Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004, ISBN 0110909259. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408, 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn ddymunol yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) yr athro neu'r athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion; neu (c) corff llywodraethu unrhyw ysgol arall; neu (ch) y person sy'n gyfrifol am gynnal unrhyw sefydliad addysg bellach neu le addysg neu hyfforddiant arall y mae disgybl yn trosglwyddo iddo neu a allai drosglwyddo iddo;
(b) o ran profion y Cwricwlwm Cenedlaethol ac unrhyw gyfnod allweddol, yr holl bynciau hynny y mae'n ofynnol i'r disgybl neu'r disgyblion dan sylw gael eu hasesu drwy roi'r cyfryw brofion; ac (c) o ran tasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac unrhyw gyfnod allweddol, yr holl bynciau hynny y mae'n ofynnol rhoi'r tasgau arnynt i'r disgybl neu'r disgyblion dan sylw,
yn y cyfnod allweddol hwnnw yn unol â'r asesiadau statudol;
(b) sydd o fewn y sector addysg bellach;
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at lefelau cyrhaeddiad a thargedau cyrhaeddiad yn gyfeiriadau at y lefelau a'r targedau a nodir yn y dogfennau cysylltiedig.
(b) sy'n ymwneud ag unrhyw berson sy'n ddisgybl neu sydd wedi bod yn ddisgybl yn yr ysgol; ac (c) a ddaeth oddi wrth neu a roddwyd gan neu ar ran unrhyw un o'r personau a bennir ym mharagraff (4),
heblaw gwybodaeth a brosesir gan athro neu athrawes at ddefnydd yr athro neu'r athrawes yn unig.
(b) ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol.
(4) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c) -
(b) yn achos -
(ii) ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol,
athro neu athrawes neu weithiwr cyflogedig arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerir ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau);
Dyletswyddau pennaeth - cofnodion cwricwlaidd
(b) drwy ddisg hyblyg, neu (c) drwy fewnrwyd a ddarparwyd i'r diben hwnnw gan neu ar ran awdurdod addysg lleol, ac at ddibenion y rheoliad hwn ystyr mewnrwyd yw rhwydwaith caeedig na ellir ei gyrchu ond gan y canlynol -
(ii) gan neu ar ran corff llywodraethu ysgol o fewn yr awdurdod hwnnw, (iii) gan athro neu athrawes mewn ysgol yn yr awdurdod hwnnw,
ac eithrio pan fydd disgybl yn trosglwyddo i ysgol a gynhelir sy'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol arall rhaid bodloni'r gofyn drwy drosglwyddo'r wybodaeth drwy wefan ryngrwyd ddiogel a ddarparwyd i'r diben hwnnw gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fydd disgybl yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir ("yr hen ysgol") ac yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arall ("yr ysgol newydd"), rhaid trosglwyddo gwybodaeth drosglwyddo gyffredin a chofnod addysgol y disgybl i bennaeth yr ysgol newydd cyn pen pymtheng niwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan beidiodd y disgybl â bod yn gofrestredig yn yr hen ysgol.
(b) yn achos pob disgybl arall a gofrestrwyd yn yr ysgol, rhiant pob disgybl o'r fath.
(3) Rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth am gyraeddiadau addysgol disgybl y trefnir bod yr adroddiad ar gael iddo neu i'w riant a'r wybodaeth arall sy'n ymwneud ag ef a bennir -
(b) o ran disgyblion yn unrhyw gyfnod allweddol, yn Rhan 2 o'r Atodlen honno; (c) o ran disgyblion y rhoddwyd eu henwau ar gyfer unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd yn lefel 3 NQF neu'n uwch na hynny, yn Rhan 3 o'r Atodlen honno; ac (ch) o ran pob disgybl a gofrestrwyd yn yr ysgol (gan gynnwys y rhai y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (c) uchod), yn Rhan 4 o'r Atodlen honno.
(4) Yn achos disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgol yn y cyfnodau allweddol cyntaf, ail neu drydydd, yn eu trefn, rhaid cynnwys yn yr adroddiad yr wybodaeth sy'n ymwneud â chyraeddiadau addysgol pob disgybl arall a gofrestrwyd yn yr ysgol yn y cyfnod allweddol hwnnw yr aseswyd eu cyraeddiadau o dan yr asesiadau statudol ar yr un adeg â chyraeddiadau'r disgybl, a'r wybodaeth arall sy'n ymwneud â'r disgyblion hynny, a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 3, yn eu trefn, o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
(b) diwedd y cyfnod yr oedd yr adroddiad diwethaf ar y materion hynny yn ymwneud ag ef ac a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn neu yn ôl y digwydd y Rheoliadau a ddirymwyd gan reoliad 12.
(9) Os na ddaw'r manylion sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (10) i law'r pennaeth tan ar ôl diwedd tymor yr haf, rhaid iddo drefnu bod yr wybodaeth honno ar gael cyn gynted ag y bo'n ymarferol a beth bynnag dim hwyrach na'r 30 Medi canlynol.
(b) canlyniadau profion y Cwricwlwm Cenedlaethol a safodd disgybl ar ddiwedd yr ail neu'r trydydd cyfnod allweddol; ac (c) yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 2(2) a 3(2) o Atodlen 2 a pharagraffau 2 a 3 o Atodlen 3.
(11) Mae paragraffau (12) a (13) yn gymwys os yw'r pennaeth wedi gwneud cais am adolygiad gan asiantaeth farcio allanol ar ganlyniad unrhyw brawf y Cwricwlwm Cenedlaethol a safodd disgybl yn yr ail neu'r trydydd cyfnod allweddol ond heb ei gael cyn diwedd tymor yr haf.
(b) ysgol y disgybl; (c) manylion unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd ac unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o'r fath a ddyfarnwyd i'r disgybl; a (ch) manylion byr ar gynnydd y disgybl a'i gyraeddiadau mewn pynciau (heblaw y rhai lle'r enillodd y disgybl unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd ac unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o'r fath) ac mewn unrhyw weithgareddau sy'n rhan o'r cwricwlwm ysgol, yn y flwyddyn ysgol pan adawodd y disgybl yr ysgol yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd.
(3) Rhaid i'r rhan o'r ffurflen y mae'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraffau (a), (b) ac (ch) o baragraff (2) ar gael ynddi ddarparu ar gyfer llofnod y disgybl, a rhaid i'r rhan honno o'r ffurflen, a'r rhan o'r ffurflen y mae'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraffau (a) ac (c) o baragraff (2) ar gael ynddi, ddarparu ar gyfer llofnod yr athro neu'r athrawes sy'n gyfarwydd â'r disgybl a'i gyraeddiadau.
(ii) yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, athro neu athrawes neu weithiwr cyflogedig arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerwyd ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau); (iii) swyddog lles addysg; (iv) y person sy'n gofyn am y datgeliad; neu
(b) i'r graddau y byddai'n datgelu, neu y byddai'n galluogi rhywun i ddarganfod, pwy yw person (heblaw'r disgybl y mae'r wybodaeth yn berthnasol iddo neu berson a grybwyllir yn is-baragraff (a)) sy'n ffynhonnell yr wybodaeth neu sy'n berson y mae'r wybodaeth honno yn berthnasol iddo.
(3) Nid oes dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i drefnu bod unrhyw wybodaeth ar gael -
(b) i'r graddau y mae, ym marn y pennaeth, yn berthnasol i'r cwestiwn a fyddai'r disgybl y mae'n ymwneud ag ef yn blentyn sy'n cael ei gam-drin neu wedi cael ei gam-drin neu os yw mewn risg o gamdriniaeth; neu (c) fel y byddai'n datgelu lefelau cyrhaeddiad ac unrhyw ganlyniadau eraill mewn unrhyw darged cyrhaeddiad neu bwnc unrhyw ddisgybl arall a enwyd.
(4) Yn y rheoliad hwn mae "cam-drin plentyn" yn cynnwys anaf corfforol (heblaw drwy ddamwain) i blentyn ac mae'n cynnwys esgeuluso plentyn yn gorfforol neu'n emosiynol, trin plentyn yn wael neu gam-drin plentyn yn rhywiol. 1. Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl -
(b) cyfenw; (c) enw(au) cyntaf; (ch) dyddiad geni; (d) rhyw; (dd) gr p ethnig;(e) hunaniaeth genedlaethol; (f) pwy a ddarparodd yr wybodaeth o ran gr p ethnig a hunaniaeth genedlaethol y disgybl;(ff) pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg. (g) a yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref ac, os felly, gyda phwy; (ng) pwy a ddarparodd yr wybodaeth am ba mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg ac a yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref; (h) a yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996[12], wedi gwneud cais am brydau am ddim yn yr ysgol a'i gael yn gymwys iddynt; (i) a yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(1) a 512ZB o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais am laeth am ddim yn yr ysgol a'i gael yn gymwys iddo.
2.
A oes gan ddisgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad o -
(b) y math o ddarpariaeth AAA sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â "Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru"[13], a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei gwneud i'r disgybl hwnnw.
3.
Lle mae'r disgybl yn blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, yna'r ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.
(b) y sesiynau hynny yn y flwyddyn ysgol a fynychwyd gan y disgybl; a (c) absenoldebau awdurdodedig y disgybl a'r absenoldebau na chafodd eu hawdurdodi (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995) yn y flwyddyn ysgol.
8.
Y rhif AALl a rhif ysgol yr hen ysgol yn ogystal â'r ysgol newydd. Disgyblion yn y cyfnod allweddol cyntaf 1. - (1) Canlyniadau asesiadau statudol y disgybl. (2) Adroddiad byr o'r hyn y mae canlyniadau'r disgybl a adroddwyd yn unol ag is-baragraff (1) yn ei ddangos am gynnydd y disgybl yn y pynciau perthnasol yn unigol ac mewn perthynas â phlant eraill yn yr un flwyddyn o'r cyfnod allweddol sy'n tynnu sylw at unrhyw gryfderau neu wendidau penodol gan y disgybl. Disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol 2. - (1) Canlyniadau asesiadau statudol y disgybl. (2) Adroddiad byr o'r hyn y mae canlyniadau'r disgybl a adroddwyd yn unol ag is-baragraff (1) yn ei ddangos am gynnydd y disgybl yn y pynciau perthnasol yn unigol ac mewn perthynas â phlant eraill yn yr un flwyddyn o'r cyfnod allweddol sy'n tynnu sylw at unrhyw gryfderau neu wendidau penodol gan y disgybl. Disgyblion yn y trydydd cyfnod allweddol 3. - (1) Canlyniadau asesiadau statudol y disgybl. (2) Adroddiad byr o'r hyn y mae canlyniadau'r disgybl a adroddwyd yn unol ag is-baragraff (1) yn ei ddangos am gynnydd y disgybl yn y pynciau perthnasol yn unigol ac mewn perthynas â phlant eraill yn yr un flwyddyn o'r cyfnod allweddol sy'n tynnu sylw at unrhyw gryfderau neu wendidau penodol gan y disgybl. Disgyblion yn y pedwerydd cyfnod allweddol 4. Manylion, gan gynnwys enw pwnc, unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd yn NQF lefel 2 neu'n is na hynny neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o'r fath. Disgyblion yn unrhyw gyfnod allweddol 5. - (1) Yn yr holl bynciau sylfaen, manylion byr ar gyraeddiadau disgybl o ran pob un o'r pynciau gan dynnu sylw at unrhyw gryfderau a gwendidau penodol, ynghyd â datganiad, os yw'r manylion yn cynnwys lefelau, sy'n dangos a benderfynwyd ar y lefelau hynny yn unol â'r asesiadau statudol. (2) Manylion unrhyw bwnc y mae'r disgybl yn esempt ohono. (3) Crynodeb o gofnod presenoldeb y disgybl yn ystod y cyfnod y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef sy'n dangos y nifer yr absenoldebau awdurdodedig a'r absenoldebau na chafodd eu hawdurdodi (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995) a'r nifer presenoldebau posibl. Disgyblion y rhoddwyd eu henwau ar gyfer cymwysterau TAG safon uwch neu TAG uwch gyfrannol neu TAAU 6. - (1) Enw unrhyw bwnc y rhoddwyd enw'r disgybl ar gyfer cymwysterau TAG safon uwch neu TAG uwch gyfrannol neu TAAU a'r radd (os oes un) a gafwyd. (2) Cyfanswm y pwyntiau a sgoriwyd gan ddisgybl yn y pynciau arholiad hynny y rhoddwyd enw'r disgybl ar eu cyfer, ac mae'r graddau canlynol yn hafal i'r pwyntiau canlynol: -
Disgyblion y rhoddwyd eu henwau ar gyfer unrhyw gymwysterau allanol lefel 3 NQF eraill a gymeradwywyd Pob Disgybl 8. - (1) Manylion byr ar gyraeddiad y disgybl mewn unrhyw bwnc neu weithgaredd, gan gynnwys Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, na chrybwyllir mohonynt yn unrhyw le arall yn yr Atodlen hon sy'n rhan o'r cwricwlwm ysgol a'i sgiliau a'i alluoedd ac ynghylch ei gynnydd yn yr ysgol yn gyffredinol yn ystod y cyfnod y mae'r wybodaeth hon yn ymwneud ag ef. (2) Manylion y trefniadau y gellir trafod yr adroddiad odanynt gydag athrawon y disgybl gan ei riant neu, yn achos disgybl sy'n 18 oed neu drosodd, gan y disgybl. (3) Manylion unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o'r fath a gafodd y disgybl yn ystod y cyfnod y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi na chyfeirir ati yn rhywle arall yn yr Atodlen hon. Disgyblion yn y cyfnod allweddol cyntaf 1. - (1) At ddibenion y paragraff hwn mae cyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf. (2) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhynciau'r Gymraeg neu Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, fel y penderfynwyd yn ôl asesiad athrawon. (3) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau fel y penderfynwyd arnynt felly. (4) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n esempt o bob un o'r pynciau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2). Disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol 2. - (1) At ddibenion y paragraff hwn mae cyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf. (2) Canrannau disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob un o'r pynciau perthnasol a ddangoswyd fel y penderfynwyd yn ôl asesiad athrawon a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol. (3) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol sy'n gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau perthnasol fel y penderfynwyd arnynt felly. (4) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol sy'n esempt o bob un o'r pynciau perthnasol. (5) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol na roddwyd eu henwau ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) oblegid, o dan yr asesiadau statudol, nad oedd angen rhoi'r prawf y Cwricwlwm Cenedlaethol hwnnw i'r disgyblion hynny. (6) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol a oedd yn absennol ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) (heb gynnwys disgyblion sy'n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5)). Disgyblion yn y trydydd cyfnod allweddol 3. - (1) At ddibenion y paragraff hwn mae cyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf. (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob un o'r pynciau perthnasol a ddangoswyd fel y penderfynwyd yn ôl asesiad athrawon a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol. (3) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol sy'n gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau perthnasol fel y penderfynwyd arnynt felly. (4) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol sy'n esempt o bob un o'r pynciau perthnasol. (5) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol na roddwyd eu henwau ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) oblegid, o dan yr asesiadau statudol, nad oedd angen rhoi'r prawf y Cwricwlwm Cenedlaethol hwnnw i'r disgyblion hynny. (6) Canrannau'r disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol a oedd yn absennol ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) (heb gynnwys disgyblion sy'n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5)). Disgyblion yn y cyfnod allweddol cyntaf 1. - (1) Y canrannau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn yw'r rhai a roddodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â phob disgybl cofrestredig mewn ysgolion yng Nghymru yn y cyfnod allweddol cyntaf yn y flwyddyn ysgol flaenorol. (2) Canrannau'r disgyblion hynny a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad yn y pynciau Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth a benderfynwyd yn ôl asesiad athrawon. (3) Canrannau'r disgyblion hynny a oedd yn gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau hynny fel y penderfynwyd arnynt felly. (4) Canrannau'r disgyblion hynny a oedd yn esempt o bob un o'r pynciau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2). Disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol ac yn y trydydd cyfnod allweddol 2. - (1) Y canrannau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn yw'r rhai a roddodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â phob disgybl cofrestredig mewn ysgolion yng Nghymru yn yr ail, neu yn ôl y digwydd, y trydydd cyfnod allweddol yn y flwyddyn ysgol flaenorol. (2) Canrannau'r disgyblion hynny a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad yn y pynciau Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth a ddangoswyd yn ôl asesiad athrawon a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol. (3) Canrannau'r disgyblion hynny a oedd yn gweithio tuag at lefel 1 ym mhob un o'r pynciau fel y penderfynwyd arnynt felly. (4) Canrannau'r disgyblion hynny a oedd yn esempt o bob un o'r pynciau hynny. (5) Canrannau'r disgyblion hynny na roddwyd eu henwau ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) oblegid, o dan yr asesiadau statudol, nad oedd angen rhoi'r prawf y Cwricwlwm Cenedlaethol hwnnw i'r disgyblion hynny. (6) Canrannau'r disgyblion hynny a oedd yn absennol ar gyfer bob un o brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) (heb gynnwys disgyblion sy'n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5)).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, gyda newidiadau, yn disodli darpariaethau a gafwyd yn flaenorol yn Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001. Maent yn darparu ar gyfer i'r pennaeth gadw cofnodion am gyraeddiadau academaidd a sgiliau a galluoedd a chynnydd (cofnodion cwricwlaidd) disgybl mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac ysgol arbennig na chaiff ei chynnal yn y modd hwnnw (rheoliad 4). Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer i'r pennaeth ddatgelu a throsglwyddo cofnodion addysgol (fel y'u diffinnir yn rheoliad 3) i rieni ac i ysgolion pan fo disgyblion ganddynt o dan ystyriaeth i'w trosglwyddo ( rheoliad 5). Mae Rheoliad 6 yn nodi cynnwys yr adroddiad y mae'n ofynnol i bennaeth yr hen ysgol ei anfon at bennaeth yr ysgol newydd cyn gynted ag y mae'r disgybl wedi trosglwyddo i'r ysgol newydd. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae'n ofynnol i'r pennaeth ei anfon at rieni a disgyblion sy'n oedolion bob blwyddyn ysgol (rheoliad 7) a'r wybodaeth ychwanegol y gall rhieni disgyblion cofrestredig sy'n cael eu hasesu yn unrhyw gyfnod allweddol ofyn amdani sy'n ymwneud â lefelau cyraeddiadau disgybl yn y pynciau perthnasol (rheoliad 8). Mae Rheoliad 9 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i bennaeth drefnu ei bod ar gael yn yr adroddiadau a roddir i ddisgyblion sy'n gadael yr ysgol. Mae Rheoliad 10 yn nodi cyfyngiadau penodol ar ddarparu gwybodaeth. Os yw'n ofynnol, rhaid i unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae angen iddynt fod ar gael o dan y Rheoliadau gael eu cyfieithu i Gymraeg neu Saesneg neu i iaith arall (rheoliad 11). Dirymir Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 fel y'u diwygiwyd a dirymir Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001 (rheoliad 12). Notes: [1] 1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 30, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraffau 57 a 106, Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 57 a Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 46. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579 o Ddeddf 1996.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Gweler adran 27 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44).back [4] Y gorchmynion cyfredol yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/45 (Cy.4)), Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) 1997 (O.S. 1997/2009) a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997 (O.S. 1997/2010) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1976 ac O.S. 2001/889 (Cy.40).back [5] O.S. 1995/2089 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2624, O.S. 2001/1109 (Cy. 53), O.S. 2003/3227 (Cy. 308).back [8] Diwygiwyd adran 579(1) gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.back [9] Yr un diffiniad yw hwn â'r diffiniad o "educational record" a geir yn Atodlen 11 i Ddeddf Diogelu Data 1998 (p.29).back [12] Amnewidiwyd adrannau 512 a 512ZB, ynghyd ag adran 512ZA, am adran 512 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), adran 201(1).back
ISBN 0 11 090925 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 8 April 2004 |