Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationary Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110909372. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004. (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2004. (3) Daw rheoliadau 2, 3, 7 a 8 i rym ar 6 Ebrill 2004. (4) Yn y Rheoliadau onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
(5) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Ar ôl paragraff (2), mewnosoder y paragraff canlynol -
Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997
(b) ym mharagraff (3)(1)(ii) yn lle "£14,200" rhodder "£14,600".
Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997
(b) ym mharagraff (3), yn lle "£11.80" rhodder "£12.10".
Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997
(2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig, a theclynnau cymhleth) -
(b) ym mharagraff 1(1)(b) (prism - lens arall), yn lle "£12.20" rhodder "£12.50"; (c) ym mharagraff 1(1)(c) (lens arlliw golwg unigol), yn lle "£3.40" rhodder "£3.50"; (ch) ym mharagraff 1(1)(d) (lens arlliw arall), yn lle "£3.90" rhodder "£4.00"; (d) ym mharagraff 1(1)(e) (sbectol fach) -
(ii) yn lle "£45.70" rhodder "£46.80", a (iii) yn lle "£24.80" rhodder "£25.40";
(dd) ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau a weithgynhyrchwyd yn arbennig) yn lle "£51.50" rhodder "£52.80";
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(b) yn y safleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau canlynol -
(3) Ar ôl paragraff (1), mewnosoder y paragraff canlynol -
Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986
(bb) working tax credit which includes a disability element or a severe disability element, or (cc) child tax credit, but is not eligible to receive working tax credit, and
(ii) where the gross annual income of the person or persons to whom an award of a tax credit is made under section 14 of the Tax Credits Act 2002 is determined at the time of the award not to exceed £14,600; or";
(b) ar ôl is-baragraff (l), mewnosoder yr is-baragraffau canlynol -
(n) he is a member of a family one member of which is receiving pension credit guarantee credit.".
(3) Ym mharagraff (3), yn is-baragraff (a), yn lle "sub-paragraphs (b) and (f)" rhodder "sub-paragraphs (b), (f) and (n)".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("Rheoliadau 1997") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("Rheoliadau 1986"). Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau sydd i'w gwneud gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG trwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion llygaid, ac â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol. Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cyflwyno yn y categorïau o bersonau y mae ganddynt yr hawl i dderbyn cymorth tuag at gost cyflenwi teclynnau optegol (o dan Reoliadau 1997) ac i gael prawf llygaid o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol (o dan Reoliadau 1986) aelodau o deulu y mae ei incwm yn disgyn o dan y terfyn penodedig ac sy'n derbyn credyd treth gwaith gydag elfen anabledd difrifol. Maent hefyd yn gwneud diwygiadau yn sgil cyflwyno credyd gwarant credyd pensiwn yn Neddf Pensiwn y Wladwriaeth 2002. Pwrpas y diwygiadau yw sicrhau y bydd gan y rheini sy'n derbyn credyd gwarant credyd pensiwn ac aelodau o'u teuluoedd yr hawl i gael talebau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i'w rhoi tuag at gost teclynnau optegol a gwasanaethau offthalmig cyffredinol. Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) er mwyn cynyddu gwerth taleb optegol a ddyroddir tuag at gost ailosod un lens gyffwrdd, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol. Mae rheoliad 5(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectol a lensys cyffwrdd. Mae rheoliad 5(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau. Mae rheoliad 5(3) a'r Atodlen yn rhoi Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.5% yw graddfa'r cynnydd, ond ceir cynnydd o ryw 10% yng ngwerth talebau ar gyfer pobl benodol sydd â lensys presgripsiwn cryf. Mae rheoliad 6 yn darparu na fydd y cynnydd yng ngwerth y talebau a wneir gan reoliadau 4 a 5 yn gymwys ond i dalebau a dderbynnir neu a ddefnyddir ar ôl 1 Ebrill 2004. Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) ar gyfer y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd Adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6). Yn lle paragraff 2(1) o Atodlen 12 rhoddwyd paragraff 8(1) o Atodlen 2 o Ddeddf 1988; mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 197(1).back [2] O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 (Cy.48), 2000/3119 (Cy.198), 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy.98), 2002/186 (Cy.25) a 1506 (Cy.151), 2003/301 (Cy.43) a 955 (Cy.129).back [3] O.S.1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1988/486, 1989/395 a 1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705 a 2320, 1999/693, 1999/2481 (Cy.21), 2001/1362 (Cy.90), 2003/955 (Cy.129).back [4] Mewnosodwyd Adran 16BA yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 6.back [7] Mewnosodwyd Adran 16BA yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 6.back
ISBN 0 11090937 2
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 22 April 2004 |