Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004, ISBN 0110909526. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf")[1]: Enwi a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Y diwrnod penodedig 2. Y diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym -
(b) adran 20 o'r Ddeddf (Codau ymddygiad a gwybodaeth arall); ac (c) adran 46(1)(a) o'r Ddeddf, ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â hi, Rhan I o Atodlen 16 i'r Ddeddf (diddymu adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 ("Deddf 1925")[2])
yw 21 Mehefin 2004. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 21 Mehefin 2004, adrannau 18, 20 a 46(1)(a) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, Ran I o Atodlen 16 iddi. Mae adran 18 o'r Ddeddf yn galluogi awdurdodau mynediad i benodi wardeniaid mewn perthynas â thir mynediad er mwyn rhoi cyngor i ddefnyddwyr hawl mynediad a pherchnogion tir ac er mwyn sicrhau cydymffurfedd ag is-ddeddfau, â'r cyfyngiadau a nodir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf ac ag unrhyw gyfyngiad neu waharddiad a osodir o dan Bennod II o'r Ddeddf. Mae adran 20 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Gyngor Cefn Gwlad Cymru ("CCGC") i gyhoeddi cod ymddygiad i roi arweiniad i ddefnyddwyr yr hawl mynediad a phersonau sydd â buddiant yn y tir mynediad (megis ffermwyr, perchenogion y tir a chominwyr). Mae'r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i CCGC gymryd y camau hynny y mae o'r farn eu bod yn hwylus er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwybod am rychwant, a modd, y mynediad i'r tir mynediad a bod y cyhoedd a'r personau â buddiant yn y tir mynediad yn cael gwybod am eu hawliau a'u rhwymedigaethau o dan yr hawl mynediad statudol. Mae adran 46 o'r Ddeddf a Rhan I o Atodlen 16 iddi yn gweithredu diddymiadau yn dilyn darpariaethau Rhan I o'r Ddeddf. Mae adran 46(1)(a) o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer diddymu adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (sy'n caniatáu i berchenogion tir comin i wneud gweithred gyflwyno fel y daw'r comin yn ddarostyngedig i hawl mynediad ar gyfer awyr iach ac ar gyfer ymarfer y darperir ar ei gyfer yn adran 193(1) o Ddeddf 1925). Nid oes angen y p er hwn bellach am fod y p er i gyflwyno mynediad dros dir sydd yn adran 16 o'r Ddeddf yn weithredol. Cychwynnwyd adran 16 o'r Ddeddf ar 30 Ionawr 2001 gan adran 103(2) o'r Ddeddf ac mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/135) (Cy.9) yn darparu'r gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno tir.Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth arbed i alluogi gweithredoedd sydd eisoes yn bodoli ac a wnaed o dan Ddeddf 1925 i barhau mewn grym. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y Tabl isod wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Notes: [1] 2000 p.37.back
ISBN 0 11090952 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 15 June 2004 |