Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004, ISBN 0110909550. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 50(2), 50(4), 81(2), 81(3) a 105(2), (3) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1], ac ar ôl iddo ymgynghori fel sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 50(5) o'r Ddeddf honno a chael ei fodloni bod y Gorchymyn hwn yn gyson â'r egwyddorion a bennir am y tro mewn gorchymyn o dan adran 49(2) o'r Ddeddf honno[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi a chychwyn 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004 a daw i rym ar 1 Medi 2004. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
Diwygio Gorchymyn 2001
4. - (1) Os bydd awdurdod perthnasol, ac yntau'n sir, yn fwrdeistref sirol, yn gyngor cymuned neu'n awdurdod tân, wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd cod o'r fath yn gymwys iddo, rhaid i'r canlynol, pan fyddant yn gymwys i'r awdurdod perthnasol, gael eu datgymhwyso mewn perthynas â'r awdurdod hwnnw -
(b) adran 30(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974[5]; (c) unrhyw reoliadau a wnaed neu god a gyhoeddwyd o dan adrannau 19 ac 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[6].
(2) Os bydd awdurdod perthnasol, ac yntau'n awdurdod Parc Cenedlaethol, wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd cod ymddygiad o'r fath yn gymwys iddo, rhaid i'r canlynol, pan fyddant yn gymwys i'r awdurdod perthnasol, gael eu datgymhwyso mewn perthynas â'r awdurdod hwnnw -
(b) adrannau 19 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
(3) Rhaid i adran 16(1) o Ddeddf Dehongli 1978[7]) fod yn gymwys i ddatgymhwysiad o dan baragraff (1) neu (2) uchod fel pe bai'n ddiddymiad, gan Ddeddf, o ddeddfiad".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Sefydlodd Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Mae adran 50(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn, gyhoeddi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yw'r awdurdodau perthnasol, ond nid felly awdurdodau heddlu. Mae'n rhaid i God Ymddygiad a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf fod yn gyson â'r egwyddorion a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 49(2) o'r Ddeddf. Rhagnodwyd Cod Ymddygiad Enghreifftiol i aelodau awdurdodau perthnasol gan Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001 ("Gorchymyn 2001") a wnaed o dan adran 50(2). Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2001, drwy fewnosod Erthygl 4 newydd sy'n datgymhwyso darpariaethau statudol presennol sy'n ymwneud â Chod Cenedlaethol Ymddygiad Llywodraeth Leol yng Nghymru. Notes: [1] 2000 p.22.back [2] Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2276) (Cy.166)).back [3] O.S. 2001/2289 (Cy.177) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/163 (Cy.18)).back
ISBN 0 11090955 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 22 June 2004 |