Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004, ISBN 0110909593. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 1 Hydref 2004. (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001[2]. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau 2. - (1) Mae Rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn. (2) Ym mharagraff (1) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor -
(3) Ar ôl paragraff (1), mewnosoder y paragraff canlynol -
Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau"), sy'n darparu ar gyfer codi a chasglu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi gan feddygon a fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol a gweinyddol, a chan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG i gleifion allanol. Mae rheoliad 2 o'r prif Reoliadau yn cael ei ddiwygio fel y bydd cyfeiriadau at "awdurdod iechyd" yn cael eu trin fel cyfeiriadau at "fwrdd iechyd lleol". Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliad 3 a'r Atodlen yn gostwng y ffi am eitemau ar bresgripsiwn a gyflenwir i gleifion allanol o £6.00 i £5.00. Gostyngir y ffi am hosanau elastig o £6.00 i £5.00 (o £12.00 i £10.00 fesul pâr) a'r ffi am deits o £12.00 i £10.00. Gostyngir y symiau a ragnodir i roi tystysgrifau rhagdalu o £31.40 i £26.16 am dystysgrif pedwar mis ac o £86.20 i £71.83 am dystysgrif deuddeg mis. Mae diwygiadau a wneir gan reoliad 4 yn darparu na fydd ffi yn daladwy gan bersonau o dan 25 oed am gyflenwi cyfarpar a chyffur penodol yn unol â rheoliad 5 o'r prif Reoliadau (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG). Notes: [1] {d1}{t1}1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniad o "prescribed" a "regulations".{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77 a 126(4) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 197(1) .back [2] O.S.2001/1358 (Cy.86). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.2001/2359 (Cy.196) a 2004/1018 (Cy.115).back
ISBN 0 11 090959 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 30 June 2004 |