Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli a Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli a Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2004, ISBN 011090950X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 24D(2), 26(5) a (6), 26A(3) a (4) a 104(1) a (4) o Ddeddf Plant 1989[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli a Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2004 ac yn dod i rym ar 1 Mehefin 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
Personau na chânt roi cymorth
(b) yn gyfrifol am reoli person sy'n destun y sylwadau neu os gall fod yn destun y sylwadau; (c) yn rheoli gwasanaeth sy'n destun y sylwadau neu os gall fod mai'r gwasanaeth hwnnw yw testun y sylwadau; (ch) yn berson a chanddo reolaeth dros yr adnoddau a ddyrennir i wasanaeth sy'n destun y sylwadau neu os gall fod mai'r gwasanaeth hwnnw yw testun y sylwadau; (d) yn gysylltiedig ag ystyried y sylwadau ar ran yr awdurdod lleol neu os bydd o bosibl yn gysylltiedig â hynny.
Gwybodaeth i'w rhoi i achwynydd etc.
(b) cynnig help i'r person neu'r plentyn hwnnw i gael eiriolwr.
(2) Pan fydd awdurdod lleol yn derbyn sylwadau gan achwynydd rhaid iddo -
(b) cynnig help i'r achwynydd i gael eiriolwr.
Monitro i ba raddau y cydymffurfir â'r Rheoliadau
(b) o ba gorff (os o gwbl) y deuai'r eiriolwr; a (c) barn yr achwynydd (os o gwbl) am y cymorth a ddarparwyd gan yr eiriolwr.
(2) At ddibenion monitro o'r fath, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeuddeng mis, lunio adroddiad ar y modd y gweithredwyd y weithdrefn a nodir yn y Rheoliadau hyn yn ystod y cyfnod hwnnw.
(3) Yn rheoliad 4 (rhagarweiniad), ym mharagraffau (2) a (2A) ar ôl y gair "complainant" mewnosoder "and any section 26A advocate".
(b) ym mharagraff (2) ar ôl y gair "complainant" mewnosoder ", or any section 26A advocate on behalf of that person"; (c) ym mharagraff (5)(a) ar ôl y gair "complainant" mewnosoder "(or any section 26A advocate on behalf of that person)"; ac (ch) ym mharagraff (6) ar ôl y gair "meeting" yr ail dro y mae'n ymddangos mewnosoder "by any section 26A advocate or" ac ar ôl y gair "nominate" mewnosoder "the section 26A advocate or".
(6) Yn rheoliad 9(2)(b) (argymhellion) ar ôl y gair "complainant" mewnosoder "and any section 26A advocate". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eirioli ar gyfer categorïau penodol o achwynwyr o dan weithdrefn sylwadau Deddf Plant 1989. Mae'n mewnosod yn Neddf Plant 1989 adran newydd, h.y. adran 26A, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer darparu cymorth, gan gynnwys cymorth o ran gwneud sylwadau, i'r rhai sy'n gadael gofal ac i blant sy'n gwneud sylwadau trwy ddefnyddio'r gweithdrefnau o dan adrannau 24D a 26(3) o Ddeddf Plant 1989 neu sy'n bwriadu eu gwneud. Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu pwy na chaiff roi cymorth o dan y trefniadau hyn i'r sawl sy'n gadael gofal neu i blentyn sy'n gwneud sylwadau o'r fath neu sy'n bwriadu eu gwneud (rheoliad 3). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybodaeth am wasanaethau eirioli i blentyn neu berson ifanc sy'n gwneud sylwadau neu, pan ddaw'r awdurdodau i wybod am hynny, i blentyn neu berson ifanc sy'n bwriadu gwneud sylwadau, ynghyd â chynnig help iddynt i ddod o hyd i eiriolwr (rheoliad 4). Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro'r camau y maent wedi eu cymryd gyda'r bwriad o sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau. Mae rheoliad 6 yn diwygio'r rheoliadau sy'n rheoli'r weithdrefn sylwadau - Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991 - er mwyn sicrhau bod eiriolwr a bennwyd yn cael eu cynnwys yn y broses o'r dechrau i'r diwedd. Notes: [1] 1989 p.41. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr. Trosglwyddwyd y gwaith o arfer y pwerau mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cyfeiriad at Ddeddf Plant 1989 yn Atodlen 1 iddo. Mewnosodwyd adran 24D gan adran 5 o Ddeddf Plant (Gadael Gofal) 2000 (p.35), a mewnosodwyd adran 26A gan adran 119 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38). Yn rhinwedd adran 8(7) o Ddeddf Plant (Gadael Gofal) 2000 ac adran 145(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, mae'r cyfeiriad at y Ddeddf yn Atodlen 1 i O.S. 1999/672 i'w drin fel cyfeiriad at y Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddfau hynny.back [2] O.S. 1991/894; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/2033 ac O.S. 2001/2189 (Cy. 151).back
ISBN 0 11090950 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 4 June 2004 |