Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110909461. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 69, 74, 78 a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2] mewn perthynas â Chymru, a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004 ac mae'n dod i rym ar 1 Medi 2004. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. (3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Gorchymyn 1995" yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995[3]. Diwygiadau i Orchymyn 1995 2. Yn erthygl 1(2) o Orchymyn 1995 (dehongli) -
3.
Yn erthygl 22(1)(a) o Orchymyn 1995 (hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad neu ddyfarniad sy'n ymwneud â chais cynllunio), ar ôl "condition imposed", rhowch -
4.
Yn erthygl 23 o Orchymyn 1995 (apelau), ar ôl paragraff (3), rhowch -
5.
Yn erthygl 25 o Orchymyn 1995 (cofrestr o geisiadau) -
(b) a copy (which may be photographic) of any planning obligation or section 278 agreement proposed or entered into in connection with the application; (c) a copy (which may be photographic) of any other planning obligation or section 278 agreement entered into in respect of the land which is the subject of the application and which the applicant considers relevant; and (d) particulars of any modification to any planning obligation or section 278 agreement included in Part I of the register in accordance with sub-paragraphs (b) and (c) above.";
(b) ar ôl paragraff (4)(e), rhowch -
(g) a copy (which may be photographic) of any other planning obligation or section 278 agreement taken into account by the local planning authority or the Secretary of State when making the decision; and (h) particulars of any modification to or discharge of any planning obligation or section 278 agreement included in Part II of the register in accordance with sub-paragraphs (f) and (g) above and paragraph (5) below."; ac
(c) ym mharagraff (5), ar ôl "effect of the Secretary of State's decision", rhowch -
(b) any other planning obligation or section 278 agreement taken into account by the National Assembly for Wales when making the decision.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, erthyglau 1, 22, 23 a 25 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 ("Gorchymyn 1995"). Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn i erthygl 22 o Orchymyn 1995 (hysbysiad ysgrifenedig i'w roi gan yr awdurdod cynllunio lleol pan wneir penderfyniad neu ddyfarniad sy'n ymwneud â chais cynllunio) yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod cynllunio lleol roi gwybodaeth ychwanegol sy'n ymwneud â pholisïau a chynigion yn y cynllun datblygu sy'n berthnasol i'r penderfyniad (erthygl 3). Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn i erthygl 23 o Orchymyn 1995 (gweithdrefn cychwyn apêl) yn rhoi disgresiwn datganedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drin hysbysiad apêl fel pe bai heb gael ei roi o fewn y terfyn amser perthnasol os na ddarperir y dogfennau y mae angen eu cyflwyno ar y cyd â'r ffurflen angenrheidiol o fewn y terfyn amser hwnnw (erthygl 4). Mae angen y prif newidiadau i erthygl 25 o Orchymyn 1995 (cofrestr o geisiadau) er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cynllunio lleol gynnwys yn y gofrestr o geisiadau, yn ogystal â'r manylion a gofnodwyd eisoes yn y gofrestr, yr wybodaeth a nodir yn erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn, sef:
(b) yn Rhan II, manylion unrhyw rwymedigaeth a chytundeb adran 278 a wneir mewn cysylltiad â phenderfyniad cynllunio gan awdurdod cynllunio lleol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 arall a gymerwyd i ystyriaeth wrth wneud y penderfyniad ynghyd â manylion am unrhyw addasu neu ryddhau unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 o'r fath.
Mae'r materion canlynol i'w nodi yngl
Notes: [1] 1990 p.8: y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, ac maent yn arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy. 5), ac Atodlen 3 iddo.back [3] O.S. 1995/419, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [4] Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34).back [5] 1980 p.66; amnewidiwyd yr adran hon gan adran 23 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back
ISBN 0 11 090946 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 3 June 2004 |