Gorchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004, ISBN 0110909542. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 40 o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004. Cychwyn 2. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) daw adrannau 4, 5, 9, 10, 19 a 35(a) ac (c) o Ddeddf Masnachu Gwastraff ac Allyriannau 2003 i rym ar 25 Mehefin 2004. (2) Mae adrannau 4, 5, 9, 10 a 35(a) yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru[2]. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 8 Mehefin 2004 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau adrannau 4, 5, 9, 10, 19 a 35(a) ac (c) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003. Dim ond mewn perthynas â Chymru y mae adrannau 4, 5, 9, 10 a 35(a) yn cael eu dwyn i rym. Mae adran 4 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddyrannu ymhlith awdurdodau gwaredu gwastraff yng Nghymru, ar gyfer pob blwyddyn gynllun, lwfansau yn eu hawdurdodi i anfon gwastraff trefol pydradwy i safleoedd tirlenwi. Mae adran 5 o'r Ddeddf yn caniatáu i'r Cynulliad newid y dyraniadau a wneir o dan adran 4. Mae Adran 9 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau gwaredu gwastraff i beidio â mynd dros y lwfans a bennir o dan adran 4 ac yn peri iddynt fod yn agored i gosb am fethu â chyflawni'r ddyletswydd hon. Mae Adran 10 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad benodi awdurdod monitro i Gymru. Mae Adran 19 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gael strategaeth ar gyfer lleihau faint o wastraff pydradwy o Gymru sy'n mynd i safleoedd tirlenwi a faint o wastraff pydradwy o'r tu allan i Gymru sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yng Nghymru. Mae adran 35(a) ac (c) yn diddymu'r darpariaethau yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a Deddf Llywodraeth Leol 2000 sy'n ymwneud â dyletswyddau i baratoi cynlluniau ailgylchu yng Nghymru. Cafodd adrannau 2 a 39 o'r Ddeddf eu dwyn i rym gan Orchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2004 (O.S. 2004/1163). Notes: [1] 2003 p.33.back [2] Mae adrannau 19 a 35(c) yn ymwneud â Chymru yn unig.back
ISBN 0 11090954 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 21 June 2004 |