Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004, ISBN 0110909828. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2004 Rhif 1728 (Cy.172) (C.67)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud
13 Gorffennaf 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a dehongli 1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004.
2.
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig.
3.
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Diwrnodau penodedig 4.
1 Awst 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5.
1 Medi 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004
RHAN
1
Darpariaethau yn dod i rym ar 1 Awst 2004
Y ddarpariaeth
Y pwnc
Adran 72
Cynigion sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen
Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol 21 isod
Atodlen 9
Cynigion sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech - gweithredu
Atodlen 21
Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 100(3)
RHAN
2
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Medi 2004
Y ddarpariaeth
Y pwnc
Adran 21
Cyfrifoldeb cyffredinol dros redeg ysgol
Adran 22
Hyfforddiant a chymorth i lywodraethwyr
Adran 30
Adroddiadau llywodraethwyr a gwybodaeth arall
Adran 32
Cyfrifoldeb dros bennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau
Adran 39(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diffiniad o "statutory provision"
Dehongli Pennod 1
Adran 155
Arolygu addysg feithrin
Adran 176
Ymgynghori â disgyblion
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod
Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod
Diddymiadau
Atodlen 14, paragraffau 1 i 7
Arolygu addysg feithrin
Atodlen 21 -
Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol
Paragraff 39(1) a (5)
Paragraff 63 ac eithrio is-baragraff (a)
Paragraff 68
Paragraff 110(1) a (3) ond at ddiben dileu paragraff (e) o is-adran (6) o adran 127 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Atodlen 22, Rhan 3, diddymu -
Diddymiadau
Deddf Plant 1989[3], adran 79P(4)(d) a'r "and" sy'n dod o'i blaen;
Adran 38, adrannau 41 a 42, adran 127(6)(e), yn adran 138, yn is-adran (4)(b), y geiriau "paragraph 4 or 8 of Schedule 23 or", ac yn is-adran (5), paragraff (a)(ii) a (iii) ac, ym mharagraff (b)(ii), y gair "46", yn Rhan II o Atodlen 11, paragraff 7, yn Atodlen 30, paragraff 204(b)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Awst 2004 ac 1 Medi 2004 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, mewn perthynas â Chymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru - gweler adran 211.
Mae effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen fel a ganlyn -
Mae adran 72 ac Atodlen 9 yn diwygio Deddf Dysgu a Medrau 2000 er mwyn galluogi Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant i gynnig sefydlu, addasu neu gau dosbarthiadau chwech. Mae ei gynigion i'w cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"). Nodir y gweithdrefnau mewn rheoliadau.
Mae effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen fel a ganlyn -
Mae adrannau 21, 22, 30 a 32 yn ailddeddfu darpariaethau penodol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") ynglŵn â llywodraethu ysgolion a gynhelir.
Mae adran 21 yn darparu mai corff llywodraethu ysgol sy'n gyfrifol am ei rhedeg. Mae'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n nodi rolau a chyfrifoldebau cyrff llywodraethu, penaethiaid ac AALl.
Mae adran 22 yn darparu bod rhaid i AALl ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant yn rhad ac am ddim i lywodraethwyr.
O dan adran 30 rhaid i gorff llywodraethu baratoi adroddiad blynyddol. Bydd y rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi'r gofynion ynglŵn â chynnwys adroddiadau blynyddol a'u dosbarthu. Rhaid i gyrff llywodraethu ddarparu adroddiadau o'r fath i'r AALl yn unol â'i ofynion, a rhaid i benaethiaid ddarparu adroddiadau o'r fath i gyrff llywodraethu neu AALl yn unol â'u gofynion hwythau.
Mae adran 32 yn nodi, o ran gwahanol gategorïau o ysgol, y corff sy'n gyfrifol am benderfynu dyddiadau tymhorau ysgol, gwyliau ysgol ac amserau sesiynau ysgol. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau ynglŵn â chynigion i newid amserau sesiynau ysgol.
Mae adran 39 yn cynnwys diffiniadau.
Mae adran 155 ac Atodlen 14 yn diwygio Atodlen 26 i Ddeddf 1998 sy'n gwneud darpariaeth ynglŵn ag arolygu addysg feithrin. Bydd y diwygiadau hyn yn caniatáu i arolygiadau gael eu gwneud gan aelodau o'r arolygiaeth yn ogystal ag arolygwyr meithrinfyedd cofrestredig, ac yn caniatáu i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru gofrestru'r personau hynny y mae hi'n barnu eu bod yn briodol a chymryd i ystyriaeth yr angen am arolygwyr yng Nghymru. O'r blaen cofrestrodd hi unrhyw berson a fodlonodd y meini prawf statudol. Mae Atodlen 14 yn cynnwys diwygiadau hefyd a fydd yn golygu y bydd apelau yn erbyn penderfyniadau ar gofrestru yn cael eu gwneud yn Lloegr i'r tribiwnlys a sefydlwyd o dan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999. Bydd apelau yng Nghymru yn parhau i gael eu gwneud i Dribiwnlys yr Arolygydd Meithrinfeydd Cofrestredig, ond mae rhai diwygiadau sy'n ganlyniad i'r newidiadau yn Lloegr.
Mae adran 176 yn gosod dyletswydd ar AALl a chyrff llywodraethu i roi sylw i ganllawiau'r Cynulliad Cenedlaethol ynglŵn ag ymgynghori â disgyblion ynghylch gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth
Y Dyddiad Cychwyn
Rhif O.S.
Adrannau 14 i 17
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 18(2)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran (19)(6) (yn rhannol)
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adrannau 27 a 28
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 29
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 40 (yn rhannol)
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 41
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Adran 42
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Adran 43
1 Tachwedd 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 46
1 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Adran 49
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 51 (yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
Adran 52 (yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
Adrannau 54 i 56
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 60 i 64
1 Awst 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 75 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 97 a 98
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 99(1)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 100 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 101 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 103
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 105 i 107
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 108 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 109
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 111 i 118
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 119
1 Hydref 2002
2002/2439
Adran 120(1) a (3) i (5)
1 Hydref 2002
2002/2439
Adran 120(2)
1 Awst 2003
2003/1667
Adran 121
1 Hydref 2002
2002/2439
Adran 122 i 129
1 Awst 2003
2003/1667
Adran 130 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn llawn)
1 Awst 2003
2003/1667
Adran 131
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 132 a 133
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 134 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 135
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 136 i 140
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 141
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 142 i 144
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 145
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 146 (yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 148 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 149
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 150
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 151(2)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 152 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 154
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
Adran 156
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
Adrannau 157 i 174
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
Adran 177
1 Awst 2004
2004/912 (Cy.95)
Adran 178(1) a (4)
1 Awst 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 179 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 180
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 181 i 185
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy. 185)
Adran 188 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Adran 189 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 191 i 194
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 195 (yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn llawn)
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 196
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 197
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 198
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
Adran 199
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 200
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 201 (yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 202 a 203
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 206
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 207 a 208
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
Adran 215 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)
1 Awst 2004
2004/912 (Cy.95)
Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol)
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 3, paragraffau 1 i 5
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 4, paragraffau 1 a 4
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
Paragraff 12(1), (3) i (5)
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
Atodlen 5
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 11
1 Hydref 2002
2002/2439
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Paragraff 12(1) a (2)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 8
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 16, paragraffau 1 i 3
1 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 4 i 9
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7,
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 (yn rhannol),
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 15
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 19
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 20
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 21 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1667
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
Atodlen 22 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
9 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)
1 Awst 2004
2004/912 (Cy.95)
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O. S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667, O.S. 2003/2071 ac O.S. 2004/1318.