Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004, ISBN 0110909607. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth weithredu mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1], yn gwneud y Cynllun canlynol - Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004, bydd yn gymwys yng Nghymru a daw i rym ar 30 Mehefin 2004. Dehongli 2. Yn y Cynllun hwn -
Talu'r grantiau a swm y grantiau
(bb) cyfleusterau gwaredu sefydlog ar gyfer slyri ac elifiant silwair, neu (cc) cyfleusterau (heblaw toeon) ar gyfer gwahanu d r glân a d r brwnt, os yw'r cyfleusterau hynny'n lleihau'r angen i storio slyri; neu
(ii) unrhyw waith, cyfleuster neu drafodyn (gan gynnwys gwaith cadwraeth neu waith hwyluso) o ganlyniad i unrhyw fater y gall grant gael ei dalu mewn perthynas ag ef o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn;
(b) y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o natur cyfalaf neu ei fod wedi'i dynnu mewn cysylltiad â gwariant o natur cyfalaf;
(2) Os yw'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bod gwariant y gwneir cais am grant mewn perthynas ag ef o dan is-baragraff (1) i'w dynnu yn rhannol at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg ac yn rhannol at ddibenion eraill, caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r gwariant hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at redeg y busnes amaethyddol hwnnw fel pe bai wedi'i dynnu at ddibenion rhedeg y busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg.
(b) gwrthod unrhyw gais o'r fath heb ystyriaeth bellach.
(2) Rhaid cyhoeddi hysbysiad -
(ii) i wrthod unrhyw gais heb ystyriaeth bellach o dan is-baragraff (1)(b); neu
(b) o derfynu'r cyfnod perthnasol, yn y London Gazette.
(3) Yn is-baragraffau (1) a (2), ystyr "y cyfnod perthnasol" yw'r cyfnod sy'n dechrau drannoeth ar ôl y dyddiad penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), neu unrhyw ddyddiad wedyn a bennir ganddo mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)(a), ac sy'n diweddu ar y dyddiad y caiff bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)(b).
(b) onid yw wedi'i fodloni y bydd y gwariant y mae'r grant i'w thalu tuag ato yn golygu lles amgylcheddol a fydd yn cronni i'r parth perygl nitradau o dan sylw; (c) onid yw gofynion Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999[4] wedi'u bodloni; (d) os yw amcan y gwariant, y gwneir y cais am grant mewn perthynas ag ef, yn gynnydd mewn cynhyrchiant na ellir dod o hyd i allfeydd marchnata cyffredin ar ei gyfer; neu (e) pe byddai'r cyfan neu ran o grant o'r fath yn dyblygu cymorth a ddarperir neu sydd i'w ddarparu o arian gan -
(ii) y Senedd; neu (iii) corff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.
Cais am grant (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun) Mae'r Cynllun hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop ac yn benodol Erthyglau 4 i 7 sy'n ymdrin â buddsoddi mewn daliadau amaethyddol. Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau mewn perthynas â busnesau amaethyddol sydd wedi'u lleoli mewn parthau perygl nitradau, fel y'u diffinnir gan baragraff 4 o'r Atodlen i Reoliadau Diogelu D r rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002. Mae'r darpariaethau yn y Rheoliad hwn yn debyg i'r rhai a gynhwyswyd yn y Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Lloegr a Chymru) 1996, ac eithrio bod y meini prawf ar gyfer cymhwyster busnesau amaethyddol wedi newid fel mai'r unig fusnesau amaethyddol sydd bellach yn gymwys ar gyfer grant yw'r rhai a leolir yn y Parthau Perygl Nitradau a ddynodir gan Reoliadau Diogelu D r rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002.Mae'r grant ar gael yn ôl cyfradd o 40% tuag at wariant (hyd at uchafswm o £85,000) a dynnir gan y busnes amaethyddol rhwng y dyddiad y daw'r Cynllun i rym ar 30 Mehefin 2004 a 31 Hydref 2005 mewn perthynas â chyfleusterau ar gyfer trafod, storio a gwaredu gwastraffoedd fferm penodol a gwahanu d r glân a d r brwnt (paragraff 3).Gwneir darpariaeth gan baragraff 4 o'r Cynllun ar gyfer ystyried ceisiadau yn ystod cyfnod sydd i'w hatal neu eu gwrthod os nad oes adnoddau ariannol digonol ar gyfer talu grantiau o dan y Cynllun. Gosodir nifer o gyfyngiadau ar dalu grantiau o dan y Cynllun (paragraff 5). Penderfynir ar y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am grant gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (paragraff 6). Dirymir Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001. Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae copïau ar gael oddi wrth yr Is-adran Datblygu Bwyd a Ffermio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] 1970 p.40. Gweler adran 28 ar gyfer y diffiniad o "the appropriate authority". O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymru) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2(a) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau o Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 29 o'r Ddeddf Amaethyddol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back [2] O.S. 1991/324, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/324.back [4] OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.80.back
ISBN 0 11 090960 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 30 June 2004 |