Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004, ISBN 0110909488. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], ac ar ôl ystyried cyngor perthnasol yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. O ran y Rheoliadau hyn -
(b) maent yn gymwys i Gymru yn unig; (c) deuant i rym ar 31 Mai 2004.
Dehongli
Cwmpas
(b) sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu gan ddynodi'n eglur y bwriedir i'r bwyd gael ei fwyta gan fabanod neu blant bach yn unig.
(3) Ni fydd Rheoliad 4 (cyfyngiadau ar ddefnyddio enwau penodol) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd -
(ii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig,
lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Gwladwriaeth AEE; neu
(ii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig,
lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Aelod-wladwriaeth, neu lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon.
(4) At ddibenion paragraff (3) -
Cyfyngiadau ar ddefnyddio enwau penodol
(b) oni ddefnyddir yr enw yn unol â pharagraff (2).
(2) Ni chaiff enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ei ddefnyddio wrth labelu neu hysbysebu bwyd, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio, yn y fath fodd ag i awgrymu, naill ai'n bendant neu ymhlyg, bod y cynnyrch a ddynodir gan yr enw hwnnw yn gynhwysyn yn y bwyd oni bai -
(ii) bod y cynnyrch hwnnw wedi cydymffurfio, ar adeg paratoi'r bwyd, â'r gofynion priodol yng ngholofnau 2 a 3 o'r Atodlen honno; neu
(b)
(ii) bod y bwyd yn cydymffurfio â'r gofynion priodol yng ngholofn 2 a 3 o'r Atodlen honno.
(3) Ni chaiff neb werthu bwyd os defnyddir enw ar ei label yn groes i baragraffau (1) neu (2).
(b) unrhyw gynhwysyn ychwanegol nad yw is-baragraff (a) yn gymwys iddo heblaw cynhwysyn a bennir yn Atodlen 3.
(3) At ddibenion paragraff (1), ni chymerir i ystyriaeth bresenoldeb unrhyw sesno, garnisio neu sylweddau gelatin sydd yn neu ar y cynnyrch cig, neu unrhyw ddeunyddiau pecynnu am gynnyrch cig.
(b) adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl); (c) adran 20 (tramgwyddau am fod bai ar berson arall); (ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf honno); (d) adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes); (dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (e) adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.); (f) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (g); (ff) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (g); (g) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (h); (ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a (h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
(ii) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder y canlynol -
(c) Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.
Darpariaeth drosiannol ac amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
(ii) na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984[10] fel yr oeddent yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; neu
(b) bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi digwydd mewn perthynas ag ef -
(ii) lle bo achos o dramgwydd o dan reoliad 4 neu 5, ei fod wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio a'i fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu cyn 1 Awst 2004.
Dirymu 1. Cig amrwd nad ychwanegwyd unrhyw gynhwysyn ato, nac unrhyw gynhwysyn heblaw ensymau proteolytig. 2. Cig dofednod o fewn cwmpas Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1906/90[12] ar safonau marchnata penodol ar gyfer dofednod, fel y'i diwygiwyd (i'r graddau y mae'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn) gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 317/93[13] a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 3204/93[14] fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1538/91[15]) sy'n cyflwyno rheolau manwl i weithredu Rheoliad (EEC) Rhif 1906/90, fel y'i diwygiwyd (i'r graddau y mae'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn) gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2891/93[16], Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2390/95[17]) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1000/96[18]. 3. Unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys braster unrhyw aderyn neu anifail ond ddim unrhyw gig arall.
Nodyn: Cyfrifir y gofynion ar gynnwys cig neu gig wedi'i halltu a bennir yn yr Atodlen hon yn ôl pwysau. Mewn perthynas ag eitemau 1 i 6 a 11 seilir hwy, yn ddarostyngedig i reoliad 4(2)(a)(ii), ar bwysau'r bwyd o dan sylw fel y mae wedi'i labelu neu, yn ôl y digwydd, wedi'i hysbysebu. 1. Unrhyw ychwanegyn. 2. Unrhyw halen halltu. 3. Unrhyw gynhwysyn a ddefnyddiwyd yn unig fel garnis neu gaenen addurnol. 4. Unrhyw gynhwysyn (nad yw'n ychwanegyn) a ychwanegir yn unig er mwyn rhoi arogl neu flas neu'r ddau. 5. Unrhyw halen, perlysieuyn neu sbeis a ddefnyddir fel sesnin. 6. Unrhyw startsh a ychwanegir at ddiben technolegol yn unig. 7. Unrhyw brotein (naill ai'n deillio o anifeiliaid neu o lysiau) a ychwanegir at ddiben technolegol yn unig. 8. Unrhyw siwgr a ychwanegir yn unig er mwyn rhoi blas melys. 9. Yn achos cig (boed wedi'i goginio neu heb ei goginio) neu gig wedi'i halltu wedi'i goginio, dwr ychwanegol nad yw'n ffurfio dim mwy na 5% o bwysau'r cynnyrch. 10. Yn achos cig wedi'i halltu heb ei goginio, dwr ychwanegol nad yw'n ffurfio dim mwy na 10% o bwysau'r cynnyrch. Nodiadau: At ddibenion eitem 1 o'r Atodlen hon, ystyr "ychwanegyn" yw unrhyw sylwedd a ganiateir ar gyfer ei ddefnyddio mewn bwyd gan Reoliadau lliwiau mewn Bwyd 1995[19], Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd 1992[20], Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[21] neu Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995[22]). At ddibenion eitemau 6 a 7 o'r Atodlen hon, ystyr "diben technolegol" yw unrhyw ddiben o fewn ystyr "technological purposes" ym mhwynt 4 o Bennod V o Atodiad B i Gyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar fasnach ryng-gymunedol mewn cynhyrchion cig, fel y'i diwygiwyd a'i diweddaru gan Gyfarwyddeb y Cyngor 92/5/EEC[23] ac fel y'i diwygiwyd ymhellach gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/76/EC[24]. 1. Sandwiches, filled rolls and similar products, which are ready for consumption without further processing, other than products containing meat which are sold under a name, whether or not qualified by other words, included in the items "burger", "economy burger" or "hamburger" in Schedule 2 (reserved descriptions) to the Meat Products (Wales) Regulations 2004. 2. Pizzas and similar topped products. 3. Any food for which the name is "broth", "gravy" or "soup", whether or not qualified by other words. 4. A food consisting of an assemblage of two or more ingredients, which has not been subjected to any processing or treatment once it has been assembled, and which is sold to the ultimate consumer as an individual portion intended to be consumed without further processing or treatment.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mewn perthynas â Chymru mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli yn rhannol, Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984 (O.S. 1984/1566, fel y'i diwygiwyd) sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr (rheoliad 11). Mae'r Rheoliadau hyn -
(b) yn pennu cwmpas y Rheoliadau (rheoliad 3); (c) yn gwahardd defnyddio enwau penodol wrth labelu neu hysbysebu cynhyrchion cig os nad yw'r cynhyrchion yn bodloni gofynion penodol yn eu cyfansoddiad a gwerthu bwyd wedi'i labelu yn groes i'r gwaharddiad hwnnw (rheoliad 4 a Atodlen 2); (ch) yn rhagnodi, ac eithrio mewn achosion a bennir, lle gwerthir cynhyrchion cig o ymddangosiad penodol bod yn rhaid i'r enw a ddefnyddir fel enw'r bwyd wrth labelu cynhyrchion gynnwys rhywbeth sy'n dynodi unrhyw gynhwysion ychwanegol sy'n deillio o anifeiliaid ac unrhyw gynhwysion ychwanegol na ddeuant i gategorïau penodedig (rheoliad 5 a Atodlen 3); (d) yn ddarostyngedig i eithriad, yn gwahardd gwerthu cynhyrchion cig heb eu coginio sy'n cynnwys ymysg eu cynhwysion rannau penodedig o garcas unrhyw rywogaeth anifail mamalaidd (rheoliad 6); (dd) yn rhagnodi cosbau am dorri'r Rheoliadau a dyrannu cyfrifoldebau ar gyfer eu gorfodi a'u gweithredu (rheoliad 7); (e) yn ddarostyngedig i addasiad, yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau rheoliad 8); (f) yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499 fel y'u diwygiwyd) mewn perthynas â Chymru -
(ii) yn rheoliad 23 (bwyd nad yw wedi'i ragbacio a bwyd tebyg a chynhyrchion cyffaith ffansi) gan ychwanegu, fel eithriad i'r rheoliad hwnnw, baragraff 2(c) newydd sy'n darparu, yn achos cynhyrchion cig heblaw y rhai a bennwyd, na chawsant eu rhagbacio neu a gawsant eu rhagbacio i'w gwerthu'n uniongyrchol, ac yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, bod angen datganiad yn unol â rheoliad 5(bA) o Reoliadau 1996 o ran pa faint o gynhwysion penodol neu gategorïau o gynhwysion a geir (rheoliad 9); ac
(ff) yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n ymwneud â thramgwyddau o dan y Rheoliadau a gyflawnwyd cyn 1 Awst 2004 ac amddiffyniad mewn perthynas â bwyd a fwriadwyd ei allforio (rheoliad 10).
Mae Arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi cael ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers"o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ("Deddf 1990"), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 ("Deddf 1999") (p.28). Diwygiwyd adrannau 16(1) a 48(1) o Ddeddf 1990 gan Ddeddf 1999, Atodlen 5, diwygiwyd paragraff 8 ac adran 26(3) gan Ddeddf 1999, Atodlen 6.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.back [5] OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29.back [6] OJ Rhif L310, 28.11.2001, t.19.back [7] O.S.1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 1999/747, 1136, 1483.back [8] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.back [9] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.back [10] O.S.1984/1566, a ddiwygiwyd gan O.S. 1986/987, 1990/2486, 1991/1476, 1992/2596, 1995/3123, 3124, 1996/1499, 1998/1398 a 2001/2294.back [12] OJ Rhif L173, 6.7.90, t.1.back [13] OJ Rhif L37, 13.2.93, t.8.back [14] OJ Rhif L289, 24.11.93, t.3.back [15] OJ Rhif L143, 7.6.91, t.11.back [16] OJ Rhif L263, 22.10.93, t.12.back [17] OJ Rhif L244, 12.10.95, t.60.back [18] OJ Rhif L134, 5.6.96, t.9.back [19] O.S.1995/3124, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1799(Cy.124), 2001/3909(Cy.321).back [20] O.S.1992/1971, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/1486, 1996/1499.back [21] O.S.1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, 1999/1136, 2001/1440(Cy.102), 1787(Cy.128), 2679(Cy.220), 3909(Cy.321), 2002/329(Cy.42).back [22] O.S.1995/3123; diwygiwyd gan O.S. 1996/1477, 1997/814 a 1999/982, 2001/2679(Cy.220).back [23] OJ Rhif L57, 2.3.92, t.1.back [24] OJ Rhif L10, 16.1.98, t.25.back
ISBN 0 11090948 8
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 4 June 2004 |