Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004, ISBN 0110909275. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3), 408, 537, 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos i'r Cynulliad ei fod yn ddymunol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
(ii) mewn perthynas ag ysgol arbennig neu ysgol annibynnol nas cynhelir, yw'r awdurdod addysg lleol y lleolir yr ysgol yn ei ardal;
(b) o ran profion Cwricwlwm Cenedlaethol ac unrhyw gyfnod allweddol, yr holl bynciau hynny y mae'n ofynnol i'r disgybl neu'r disgyblion sy'n eu hastudio gael eu hasesu drwy roi'r cyfryw brofion; ac (c) o ran tasgau Cwricwlwm Cenedlaethol ac unrhyw gyfnod allweddol, yr holl bynciau hynny y mae'n ofynnol rhoi'r tasgau arnynt i'r disgybl neu'r disgyblion sy'n eu hastudio,
yn y cyfnod allweddol hwnnw yn unol â'r trefniadau statudol;
(ii) unrhyw ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig na chafodd ei sefydlu mewn ysbyty,
ond nid yw'n cynnwys unrhyw ysgol feithrin;
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
(b) mae cyfeiriadau at gymwysterau allanol a gymeradwywyd y rhoddwyd enwau disgyblion yn yr ysgol ar eu cyfer yn cynnwys cymwysterau allanol a gymeradwywyd y rhoddwyd eu henwau ar eu cyfer er nad ydynt yn unol ag adran 402 o Ddeddf 1996[8]; ac (c) mae cyfeiriadau at gyfnodau allweddol yn gyfeiriadau at y cyfnodau a nodir yn adran 103(1) o Ddeddf 2002.
(3) Pan fydd y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei throsglwyddo mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, gellir bodloni'r gofyniad hwnnw drwy drosglwyddo'r wybodaeth -
(b) drwy ddisg hyblyg, neu (c) drwy fewnrwyd a ddarparwyd i'r diben hwnnw gan neu ar ran awdurdod, ac at ddibenion y rheoliad hwn ystyr mewnrwyd yw rhwydwaith caëedig na ellir ei gyrchu ond gan y canlynol -
(ii) gan neu ar ran corff llywodraethu ysgol o fewn yr awdurdod hwnnw, (iii) gan athro neu athrawes mewn ysgol yn yr awdurdod hwnnw.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyrhaeddiad gan ddisgybl y penderfynir arno gan brawf Cwricwlwm Cenedlaethol neu dasg Cwricwlwm Cenedlaethol yn ystod blwyddyn ysgol flaenorol neu unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd y rhoddwyd enw'r disgybl ar ei gyfer yn ystod blwyddyn ysgol flaenorol i'w drin fel cyrhaeddiad o'r fath neu roi enw ar gyfer y cymhwyster yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol. Darparu gwybodaeth gan y pennaeth i'r corff llywodraethu 5. Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir bob blwyddyn drefnu bod gwybodaeth ar gael i'r corff llywodraethu ynghylch y materion a grybwyllir yn Atodlenni 1 i 3 er mwyn galluogi'r corff llywodraethu i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau mewn perthynas â'r materion hynny. Darparu canlyniadau asesiadau cyfnod allweddol cyntaf i awdurdodau addysg lleol 6. Rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, sydd ym mlwyddyn adrodd yr ysgol, â disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n gymwys i asesiadau statudol bob blwyddyn ddarparu gwybodaeth i'r awdurdod sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 1, os bydd yn rhesymol ymarferol mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, fel a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd. Darparu canlyniadau asesiadau cyfnod allweddol cyntaf i'r Cynulliad Cenedlaethol 7. Rhaid i'r awdurdod erbyn 31 Gorffennaf ym mhob blwyddyn roi i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir ganddo sydd â disgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n gymwys ar gyfer asesiadau statudol ym mlwyddyn adrodd yr ysgol. Darparu canlyniadau cymwysterau allanol a gymeradwywyd i'r Cynulliad Cenedlaethol 8. Rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir a pherchennog pob ysgol arbennig nas cynhelir neu ysgol annibynnol sydd â disgyblion 15, 16, 17 neu 18 oed roi i'r Cynulliad Cenedlaethol y manylion hynny y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt ynghylch y cymwysterau y rhoddwyd enwau disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar eu cyfer, a'r wybodaeth arall y cyfeirir ati -
(b) yn achos ysgol sy'n darparu gwybodaeth mewn perthynas â disgyblion 16, 17 neu 18 oed, yn Rhan 2 o Atodlen 2
wrth gael cais ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol am yr wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn y cyfryw gais. Darparu gwybodaeth am asesiadau yr ail a thrydydd cyfnod allweddol i'r Asiantaeth Casglu Data Cenedlaethol 10. - (1) Bob blwyddyn ar neu cyn y dyddiad a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd am flwyddyn adrodd yr ysgol rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, sydd, ym mlwyddyn adrodd yr ysgol, â disgyblion cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol sy'n gymwys i asesiadau statudol, ddarparu gwybodaeth i'r Asiantaeth Casglu Data Cenedlaethol sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 3, os bydd yn rhesymol ymarferol mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, fel a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd. (2) Bob blwyddyn ar neu cyn y dyddiad a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd am y flwyddyn adrodd yr ysgol rhiad i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, sydd, ym mlwyddyn adrodd yr ysgol, â disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol sy'n gymwys i asesiadau statudol, ddarparu gwybodaeth i'r Asiantaeth Casglu Data Cenedlaethol sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol y cyfeirir atynt yn Rhan 2 o Atodlen 3, os bydd yn rhesymol ymarferol mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, fel a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd. Darparu gwybodaeth am asesiadau yr ail a thrydydd cyfnod allweddol i'r asiantaeth farcio allanol 11. - (1) Bob blwyddyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y diwrnod olaf yn yr ysgol pan roddir profion Cwricwlwm Cenedlaethol i'r disgyblion hynny ym mhob pwnc perthnasol, rhaid i gorff pob ysgol a gynhelir, sydd ym mlwyddyn adrodd yr ysgol, â disgyblion cofrestredig yn yr ail a thrydydd cyfnod allweddol sydd yn gymwys ar gyfer asesiadau statudol, ddarparu'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 3 o Atodlen 3 mewn perthynas â disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol, a'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 4 o Atodlen 3 mewn perthynas â disgyblion yn y trydydd cyfnod allweddol, i'r asiantaeth farcio allanol. (2) Bob blwyddyn ar neu cyn y dyddiad a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd am flwyddyn adrodd yr ysgol, rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, sydd, ym mlwyddyn adrodd yr ysgol sydd yn gymwys ar gyfer asesiadau statudol, ddarparu'r i'r asiantaeth farcio allanol mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant yr wybodaeth a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 3. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 30 Mawrth 2004 1. O ran pob disgybl cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf, rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl. 2. O ran pob disgybl o'r fath, canlyniadau eu hasesiadau statudol ac os nad yw rhai o'r canlyniadau hynny neu'r cyfan ohonynt ar gael a oedd y disgybl yn esempt o'r asesiadau o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002 neu a oedd yn absennol. 1. Nifer y disgyblion cofrestredig 15 oed. 2. Yn achos pob un disgybl o'r fath y cyfeirir ato ym mharagraff 1 y rhoddwyd ei enw ar gyfer un neu fwy o gymwysterau allanol a gymeradwywyd ar lefel 2 NQF neu is na hynny yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol neu unrhyw flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn honno rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl. 3. Yn achos pob un disgybl o'r fath y cyfeirir ato ym mharagraff 1 a gyflawnodd unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd, yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol neu unrhyw flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn honno y manylion canlynol am bob cymhwyster o'r fath a gyflawnwyd -
(b) teitl y pwnc; (c) y math a'r lefel; (ch) y canlyniad; ac (d) y dyddiad dyfarnu.
4. Nifer y disgyblion cofrestredig 16, 17 neu 18 oed y rhoddwyd eu henwau ar gyfer un neu fwy o gymwysterau allanol a gymeradwywyd neu fwy yn NQF lefel 3 neu uwch na hynny yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol. 5. Yn achos pob disgybl y cyfeirir ato ym mharagraff 4 yr wybodaeth ganlynol rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl. 6. Yn achos pob un disgybl o'r fath y cyfeirir ato ym mharagraff 4 a gyflawnodd unrhyw gymhwyster allanol a gymeradwywyd, yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol neu unrhyw flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn honno y manylion canlynol am bob cymhwyster o'r fath a gyflawnwyd -
(b) teitl y pwnc; (c) y math a'r lefel; (ch) y canlyniad; ac (d) y dyddiad dyfarnu.
1. - (1) O ran pob disgybl cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol, rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl. (2) O ran pob disgybl o'r fath, yr wybodaeth ganlynol, pan fo'n briodol, mewn perthynas â phob un o'r pynciau perthnasol -
(b) y lefel ar lefel graddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol a gyflawnodd y disgybl yn ôl asesiad athrawon; (c) a aseswyd y disgybl gan athrawon wrth weithio tuag at lefel 1; (ch) a oedd y disgybl yn esempt rhag asesiad athrawon o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; neu (d) a ydyw canlyniad asesiad athrawon heb fod ar gael oherwydd absenoldeb y disgybl.
2. - (1) O ran pob disgybl cofrestredig yng nghyfnod y trydydd cyfnod allweddol, rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl. (2) O ran pob disgybl o'r fath, yr wybodaeth ganlynol, pan fo'n briodol, mewn perthynas â phob un o'r pynciau perthnasol -
(b) a aseswyd disgybl gan athrawon wrth weithio tuag at lefel 1; (c) a aseswyd disgybl gan athrawon ar lefel ar raddfa lefel y Cwricwlwm Cenedlaethol o dan y pennawd "Perfformiad Eithriadol"; (ch) a oedd y disgybl yn esempt rhag asesiad athrawon o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; ac (d) a ydyw canlyniad asesiad athrawon heb fod ar gael oherwydd absenoldeb disgybl.
3. O ran pob disgybl cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol, yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob un o'r pynciau perthnasol -
(b) a oedd y disgybl yn esempt rhag profion Cwricwlwm Cenedlaethol o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; neu (c) a ydyw canlyniad prawf Cwricwlwm Cenedlaethol heb fod ar gael am fod y disgybl yn absennol ar y diwrnod y rhoddwyd y prawf Cwricwlwm Cenedlaethol.
4. O ran pob disgybl cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol, yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob un o'r pynciau perthnasol -
(b) a oedd y disgybl yn esempt rhag profion Cwricwlwm Cenedlaethol o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; neu (c) a ydyw canlyniad prawf Cwricwlwm Cenedlaethol heb fod ar gael am fod y disgybl yn absennol ar y diwrnod y rhoddwyd prawf Cwricwlwm Cenedlaethol.
5. O ran pob disgybl cofrestredig yn yr ail a thrydyddd cyfnod allweddol, rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, a wnaed o dan adrannau 29(3), 408, 537, 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion yng Nghymru. Maent yn cydgyfnerthu, gyda diwygiadau, Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 1998, fel y'u diwygiwyd, ac yn eu dirymu. Mae'r Rheoliadau'n ymwneud â chasglu gwybodaeth am berfformiad ysgolion. Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau cyffredinol. Mae Rhan 2 yn gosod dyletswyddau ar benaethiaid ysgolion a gynhelir i drefnu bod gwybodaeth ar gael i gyrff llywodraethu er mwyn eu galluogi i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 5). Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau manwl sy'n ymwneud â darparu gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i awdurdodau addysg lleol. Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ddarparu gwybodaeth am ganlyniadau asesiadau ar y cyfnod allweddol cyntaf i'r awdurdodau addysg lleol (rheoliad 6 ac Atodlen 1). Rhaid i'r awdurdod addysg lleol roi gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am ganlyniadau asesiadau cyfnod allweddol cyntaf ar gyfer pob disgybl cofrestredig yng nghyfnod allweddol cyntaf yn yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod (rheoliad 7 ac Atodlen 1). Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a pherchenogion ysgolion arbennig ac ysgolion annibynnol nas cynhelir sydd â disgyblion 15, 16, 17 neu 18 oed roi gwybodaeth benodedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am eu canlyniadau (rheoliad 8 ac Atodlen 2). Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a pherchenogion ysgolion annibynnol ac ysgolion arbennig nas cynhelir roi gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am absenoldebau sydd wedi'u hawdurdodi a'r rhai heb eu hawdurdodi (rheoliad 9). Mae Rhan 4 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir roi gwybodaeth i'r Asiantaeth Casglu Data Cenedlaethol (corff sy'n cydlynu gwybodaeth am ganlyniadau asesiadau Cwricwlwm Cenedlaethol disgyblion) a'r asiantaeth farcio allanol (corff sy'n marcio ymatebion disgyblion i brofion Cwricwlwm Cenedlaethol) am ddisgyblion unigol sy'n ymwneud â disgyblion sydd ar ddiwedd neu ar drothwy diwedd blwyddyn olaf yr ail neu'r trydydd cyfnod allweddol (rheoliadau 10 ac 11 ac Atodlen 3). Notes: [1] 1996 p.56. Amnewidiwyd adran 29(3) gan baragraff 67 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30 a 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). Diwygiwyd adran 537 gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997, paragraffau 57 a 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Amnewidiwyd adran 573A gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (1999/672).back [3] Gweler adran 27 o Ddeddf Addysg 1997.back [4] Diwygiwyd adran 579(1) gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.back [7] Amnewidiwyd adran 337 gan baragraffau 57 ac 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back [8] Diwygiwyd adran 402 gan baragraffau 57 a 101 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a chan baragraff 45 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.back
ISBN 0 11090927 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 13 April 2004 |