Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 13) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 13) (Cymru) 2004, ISBN 0110909291. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(5) a (6) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1]. Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 13) (Cymru) 2004. (2) Yn y Gorchymyn hwn, mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran yn Neddf Safonau Gofal 2000. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Y Diwrnod Penodedig 2. 1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i adrannau 8, 9(2) a (3), 10(2) i (7), 11 i 15, 17 i 21, 24, 26 i 32, 36 a 37 ddod i rym i'r graddau y mae'u darpariaethau yn ymwneud ag asiantaethau gofal cartref ac nad ydynt eisoes mewn grym. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 31 Mawrth 2004 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r gorchymyn hwn yn penodi 1 Ebrill 2004 fel y diwrnod y daw darpariaethau penodol o Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") i rym at ddibenion rheoliadau a wnaed mewn perthynas ag asiantaethau gofal cartref. Effaith hyn fydd dwyn yr asiantaethau hyn o fewn fframwaith reoliadol Deddf Safonau Gofal 2000. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 y gwnaed cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod amdanynt. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir cofnod amdanynt yn y Tabl gan y llythyren a nodir isod eu dwyn i rym gan yr offeryn statudol a ddangosir gyferbyn â'r llythyren honno:
(b) O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7) (c) O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70) (ch) O.S. 2001/2354 (Cy.192) (C.80) (d) O.S. 2001/2504 (Cy.205) (C.82) (dd) O.S. 2001/2538 (Cy.213) (C.83) (e) O.S. 2001/2782 (Cy.235) (C.92) (f) O.S. 2002/920 (Cy.108) (C.24) (ff) O.S. 2002/1175 (Cy.123) (C.31) (g) O.S. 2003/152 (Cy.22) (C.8) (ng) O.S. 2003/501 (Cy.70)(C.27) (h) O.S. 2003/2528 (Cy.243) (C.95).
Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 y gwnaed cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod amdanynt. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir cofnod amdanynt yn y Tabl gan y llythyren" "(a)" eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72); a'r rhai y dilynir cofnod amdanynt gan "(b)" eu dwyn i rym gan yr O.S. 2002/629 (C.19).
Yn ychwanegol cafodd darpariaethau amrywiol o Ddeddf Safonau Gofal 2000 eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68); O.S. 2001/3331 (C.109); O.S. 2001/3852 (C.125); O.S. 2001/4150 (C.134); O.S. 2002/839 (C.22); O.S. 2002/1245 (C.33); O.S. 2002/1493 (C.43); O.S. 2002/1790 (C.55); O.S. 2002/2215 (C.70); O.S. 2003/365 (C.23), O.S. 2003/933 (C.47) ac O.S. 2004/484 (C.20). Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r p er yn arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir "appropriate Minister" yn adran 121(1). Ei ystyr mewn perthynas â Chymru yw "the Assembly". Mae adran 5(b) yn diffinio "the Assembly" fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.back
ISBN 0 11090929 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 14 April 2004 |