Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygio) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygio) 2004, ISBN 0110909437. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 5 o Atodlen 11 iddi[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygio) 2004, maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Mai 2004. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Diwygio Rheoliadau 1995
(b) hepgorir Rheoliad 7(1)(e).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 5 o Atodlen 11 iddi yn rhoi'r p er i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn perthynas â Thribiwnlysoedd Prisio. I'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Y prif reoliadau i Gymru, a wnaed o dan y pwerau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995 ("Rheoliadau 1995") fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Diwygio) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001"). Mae'r Rheoliadau presennol hyn yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â Thribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru.Mae Rheoliadau 1995 yn gwneud darpariaethau ynghylch bod yn aelod o Dribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru. Mae Rheoliad 4(2)(d) yn darparu y bydd aelod o dribiwnlys yn peidio â dal swydd pan fydd yn cyrraedd 72 oed. Mae Rheoliad 7(1)(e) o Reoliadau 1995 yn darparu y caiff aelod ei anghymhwyso rhag cael ei benodi neu rhag parhau i fod yn aelod os yw'n 72 oed neu'n h n.Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1995 fel bod Rheoliadau 4(2)(d) a 7(1)(e) yn cael eu hepgor. Effaith y diwygiad hwn yw na fydd aelod o Dribiwnlys Prisio yng Nghymru yn peidio â dal swydd neu'n cael ei anghymhwyso rhag cael ei benodi neu rhag parhau i fod yn aelod ar ôl cyrraedd 72 oed. Notes: [1] 1988 p.41. Diwygiwyd Adran 143(2) gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a pharagraffau 72 a 79(3) o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd Paragraff 1 a 5 o Atodlen 11 gan adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) a pharagraffau 88(1), (3) a (13) o Atodlen 13 iddi gydag effaith mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 1993. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau a'r atodlen uchod, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo, O.S. 1999/672.back [2] O.S. 1995/3056 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Diwygio) (Cymru) 2001, O.S. 2001/1439 (Cy.101).back
ISBN 0 11090943 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 18 May 2004 |