Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004, ISBN 011090964X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â materion sy'n ymwneud ag asesiadau o effeithiau cynlluniau a rhaglenni penodol ar yr amgylchedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran 2 a enwyd a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 12 Gorffennaf 2004. Dehongli 2. - (1) Yn y rheoliadau hyn -
(b) os bydd yr awdurdod hwnnw'n peidio â bod yn gyfrifol, neu'n gyfrifol yn unigol, ar unrhyw adeg benodol, dros gymryd camau mewn perthynas â'r cynllun neu'r rhaglen, y person sydd, ar yr adeg honno, yn gyfrifol (yn unigol neu ar y cyd â'r awdurdod) dros gymryd y camau hynny;
(b) wedi'u paratoi gan awdurdod ar gyfer eu mabwysiadu, drwy weithdrefn ddeddfwriaethol gan Senedd neu Lywodraeth; ac, yn y naill achos neu'r llall, (c) yn ofynnol gan ddarpariaethau deddfwriaethol, rheoleiddiol neu weinyddol;
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac hefyd yn y Gyfarwyddeb Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt yn y Gyfarwyddeb honno.
(b) Asiantaeth yr Amgylchedd; a (c) Cadw.
(2) Os bydd corff a grybwyllir ym mharagraff (1) ar unrhyw adeg yn awdurdod cyfrifol o ran cynllun neu raglen, rhaid iddo beidio ar yr adeg honno ag arfer swyddogaethau corff ymgynghori o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno; ac mae cyfeiriadau at gyrff ymgynghori yn narpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn i'w dehongli yn unol â hynny. Asesiad amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni: y weithred baratoadol ffurfiol gyntaf ar ôl 21 Gorffennaf 2004 5. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6) a rheoliad 7 -
(b) os yw'r cynllun neu'r rhaglen o ddisgrifiad a nodir ym mharagraff (2) neu (3),
rhaid i'r awdurdod cyfrifol gyflawni asesiad amgylcheddol, neu sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni, yn unol â Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn, yn ystod paratoi'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno a chyn iddynt gael eu mabwysiadu neu eu cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol.
r, telathrebu, twristiaeth, cynllunio gwlad a thref neu ddefnydd o dir; a(b) sy'n gosod y fframwaith ar gyfer caniatâd datblygu yn y dyfodol ar gyfer prosiectau a restrir yn Atodiad I neu II i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC[6].
(3) Y disgrifiad yw cynllun neu raglen y penderfynwyd ei bod yn ofynnol eu hasesu yn unol ag Erthygl 6 neu 7 o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn sgil yr effaith debygol ar safleoedd.
(b) os yw'r cynllun neu'r rhaglen yn gosod fframwaith ar gyfer caniatadau datblygu prosiectau; a (c) os yw'r cynllun neu'r rhaglen yn destun penderfyniad o dan reoliad 9(1), neu gyfarwyddyd o dan reoliad 10(3), eu bod yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol,
rhaid i'r awdurdod cyfrifol gyflawni asesiad amgylcheddol, neu sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni, yn unol â Rhan 3, yn ystod paratoi'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno a chyn iddynt gael eu mabwysiadu neu eu cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol sy'n arwain at eu mabwysiadu.
(b) cynllun neu raglen ariannol neu gyllidebol; neu (c) cynllun neu raglen a gydariannwyd o dan -
(ii) cyfnod rhaglennu 2000-2007 ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999.
(6) Nid oes angen cyflawni asesiad amgylcheddol ar gyfer -
(b) mân addasiad i gynllun neu raglen o ddisgrifiad a nodir yn y naill neu'r llall o'r paragraffau hynny,
oni chafodd ei benderfynu o dan reoliad 9(1) bod y cynllun, y rhaglen neu'r addasiad, yn ôl y digwydd, yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol, neu eu bod yn destun cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3).
(b) os yw'r cynllun neu raglen o fath y byddai angen asesiad amgylcheddol ar eu cyfer, yn rhinwedd rheoliad 5(1), pe bai'r weithred gyntaf yn eu paratoad wedi digwydd ar ôl 21 Gorffennaf 2004; neu (c) os yw'r awdurdod cyfrifol o'r farn y byddai wedi penderfynu bod y cynllun neu raglen yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol, pe bai penderfyniad o dan reoliad 9(1) mewn perthynas â'r cynllun neu raglen wedi'u gwneud ar ôl 21 Gorffennaf 2004,
rhaid i'r awdurdod cyfrifol gyflawni asesiad amgylcheddol, neu sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni, yn unol â Rhan 3, yn ystod paratoi'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno a chyn iddynt gael eu mabwysiadu neu eu cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol ar gyfer eu mabwysiadu.
(b) yn hysbysu'r cyhoedd o'i benderfyniad.
Asesiad amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd
(b) ym mhob achos arall, cyn bod y penderfyniad wedi cael ei wneud o dan reoliad 9(1).
(2) Nid yw cynllun neu raglen y mae'n ofynnol cael asesiad amgylcheddol ar eu cyfer gan unrhyw ddarpariaeth o'r Rhan hon i gael eu mabwysiadu na'u cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol at ddibenion eu mabwysiadu -
(b) ym mhob achos arall, cyn bod gofynion paragraff (3) isod, a'r gofynion hynny yn Rhan 3 sy'n gymwys mewn perthynas â'r cynllun neu'r rhaglen, wedi'u bodloni.
(3) Mae'r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ystyried -
(b) pob barn a fynegwyd wrth ymateb i wahoddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2)(ch); (c) pob barn a fynegwyd wrth ymateb i gamau a gymrwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn unol â rheoliad 13(4); ac (ch) canlyniad unrhyw ymgynghori a ddechreuwyd o dan reoliad 14.
Penderfyniadau'r awdurdod cyfrifol
(b) ym mharagraff (6)(a) o'r rheoliad hwnnw; neu (c) ym mharagraff (6)(b) o'r rheoliad hwnnw,
yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol.
(b) ymgynghori â'r cyrff ymgynghori.
(3) Os bydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu nad yw'r cynllun, y rhaglen neu'r addasiad yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol (ac, yn unol â hynny, nad yw'n ofynnol cael asesiad amgylcheddol), rhaid iddo baratoi datganiad o'i resymau dros benderfyniad o'r fath.
(b) copi o'r cynllun, y rhaglen neu'r addasiad y mae'r penderfyniad yn ymwneud â hwy; a (c) os yw paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys, datganiad o'r rhesymau a baratowyd yn unol â'r paragraff hwnnw.
(2) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol gydymffurfio â'r gofyniad a bennir o dan baragraff (1) o fewn 7 niwrnod ar ôl cael hysbysiad ohono.
(b) ymgynghori â'r cyrff ymgynghori.
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r cyfarwyddyd, anfon at yr awdurdod cyfrifol ac at bob corff ymgynghori -
(b) datganiad o'i resymau dros roi'r cyfarwyddyd.
(6) Mewn perthynas â chynllun, rhaglen neu addasiad y rhoddwyd cyfarwyddyd mewn perthynas â hwy -
(b) os na wnaed penderfyniad o dan reoliad 9(1) o ran y cynllun, y rhaglen neu'r addasiad, bydd yr awdurdod cyfrifol yn peidio â bod o dan unrhyw ddyletswydd a osodwyd gan y rheoliad hwnnw.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr "cyfarwyddyd" yw cyfarwyddyd o dan baragraff (3).
(b) os yw wedi penderfynu nad yw'n ofynnol i'r cynllun neu'r rhaglen gael asesiad amgylcheddol, datganiad o'i resymau dros y penderfyniad hwnnw.
(2) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol -
(b) o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud copi o benderfyniad o'r fath, cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd -
(ii) bod yr awdurdod cyfrifol wedi penderfynu bod y cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol, neu yn ôl y digwydd, nad ydynt yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ac, yn unol â hynny, bod angen neu, yn ôl y digwydd, nad oes angen asesiad amgylcheddol mewn perthynas â'r cynllun, rhaglen neu addasiad; a (iii) y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir archwilio neu lle gellir cael copi o'r penderfyniad ac unrhyw ddatganiad o'r rhesymau sydd gydag ef.
(3) Os bydd awdurdod cyfrifol yn cael cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3), rhaid iddo -
(b) o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cyfarwyddyd o'r fath, cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd -
(ii) bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi cyfarwyddyd bod y cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ac, yn unol â hynny, bod angen asesiad amgylcheddol mewn perthynas â'r cynllun, rhaglen neu addasiad; a (iii) y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir archwilio neu lle gellir cael copi o gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol (a datganiad o'i resymau dros roi'r cyfarwyddyd).
(4) Nid oes dim ym mharagraff (2)(b)(iii) neu (3)(b)(iii) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cyfrifol ddarparu copi o'r dogfennau o dan sylw yn ddi-dâl; ond os codir tâl, rhaid iddo fod yn swm rhesymol. Paratoi adroddiad amgylcheddol 12. - (1) Os oes asesiad amgylcheddol yn ofynnol gan unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 2, rhaid i'r awdurdod cyfrifol baratoi adroddiad amgylcheddol, neu sicrhau bod un yn cael ei baratoi, yn unol â pharagraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwn. (2) Rhaid i'r adroddiad ddynodi, disgrifio a gwerthuso'r effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd -
(b) drwy ddewisiadau eraill rhesymol, gan gymryd i ystyriaeth amcanion a sgôp daearyddol y cynllun neu'r rhaglen.
(3) Rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 y gall fod angen rhesymol amdani, gan gymryd i ystyriaeth -
(b) cynnwys a lefel y manylder yn y cynllun neu'r rhaglen; (c) statws y cynllun neu'r rhaglen yn y broses o wneud penderfyniadau; a (ch) i ba raddau y mae'n fwy priodol asesu rhai materion ar wahanol lefelau yn y broses honno er mwyn osgoi dyblygu'r asesiad.
(4) Gellir rhoi'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 drwy gyfeirio at wybodaeth berthnasol a gafwyd ar lefelau eraill y broses benderfynu neu drwy ddeddfwriaeth arall y Gymuned.
(b) cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn paratoad y dogfennau perthnasol i sylw'r personau, ym marn yr awdurdod, yr effeithir arnynt neu y mae'n debygol yr effeithir arnynt, neu mae ganddynt fuddiant yn y penderfyniadau sy'n ymwneud ag asesu a mabwysiadu'r cynllun neu'r rhaglen o dan sylw, sy'n ofynnol o dan y Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni ("yr ymgynghoreion cyhoeddus"); (c) hysbysu'r cyrff ymgynghori a'r ymgynghoreion cyhoeddus o'r cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld y dogfennau perthnasol, neu lle gellir cael copi ohonynt; a (ch) gwahodd y cyrff ymgynghori a'r ymgynghoreion cyhoeddus i fynegi eu barn ar y dogfennau perthnasol, gan nodi'r cyfeiriad y dylid anfon y farn iddo ac yn ystod pa gyfnod y mae'n rhaid ei derbyn.
(3) Rhaid i'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(ch) -
(b) fod am yr hyd hwnnw a fydd yn sicrhau y bydd y cyrff ymgynghori a'r ymgynghoreion cyhoeddus yn cael cyfle effeithiol i fynegi eu barn ar y dogfennau perthnasol.
(4) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol sicrhau bod copi o'r dogfennau perthnasol ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl.
(b) rhoi copi o'r cynllun neu'r rhaglen o dan sylw a'r adroddiad amgylcheddol sydd gydag ef i'r Cynulliad Cenedlaethol
(2) Os hysbyswyd y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r awdurdod cyfrifol, o fewn cyfnod y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod (a hwnnw'n gyfnod nad yw'n llai na 21 diwrnod), roi i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth arall honno am y cynllun neu'r rhaglen, neu'r adroddiad amgylcheddol sydd gydag ef, y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol.
(b) os yw Aelod-wladwriaeth y mae'n debygol yr effeithir arni'n arwyddocaol wrth weithredu cynllun neu raglen o'r fath yn gwneud cais am y dogfennau a bennir ym mharagraff (4)(a).
(4) Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol -
(b) hysbysu'r awdurdod cyfrifol bod paragraff (3)(a) neu (b) yn gymwys, yn ôl y digwydd; a (c) cyfarwyddo'r awdurdod cyfrifol bod yn rhaid iddo beidio â mabwysiadu, neu gyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol ar gyfer eu mabwysiadu, y cynllun neu'r rhaglen nes bod yr ymarfer ymgynghori wedi'i gwblhau.
Cynlluniau a rhaglenni Aelod-wladwriaethau eraill
(b) y mae eu gweithredu yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar amgylchedd unrhyw rhan o'r Deyrnas Unedig,
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon unrhyw wybodaeth y mae'n ei derbyn at yr Ysgrifennydd Gwladol. Gwybodaeth o ran mabwysiadu cynllun neu raglen 16. - (1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen y cyflawnwyd asesiad amgylcheddol ar eu cyfer o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r awdurdod cyfrifol -
(b) cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd -
(ii) y dyddiad y mabwysiadwyd hwy; (iii) y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld neu lle gellir cael copi ohonynt, a'r adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy, a chopi o'r datganiad sy'n cynnwys y manylion a bennir ym mharagraff (4); (iv) yr amserau pan ellir archwilio; a (v) y gellir archwilio'n ddi-dâl.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen -
(ii) y personau a oedd, o ran y cynllun neu'r rhaglen, yn ymgynghoreion cyhoeddus at ddibenion rheoliad 13; a (iii) os nad y Cynulliad Cenedlaethol yw'r corff cyfrifol, y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol,
am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).
(b) y dyddiad y mabwysiadwyd hwy; a (c) y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld copi neu lle gellir cael copi -
(ii) yr adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy; a (iii) datganiad sy'n cynnwys y manylion a bennir ym mharagraff (4),
(4) Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(iii) a (3)(c)(iii) -
(b) sut y cymrwyd yr adroddiad amgylcheddol i ystyriaeth; (c) sut y cymrwyd i ystyriaeth y farn a fynegwyd wrth ymateb -
(ii) y camau a gymrwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn unol â rheoliad 13(4);
(ch) sut y cymrwyd i ystyriaeth ganlyniadau unrhyw ymgynghori a wnaed o dan reoliad 14;
Monitro gweithredu cynlluniau a rhaglenni 1. Nodweddion y cynlluniau a'r rhaglenni, gan ystyried yn benodol -
(b) i ba raddau y mae'r cynllun neu raglen yn dylanwadu ar gynlluniau a rhaglenni eraill gan gynnwys y rhai sydd mewn hierarchaeth; (c) pa mor berthnasol yw'r cynllun neu raglen ar gyfer integreiddio ystyriaethau amgylcheddol yn benodol gyda'r bwriad o hybu datblygu cynaliadwy; (ch) y problemau amgylcheddol sy'n berthnasol i'r cynllun neu'r rhaglen; a (d) pa mor berthnasol yw'r cynllun neu'r rhaglen ar gyfer gweithredu deddfwriaeth y Gymuned ar yr amgylchedd.
2.
Nodweddion yr effeithiau a'r ardal y mae'n debygol yr effeithir arni, gan ystyried yn benodol -
(b) natur gronnol yr effeithiau; (c) natur drawsffiniol yr effeithiau; (ch) y risgiau i iechyd dynol neu i'r amgylchedd; (d) maintioli a hyd a lled yr effeithiau (yr arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth y mae'n debygol yr effeithir arnynt); (dd) pa mor hawdd yw creithio'r ardal y mae'n debygol yr effeithir arni, a gwerth yr ardal honno, oherwydd -
(ii) mynd dros ben safonau ansawdd amgylcheddol neu werthoedd terfyn; neu (iii) defnydd dwys o'r tir; a
(e) yr effeithiau ar fannau neu dirluniau y cydnabyddir bod iddynt statws gwarchod cenedlaethol, Cymunedol neu ryngwladol.
1. Amlinelliad o gynnwys a phrif amcanion y cynllun neu'r rhaglen, a'u perthynas (os oes un) â chynlluniau a rhaglenni eraill. 2. Agweddau perthnasol cyflwr cyfredol yr amgylchedd a'i esblygiad tebygol heb weithredu'r cynllun neu'r rhaglen. 3. Nodweddion amgylcheddol yr ardaloedd y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn arwyddocaol. 4. Unrhyw broblemau amgylcheddol presennol sy'n berthnasol i'r cynllun neu'r rhaglen gan gynnwys, yn benodol, y rhai sy'n ymwneud ag unrhyw ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol arbennig, megis ardaloedd a ddynodwyd yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt[8] a'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd. 5. Amcanion diogelu'r amgylchedd, a sefydlwyd ar lefel ryngwladol, Gymunedol neu Aelod-wladwriaethol, sy'n berthnasol i'r cynllun neu'r rhaglen a'r dull y cyflawnwyd yr amcanion hynny ac unrhyw ystyriaethau amgylcheddol a gymrwyd i ystyriaeth wrth eu paratoi. 6. Yr effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd, gan gynnwys effeithiau byr, canolig a hirdymor, ac effeithiau parhaol a thros dro, effeithiau cadarnhaol a negyddol, ac effeithiau eilaidd, cronnol, a synergyddol, ar faterion gan gynnwys -
(b) poblogaeth; (c) iechyd dynol; (ch) ffawna; (d) fflora; (dd) pridd; (e) d r;(f) awyr; (ff) ffactorau hinsoddol; (g) asedau materol; (ng) y dreftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol; (h) tirlun; a (i) y gydberthynas rhwng y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (h).
7.
Y mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac os yw'n bosibl i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd yn sgil gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2001/42/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar asesu effeithiau cynlluniau a rhaglenni penodol ar yr amgylchedd ("y Gyfarwyddeb") o ran cynlluniau a rhaglenni sy'n ymwneud yn unig â Chymru. Gweithredir y Gyfarwyddeb, mewn perthynas â chynlluniau a rhaglenni sy'n ymwneud â Chymru yn ogystal â rhan arall o'r Deyrnas Unedig, drwy Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni 2004. Nid yw'r Gyfarwyddeb, ac yn unol â hynny, y Rheoliadau hyn, yn gymwys i gynlluniau a rhaglenni sydd yn ymwneud yn unig ag amddiffyn cenedlaethol neu argyfwng sifil, nac yn gymwys i gynlluniau a rhaglenni ariannol neu gyllidebol. Nid ydynt yn gymwys ychwaith i gynllun neu raglen a gydariannwyd gan y Gymuned Ewropeaidd o dan gyfnod rhaglennu 2000-2006 ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 na chyfnod rhaglennu 2000-2006 neu 2000-2007 ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 (Erthygl 3.8 a 3.9 o'r Gyfarwyddeb a rheoliad 5(5) o'r Rheoliadau hyn). Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynlluniau a rhaglenni penodol, gan gynnwys y rhai a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd, ac unrhyw addasiadau iddynt, y maent yn ofynnol gan ddarpariaethau deddfwriaethol, rheoliadol neu weinyddol ac y maent naill ai -
(b) wedi'u paratoi gan awdurdod i'w mabwysiadu, drwy weithdrefn ddeddfwriaethol gan Senedd neu Lywodraeth.
Yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir isod, os yw'r weithred baratoi ffurfiol gyntaf mewn perthynas â chynllun neu raglen y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn digwydd ar ôl 21 Gorffennaf 2004, ni all y cynllun neu raglen gael eu mabwysiadu, na'u cyflwyno ar gyfer eu mabwysiadu, oni fuont yn destun asesiad amgylcheddol o dan y Rheoliadau hyn (Erthyglau 4.1 a 13.3 o'r Gyfarwyddeb a rheoliadau 5(1) a 7 o'r Rheoliadau hyn). Notes: [1] O.S. 2004/706.back [3] O.J. Rhif L 197, 21.07.2001, t.30.back [4] O.J. Rhif L 206, 22.7.1992. Ceir y Gyfarwyddeb ddiwygio ddiweddaraf yn O.J. Rhif L 305, 8.11.1997, t.42.back [5] 1998 p.38. Gweler Erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 3 iddo (O.S. 1999/672).back [6] O.J. Rhif L 175, 5.7.1985, t.40. Ceir y Gyfarwyddeb ddiwygio yn O.J. L73, 14.3.1997, t.5.back [8] O.J. Rhif L 103/1, 25.4.79.back
ISBN 0 11090964 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 7 July 2004 |