diploma Graddedigion Coleg Cerdd Llundain (GLCM), (iv) Diploma Graddedigion Ysgol Gerdd y Northern (GNSM), (v) Gradd Meistr mewn Cerddoriaeth Coleg Brenhinol Cerddoriaeth (M Mus, RCM), (vi) Diploma Cymrodoriaeth Coleg Brenhinol yr Organyddion (FRCO), (vii) Diploma Graddedigion Coleg Cerdd y Royal Manchester (GRSM (Manchester)), (viii) Diploma Graddedigion yr Ysgolion Brenhinol Cerdd (GRSM), neu (ix) Diploma Graddedigion Coleg Cerdd Trinity (GTCL); neu
(b) wedi cael cyn 1 Ionawr 1964 gymhwyster -
(ii) Tystysgrif Addysgu Liphook, Ysgol Ewrhythmeg Dalcroze Llundain, a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 1955 neu cyn hynny, (iii) Tystysgrif Canolfan Hyfforddi Cymdeithas Dalcroze (Gorfforedig) a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd a ddaeth i ben ym 1954 neu 1955, (iv) Tystysgrif Ysgol Ewrhythmeg Llundain Cymdeithas Dalcroze (Gorfforedig) a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd a ddaeth i ben ar 1 Ionawr 1956 neu ar ôl hynny, (v) Diploma Addysg Gerddorol i Ysgolion Coleg a Chanolfan Gelfyddydau Dartington, (vi) Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Gerdd y Guildhall (AGSM) neu Drwyddedog Ysgol Gerdd y Guildhall (LGSM) gyda Diploma Athro arbennig (Cerddoriaeth) neu Ddiploma Athro AGSM neu LGSM (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall) neu AGSM neu LGSM mewn Hyfforddiant Clywedol a Gwerthfawrogi Cerddoriaeth neu AGSM neu LGSM mewn Canu Dosbarth a Hyfforddi'r Llais, (vii) Diploma mewn Cerddoriaeth Coleg Technoleg Huddersfield, (viii) Diploma Athro Trwyddedog Coleg Cerdd Llundain (LLCM (TD)) mewn offeryn, neu'r llais neu (os y'i cafwyd erbyn 31 Rhagfyr 1960 fan bellaf) mewn Cerddoriaeth Ysgol neu LLCM mewn Cerddoriaeth Ysgol, (ix) Diploma Cyswllt Addysg Gerddorol Ysgol Gerdd y Northern, (x) Diploma Athro Trwyddedog yr Academi Frenhinol Gerdd (LRAM) (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall) neu LRAM mewn Hyfforddiant Clywedol neu LRAM mewn Meithrin Llais a Chanu Dosbarth, (xi) Diploma Athro Aelodaeth Gyswllt o'r Coleg Brenhinol Cerdd (ARCM) (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall), (xii) Aelodaeth Gyswllt o Goleg Brenhinol Cerdd y Royal Manchester (ARMCM) neu ARMCM (Cerddoriaeth Ysgol), (xiii) Diploma Athro Trwyddedig Coleg Cerdd Trinity, Trwyddedog Coleg Trinity Llundain (LTCL) (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall) neu Gymrodoriaeth, FTCL neu Ddiploma Addysg Gerddorol ar gyfer Ysgolion (LTCL Mus Ed), (xiv) Diploma mewn Cerddoriaeth unrhyw un o Golegau Prifysgol Cymru, neu (xv) Trwyddedog yr Ysgolion Brenhinol Cerdd (LRSM) neu Ddiploma Athro'r Ysgolion Brenhinol Cerdd (boed hynny ar gyfer offeryn neu fel arall);
a chyn iddynt ennill y cymhwyster y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a) neu (b) yr oeddent wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol yr oedd eu hangen i gael mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.
Gwniadwaith a Phynciau Cartref
(b) Tystysgrif Athrawon Technegol Sefydliad Dinas ac Urddau Llundain a ddyfarnwyd o 1955 i 1964 a dwy Dystysgrif y Sefydliad mewn gwahanol bynciau gwniadwaith, y mae rhaid i un ohonynt fod yn dystysgrif uwch, neu (c) Tystysgrif Athro Pynciau Cartref (Addysg Bellach) Sefydliad Dinas ac Urddau Llundain a ddyfarnwyd o 1956 i 1970, ynghyd â'r canlynol
(ii) Tystysgrif y Sefydliad mewn Coginio Cartref Uwch a Thystysgrif y Sefydliad mewn Gwyddor Tŷ neu Reoli Cartref.
Gwyddoniaeth
(b) Aelodaeth neu Aelodaeth Gysylltiol y Sefydliad Ffiseg gan gynnwys cymhwyster Aelodaeth Gyswllt neu Raddedig y Sefydliad a gafwyd cyn 1 Mawrth 1971, (c) Aelodaeth Gyswllt neu Raddedig Sefydliad Brenhinol Cemeg, neu (ch) Aelodaeth o'r Sefydliad Bioleg.
Lleferydd a Drama
(b) Diploma Addysgu mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn yr Academi Frenhinol Gerdd, (c) Diploma Addysgu mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yng Ngholeg Newydd Lleferydd a Drama, (ch) Diploma Athro Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Cerdd a Drama'r Guildhall (AGSM) mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn Ysgol Cerddoriaeth a Drama'r Guildhall cyn 1 Ionawr 1960, (d) Diploma a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd mewn Lleferydd a Drama a gynhaliwyd gan Goleg Hyfforddiant Lleferydd a Drama Rose Bruford (Coleg Lleferydd a Drama Rose Bruford wedi hynny), (dd) Tystysgrif Athro a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd mewn Lleferydd a Drama a gynhaliwyd gan Ysgol Gerdd y Northern tan 1968, (e) Diploma a ddyfarnwyd ym 1969 ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd ar gyfer athrawon Lleferydd a Drama yng Ngholeg Celfyddyd a Dylunio Manceinion, neu (f) Diploma a ddyfarnwyd o 1970 ymlaen ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd ar gyfer athrawon Lleferydd a Drama ym Mholytechnig Manceinion,
a chyn iddynt ennill cymhwyster y cyfeiriwyd ato yn is-baragraffau (a) i (f) yr oeddent wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol yr oedd eu hangen i gael mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.
(b) Tystysgrif Genedlaethol Uwch, (c) Diploma mewn Technoleg a ddyfarnwyd gan y Cyngor Cenedlaethol dros Ddyfarniadau Technolegol neu'r Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol, neu (ch) Tystysgrif A Undeb neu Sefydliad Cenedlaethol Froebel a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau cwrs tair blynedd yn llwyddiannus.
Dehongli (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu darpariaethau yn Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (Rheoliadau 1999). Mae Rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn dirymu'r rheoliadau cynharach ac yn gwneud darpariaethau trosiannol. Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn pennu'r gofynion sydd i'w bodloni gan bobl cyn y gallant ddod yn athrawon cymwysedig. Mae pobl y'u cydnabyddir fel athrawon cymwysedig yn cynnwys -
Mae rheoliad 6 yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor i fod i hysbysu pobl eu bod yn athrawon cymwysedig. Notes: [1] 2002 p. 32. Ystyr "Regulations" yw rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 212(1)).back [2] Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004, O.S.2004/ (Cy.), oedd y rheoliadau a oedd mewn grym adeg gwneud y Rheoliadau hyn.back [3] O.S. 1959/364 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1968/1281, 1969/1777, 1971/342, 1973/2021 a 1978/1144.back [4] O.S. 1982/106 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 a 1989/329.back [5] O.S. 1989/1319 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1989/1541, 1990/1561, 1991/1134, 1991/1840, 1991/2240 a 1992/1809.back [6] O.S. 1993/543 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/368, 1997/2679 a 1998/1584.back [7] O.S.1999/2817(Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy. 158), 2002/2938 (Cy. 279), 2003/140 (Cy.12), 2003/2458 (Cy. 240) ac fel y'i dirymwyd yn rhannol gan O.S.2004/1744 (Cy.183).back [12] Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Lloegr) 2003, O.S.2003/1662, oedd y Rheoliadau a oedd mewn grym mewn perthynas â Lloegr adeg gwneud y rheoliadau hyn.back [13] OJ Rhif L 19, 24.1.89, tud 16.back
ISBN 0 11090975 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 20 July 2004 |