Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2004, ISBN 0110909283. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(f), 17(1), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freinir ynddo bellach[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi parchu, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor [3] sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddedddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2004. (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" "the principal Regulations" yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002[4]. Diwygio'r prif Reoliadau 2. Caiff y prif Reoliadau eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 7. 3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "Cyfarwyddeb 2001/15" mewnosoder ar y diwedd y geiriau ", fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/5/EC[5] ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb y Comisiwn 2004/6/EC[6] yn rhanddirymu Cyfarwyddeb 2001/15/EC er mwyn gohirio cymhwyso'r gwaharddiad ar fasnachu i gynhyrchion penodol". 4. Yn rheoliad 3 (cyfyngiadau ar werthu) -
(ii) mewn unrhyw achos arall, yn Atodlen 1;
(b) onid yw'r sylwedd hwnnw'n bodloni'r meini prawf perthnasol sy'n ymwneud â phurdeb ac y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); a
(b) mewnosoder ar ddiwedd y paragraff canlynol -
(b) os defnyddiwyd y sylwedd hwnnw wrth weithgynhyrchu bwyd at ddefnydd maethol neilltuol oedd ar werth yn y Gymuned Ewropeaidd ar 11 Chwefror 2004.".
5.
Yn Atodlen 1 (sylweddau y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd DMN dynodedig) -
(b) mewnosoder yng Nghategori 4 (Carnitin a thawrin) ar ôl y cofnod "L-carnitine hydrochloride" y cofnod "L-carnitin-L-tartrate".
6.
Yn lle Atodlen 2 (sylweddau ychwanegol y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddibenion meddygol arbennig) rhodder cynnwys Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn. Categori 3. Asidau amino
Ar gyfer asidau amino, i'r graddau y bo hynny'n gymwys caniateir defnyddio hefyd eu halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm a magnesiwm yn ogystal â'u hydrocloridau."
Categori 1. Fitaminau VITAMIN E:
Categori 2. Mwynau
CALCIUM:
MAGNESIUM:
IRON:
COPPER:
ZINC:
MANGANESE:
SELENIUM:
CHROMIUM:
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 ("y prif Reoliadau"). 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu -
(b) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/6/EC (OJ Rhif L.15, 21.1.2004, t.31) sy'n rhanddirymu Cyfarwyddeb 2001/15/EC er mwyn gohirio cymhwyso'r gwaharddiad ar fasnachu i gynhyrchion penodol.
3.
Mae'r prif Reoliadau'n gymwys i fwyd ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnydd maethol neilltuol (diffiniad o "fwydydd DMN dynodedig" yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hynny). Pan fo sylwedd sy'n dod o fewn un o'r categorïau canlynol wedi cael ei ychwanegu at y bwyd hwnnw at ddiben maethol penodol: fitaminau; mwynau; asidau amino; carnitin a thawrin; niwcleotidau; colin ac inositol, mae'r Rheoliadau hynny (yn y mwyafrif o achosion o 1 Ebrill 2004) yn gwahardd gwerthu bwyd o'r fath onid yw'r sylwedd wedi'i restru o dan y categori perthnasol yn Atodlen 1 neu, yn achos bwydydd at ddibenion meddygol arbennig, yn Atodlen 1 neu 2.
(b) yn ychwanegu at y rhestr o sylweddau yng nghategori mwynau ac yng nghategori carnitin a thawrin sylwedd arall y gellir ei ychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd DMN dynodedig (rheoliad 5); (c) yn ychwanegu at y rhestr o sylweddau yng nghategori asidau amino chwe sylwedd y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddibenion meddygol penodol (rheoliad 6 ac Atodlen 1); yn gosod amod ar ei ddefnyddio yn achos un o'r sylweddau hyn (rheoliad 4(a) ac Atodlen 1); ac wrth weithredu'r Atodiad i Gyfarwyddeb 2001/15/EC (OJ Rhif L52, 22.2.2001, t.19) yn darparu y gellir defnyddio yn lle asidau amino hefyd halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm a magnesiwm, yn ogystal â'u hydrocloridau (Atodlen 1); (ch) diweddaru'r diffiniad o "Cyfarwyddeb 2001/15" (rheoliad 3).
5.
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi yn nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddebau 2004/5/EC a 2004/6/EC yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p. 16.back [2] Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] O.S. 2002/2939 (Cy 280).back [5] OJ Rhif L14, 21.1.2004, t.19.back [6] OJ Rhif L15, 22.1.2004, t.31.back
ISBN 0 11090928 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 14 April 2004 |