Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) ac Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) ac Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110909364. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 4 iddi[1], ac adran 143 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 9 iddi [2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) ac Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau bilio yng Nghymru yn unig. Diwygiadau 2. Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 ("Rheoliadau 1992")[3] a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 ("Rheoliadau 1989")[4] yn unol â rheoliad 3. Taliadau ynghylch atafaelu 3. Yn Atodlen 5 o Reoliadau 1992 ac yn Atodlen 3 o Reoliadau 1989:
(ii) mewn perthynas â phennawd E (meddiant o nwyddau), yn lle "£12.50" rhodder "£14.00" ac yn lle "£10.00" rhodder "£11.00"; a (iii) mewn perthynas â phennawd H (taliad blaenorol etc.), yn lle "£20.00" rhodder "£22.50"; a
(b) yn is-baragraff (1) o baragraff 2 (symiau mewn perthynas ag atafaeliad) -
(ii) ym mharagraff (b), yn lle "20 per cent" rhodder "22.5 per cent".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 ("Rheoliadau 1992") a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 ("Rheoliadau 1989") mewn perthynas â Chymru. Mae Rheoliad 3 yn diwygio lefelau ffioedd penodol y gellir eu codi mewn perthynas ag atafaelu. Mae'r cynnydd hwn yn unol â chwyddiant ers 1998 pan gynyddwyd y ffioedd ddiwethaf. Notes: [1] 1992 p.14. Datganolwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn Atodlen 1.back [2] 1988 p.41. Datganolwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1.back [3] O.S. 1992/613, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/773, 1998/295.back [4] O.S. 1989/1058, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1990/145, 1992/474 a 1993/616.back
ISBN 0 11090936 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 20 April 2004 |