Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110909216. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]. Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 12 Ebrill 2004. (2) Yn y rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[3]. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio'r Prif Reoliadau - Terfynau Cyfalaf 2. - (1) Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn. (2) Yn rheoliad 20 (Terfyn cyfalaf), yn lle'r ffigur "£20,000"[4], rhodder y ffigur "£20,500". (3) Yn rheoliad 28(1) (Cyfrifo incwm tariff o'r cyfalaf), yn lle'r ffigur "£12,250"[5], lle mae'n ymddangos, rhodder y ffigur "£13,500" ac yn lle'r ffigur "£20,000"[6], rhodder y ffigur "£20,500". Diwygio Atodlen 3 o'r Prif Reoliadau - Symiau a anwybyddir wrth gyfrifo incwm heblaw enillion 3. Ym mharagraff 28H o Atodlen 3 o'r Prif Reoliadau -
(b) yn is-baragraffau (3) a (4), yn lle'r ffigur "£6.75" rhodder y ffigur "£6.95" ble bynnag y mae'n ymddangos; (c) dileer is-baragraff (5) ac yn ei le rhodder yr is-baragraff canlynol -
(b) the partner referred to in paragraph (4)(a) is in receipt of savings credit,
sub-paragraph (4) does not apply to the resident.".
Dirymu (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y Prif Reoliadau"). Mae'r Prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person ("y preswylydd") i dalu am y llety a drefnir gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Trefnir llety o dan Ran III i bobl 18 oed neu drosodd sydd, oblegid eu hoedran, afiechyd, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, mewn angen gofal a sylw nad ydynt fel arall ar gael iddynt, ac i famau sy'n disgwyl neu'n sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg. Mae'r Prif Reoliadau yn darparu bod rhaid asesu preswylydd fel un sy'n gallu talu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy na therfyn cyfalaf uchaf o £20,000. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau i gynyddu'r terfyn cyfalaf uchaf o £20,000 i £20,500. Mae'r Prif Reoliadau yn darparu hefyd ar gyfer cyfrifo incwm preswylydd i gymryd i ystyriaeth gyfalaf sydd o fewn band rhwng y terfyn cyfalaf uchaf a'r terfyn cyfalaf isaf. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r terfynau cyfalaf uchaf ac isaf. Mae pob £250 neu ran o £250 o fewn y band hwn yn cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm wythnosol o £1. Mae rheoliad 3 yn cynyddu swm y Credyd Cynilion sydd i'w anwybyddu wrth gyfrifo incwm preswylydd. Mae hefyd yn gwneud mân ddiwygiad er mwyn symud effaith na fwriadwyd mohono yn y rheoliad fel y deddfwyd ef gyntaf. Mae rheoliad 4 yn dirymu'r rheoliad a ddiwygiodd y terfynau cyfalaf yn 2003. Notes: [1] 1948 p. 29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 86 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1992/2977; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1996/602, O.S. 2002/814 (Cy. 94) ac O.S.2003/897 (Cy. 117).back [4] Mewnosodwyd y ffigur hwn mewn perthynas â Chymru gan O.S.2003/897 (Cy.117).back [5] Mewnosodwyd y ffigur hwn mewn perthynas â Chymru gan O.S.2003/897 (Cy.117)back [6] Mewnosodwyd y ffigur hwn mewn perthynas â Chymru gan O.S.2003/897 (Cy.117)back [7] O.S. 2003/897 (Cy.117).back
ISBN 0 11 090921 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 7 April 2004 |