Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004, ISBN 0110909356. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6)(b) a (7), 4(6) a (7)(b) i (i), 139(2) a 142(4) a (5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a pharagraff 3 o Atodlen 4 iddi[1] a chan adrannau 9(3), 57A(1) a (3) a 67(5) o Ddeddf Mabwysiadu 1976[2], a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004, a deuant i rym ar 1 Hydref 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydaf ef i'w fabwysiadu; (c) sydd wedi hysbysu ei fwriad, o dan adran 22(1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976, i wneud cais am orchymyn mabwysiadu am blentyn; neu (ch) sydd wedi mabwysiadu plentyn,
ond nid yw'n cynnwys person os nad yw'r plentyn bellach yn blentyn, neu os yw'r person yn llys-riant neu'n rhiant naturiol y plentyn, neu a oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn; ac
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) mae cyfeiriadau at blentyn mabwysiadol person yn gyfeiradau at blentyn heblaw llysblentyn, a fabwysiadwyd, neu y mae caniatâd i'w fabwysiadu, gan y person hwnnw.
(3) Yn rheoliadau 8 i 15, ystyr "plentyn" ("child") yw plentyn mabwysiadol, ac mae cyfeiriadau at blentyn person yn gyfeiriadau at blentyn, heblaw llysblentyn y person, a fabwysiadwyd neu y mae caniatâd i'w fabwysiadu gan y person hwnnw.
(b) gwasanaethau i alluogi grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaethau cymorth mabwysiadu i drafod materion sy'n ymwneud â mabwysiadu; (c) cymorth mewn perthynas â threfniadau cysylltu rhwng plentyn mabwysiadol a -
(ii) unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef a honno'n berthynas, ym marn yr awdurdod lleol, sydd o fudd i les y plentyn o ran y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;
(ch) gwasanaethau y gellir eu darparu i riant mabwysiadol neu blentyn mabwysiadol mewn perthynas ag anghenion therapiwtig y plentyn;
(ii) gofal seibiant.
(2) At ddibenion paragraff 3(1) o Atodlen 4 i Ddeddf 2002, y trefniadau mae'n ofynnol i awdurdodau lleol eu gwneud yw trefniadau er mwyn darparu unrhyw wasanaeth a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen ar gyfer personau sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen hwnnw.
(b) sut y gellir darparu'r gwasanaethau hynny iddynt.
(3) Caiff awdurdodau lleol dim ond penodi person yn gynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysaidu os yw'n fodlon fod ei wybodaeth a phrofiad am -
(b) effaith mabwysiadu plentyn ar bersonau y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y mabwysiadu,
yn ddigonol at ddibenion rôl cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
(b) nid yw wedi cynnal asesiad yn unol â pharagraff (4) o ran pob aelod o'r teulu mabwysiadol,
rhaid iddo, cyn cwblhau'r adolygiad, asesu anghenion pob aelod o'r teulu mabwysiadol o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
(b) bod paragarff (12) yn gynmwys a bod y person yn gofyn am gael ei asesu -
(ii) cyn pen tair blynedd ar ôl y dyddiad pan leolwyd y plentyn mabwysiadol gyda'r rhieni mabwysiadol; neu
(c) nad yw is-baragraffau (a) a (b) yn gymwys ac mae'r person yn byw yn ardal yr awdurdod lleol.
(11) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd plentyn mabwysiadol -
(b) heb ei fabwysiadu ond wedi cael ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod lleol.
(12) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd plentyn mabwysiadol -
(b) cyn i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud, wedi cael ei leoli i'w fabwysiadu gyda'r rhieni mabwysiadol gan yr awdurdod lleol.
Gweithdrefn asesu
(b) anghenion teulu mabwysiadol y person; (c) o ran plentyn mabwysiadol a leolwyd i'w fabwysiadu, yr amgylchiadau a arweiniodd at leoli'r plentyn i'w fabwysiadu; (ch) unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn mabwysiadol sy'n codi oherwydd -
(ii) bod y plentyn wedi preswylio'n arferol y tu allan i Ynysoedd Prydain; (iii) bod y rhiant mabwysiadol yn berthynas i'r plentyn.
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol, pan fydd yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny -
(b) llunio adroddiad ysgrifenedig o'r asesiad.
(4) Rhaid i'r awdurdod lleol, gan ystyried yr asesiad, benderfynu -
(b) os felly, a oes angen darparu'r gwasanaethau hynny iddo,
ac, yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad o'r penderfyniad yn ysgrifenedig yn unol â pharagraff (5), yn ogystal â'r rhesymau drosto.
(b) pan fydd y person yn blentyn ac -
(ii) o ystyried popeth, nid ymddengys yn amhriodol gwneud hynny,
i'r plentyn;
(ii) y person y lleolwyd y plentyn gydag ef i'w fabwysiadu; (iii) y person sydd wedi mabwysiadu'r plentyn; neu
os nad yw person yn dod o fewn penawdau (i) i (iii) o'r is-baragraff hwn, y person sy'n bwriadu mabwysiadu'r plentyn.
(6) Pan fydd yr asesiad yn ymwneud â darparu gwybodaeth yn unig, ni fydd y gofyniad ym mharagraff (4) i roi hysbysiad yn gymwys pan na fydd yr awdurdod lleol yn ei hystyried yn briodol rhoi hysbysiad.
(b) ei hysbysu ef neu hi am y cynllun.
(2) At ddibenion paratoi'r cynllun, rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori â -
(b) y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu (os oes un) a enwebwyd ar gyfer y person; (c) pan ymddengys i'r awdurdod lleol -
(ii) y gall fod angen darparu gwasanaethau iddo sy'n dod o fewn swyddogaethau awdurdod addysg lleol (o fewn ystyr Deddf Addysg 1996) [8],
y bwrdd iechyd lleol hwnnw neu'r awdurdod addysg lleol hwnnw.
Adolygu darpariaeth gwasanaethau cymorth mabwysiadu
(b) adolygu ac, os yw'n briodol, diwygio'r cynllun a baratowyd o dan reoliad 7.
(4) Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu amrywio'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu i'r person, neu ddiwygio'r cynllun, rhaid iddo roi hysbysiad yn unol â pharagraff (5) o reoliad 6; ac y mae paragraffau (6) a (7) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys i'r paragraff hwn fel y maent yn gymwys i baragraff (5) o'r rheoliad hwnnw.
(b) wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu ond nid oes gorchymyn mabwysiadu wedi'i wneud ar gyfer y plentyn; ac (c) pan fydd awdurdod lleol arall ("yr awdurdod adennill lleol") yn darparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu mewn perthynas â'r plentyn,
caiff yr awdurdod adennill, yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5), adennill o'r awdurdod lleoli dreuliau darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
(b) y darperir y gwasanaethau yn unol â'r cynllun a baratowyd o dan reoliad 7 gan yr awdurdod lleoli.
(4) Pan fydd awdurdod lleoli yn talu treuliau darparu gwasnaethau cymorth mabwysiadu -
(b) o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 3(1)(a), pan ddarperir y cymorth hwnnw ar ôl gwneud y gorchymyn mabwysiadu,
rhaid i'r awdurdod lleoli barhau i wneud felly am hyd at dair blynedd o ddyddiad y lleoli, yn ddarostyngedig i reoliad 14.
(b) person y mae'r plentyn wedi'i leoli gydag ef i'w fabwysiadu, ond nid yw'r plentyn wedi'i fabwysiadu; (c) person sydd wedi mabwysiadu plentyn sydd o dan 18;
(2) Dyma'r amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) -
(b) pan fydd plentyn wedi'i leoli gyda'r rhieni mabwysiadol i'w fabwysiadu, ac mae cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau y gall y rhieni mabwysiadol barhau i ofalu am y plentyn; (c) pan fydd y plentyn wedi'i fabwysiadu, ac mae cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau y gall y rhieni mabwysiadol barhau i ofalu am y plentyn; (ch) pan fydd yr awdurdod lleol yn fodlon bod y plentyn wedi sefydlu perthynas gref a phwysig gyda'r rhiant mabwysiadol cyn i orchymyn mabwysiadu gael ei wneud; (d) pan fydd yn ddymunol bod y plentyn yn cael ei leoli gyda'r un rhiant mabwysiadol â'i frodyr neu'i chwiorydd neu gyda phlentyn y mae wedi rhannu cartref ag ef o'r blaen; (dd) pan fydd angen gofal arbennig ar y plentyn ac sy'n gwneud treulio rhagor o adnoddau yn ofynnol oherwydd salwch, anabledd, anawsterau emosiynol neu ymddygiadol neu ganlyniadau parhaus cam-driniaeth neu esgeulustod yn y gorffennol; (e) pan fydd yn angenhreidiol oherwydd oedran, rhyw neu darddiad ethnig plentyn i'r awdurdod wneud trefniadau arbennig i hwyluso lleoli'r plentyn i'w fabwysiadu.
(3) Ym mhob achos cyn y gellir talu cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r rhieni mabwysiadol gytuno ar -
(ii) oes unrhyw newid yn eu hamgylchiadau ariannol neu yn anghenion ariannol neu adnoddau'r plentyn;
ac os rhoddir yr wybodaeth yn llafar, i'w chadarnhau yn ysgrifenedig cyn pen saith niwrnod,
(4) Ni thelir cymorth ariannol i ddiwallu unrhyw anghenion i'r graddau y mae unrhyw fudd-dal neu lwfans sy'n gymwys i'r rhieni mabwysiadol oherwydd iddynt fabwysiadu'r plentyn, yn daladwy neu ar gael iddynt o ran yr anghenion hynny.
(b) yr adnoddau ariannol sydd ar gael i'r rhieni mabwysiadol gan gynnwys credyd treth plant ac unrhyw fudd-dal arall a fyddai ar gael ar gyfer y plentyn pan fabwysiadwyd ef; (c) y swm y mae ei angen ar y rhieni mabwysiadol o ran eu treuliau a'u rhwymedigaethau rhesymol (ac eithrio treuliau sy'n ymwneud â'r plentyn); (ch) anghenion neu adnoddau ariannol y plentyn; (d) gwariant er mwyn hwyluso lleoli'r plentyn gyda rhieni mabwysiadol i'w fabwysiadu, gan gynnwys -
(ii) gwariant cychwynnol sy'n angenrheidiol er mwyn lletya'r plentyn, gan gynnwys darparu dodrefn a chyfarpar t , newidiadau ac addasiadau i'r cartref lle mae'r plentyn yn cael ei letya, darparu cyfrwng cludo a darparu dillad, teganau a phethau eraill sy'n angenrheidiol er mwyn gofalu am y plentyn;(iii) costau cyfreithiol, gan gynnwys ffioedd llysoedd sy'n daladwy i lys, ac sy'n ymwneud â mabwysiadu'r plentyn; (iv) costau cyfarpar ar gyfer unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn; (v) cost difrod neu draul yn y cartref lle mae'r plentyn yn cael ei letya pan fydd y gost honno yn codi o anawsterau ymddygiadol arbennig y plentyn; (vi) cost lleoli plentyn mewn ysgol fyrddio pan fydd y lleoliad yn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion arbennig y plentyn; (vii) cost diwallu anghenion arbennig y plentyn, gan gynnwys anghenion sy'n codi o anabledd neu salwch difrifol; (viii) gwariant ar deithio ar gyfer ymweliadau rhwng y plentyn a'r personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(1)(c).
(3) Ac eithrio pan fydd paragraffau (4) a (5 yn gymwys, rhaid i'r cymorth ariannol sy'n daladwy gan yr awdurdod lleol beidio â chynnwys unrhyw elfen o ad-daliad ar gyfer gofal am y plentyn gan rieni mabwysiadol.
(b) ymddengys i'r awdurdod lleol bod unrhyw gymorth ariannol neu lwfansau sy'n cael eu rhoi i'r rhiant mabwysiadol mewn perthynas â maethu'r plentyn wedi peidio neu y bydd yn peidio; (c) bydd yr awdurdod lleol wedi penderfynu yn unol â rheoliad 11(1) o Reoliadau 1983 y byddai'r rhiant mabwysiadol yn addas fel rhiant mabwysiadol ar gyfer y plentyn; a (ch) cyn i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud mae'r awdurdod lleol yn penderfynu talu cymorth ariannol ac yn penderfynu y dylai'r cymorth ariannol hwnnw gael ei dalu'n rheolaidd.
(5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys -
(b) ar unrhyw adeg ar ôl yr ail ben blwydd, pan fydd unrhyw un o'r amgylchiadau a bennir yn rheoliad 10 (2)(a), (b), (d), (dd) neu (e) wedi bodoli ar y dyddiad pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu, yn unol â pharagarff (4)(ch), talu cymorth ariannol.
Trefn penderfynu a ddylid talu cymorth ariannol
(b) bydd yr awdurdod lleol yn adolygu'r dull o ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu mewn perthynas â pherson, ac mae'r adolygiad yn ymwneud ag angen y person am gymorth ariannol.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol -
(b) yn unol â pharagraff (3) hysbysu'r rhieni mabwysiadol am eu penderfyniad arfaethedig o ran -
(ii) y swm arfaethedig, os oes un, a fyddai'n daladwy; a (iii) a ddylid talu'r cymorth ariannol yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae caniatâd i'w gosod yn unol â pharagraff (4);
(c) ystyried unrhyw sylwadau oddi wrth y rhieni mabwysiadol cyn pen y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad;
(3) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (2)(b) ddatgan y cyfnod erbyn pryd y caiff y rhieni mabwysiadol wneud sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch y penderfyniad arfaethedig, a rhaid i'r awdurdod lleol beidio â gwneud penderfyniad o dan baragraff (2)(ch) hyd nes i'r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(b) swm y cymorth ariannol; (c) pan fydd cymorth ariannol i'w dalu'n rhandaliadau neu'n rheolaidd -
(ii) y dyddiad (os oes un) y mae cymorth ariannol i'w dalu hyd ato; (iii) y dyddiad pan delir cymroth ariannol gyntaf;
(ch) pan fydd cymorth ariannol i'w dalu yn un taliad, y dyddiad pryd y mae'r taliad i'w wneud;
(ii) y rhieni mabwysiadol yn unol â'u cytundeb o dan reoliad 10(3),
mewn perthynas â'r cymorth ariannol os bydd newid yn amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol neu'r plentyn.
Adolygu, amrywio a dod â chymorth ariannol i ben
(ii) anghenion ac adnoddau ariannol y plentyn; (iii) eu cyfeiriad ac a oes gan y plentyn gartref gyda hwy o hyd (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt); a
(b) os daw unrhyw newid yn amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol neu'r plentyn, gan gynnwys unrhyw newid cyfeiriad a ddaw i'w sylw.
(2) Bydd paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan fydd cymorth ariannol yn daladwy mewn rhandaliadau neu'n rheolaidd.
(b) bydd y plentyn yn gymwys i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn ei hawl ei hun; (c) bydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed; (ch) daw unrhyw gyfnod y cytunwyd arno rhwng yr awdurdod lleol a'r rhieni mabwysiadol ar gyfer talu'r lwfans i ben; neu (d) bydd y plentyn yn marw.
Cyfrinachedd, cadwraeth a mynediad at gofnodion
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Mabwysiadu 1976 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("Deddf 2002") ac maent yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'n ofynnol bod awdurdodau lleol yn cynnal gwasanaeth mabwysiadu, sy'n gorfod cynnwys gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu diffinio yn adran 2 o Ddeddf 2002 fel cwnsela, cyngor a gwybodaeth ac unrhyw wasanaethau eraill a ragnodir gan reoliadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud ag anghenion teuluoedd mabwysiadol sy'n codi pan fydd plant sydd o dan ofal awdurdodau lleol yn cael eu mabwysiadu. Mae rheoliad 3 yn pennu'r gwasanaethau y mae'n rhaid eu darparu i grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaeth potensial. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol benodi cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu fel pwynt cyswllt canolog i bobl ac i ddarparu cyngor a gwybodaeth am wasanaethau. Mae rheoliad 5 yn nodi pryd mae'n rhaid gwneud asesiad am wasanaethau, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sy'n ystyried lleoli plentyn gyda theulu yn ardal awdurdod lleol arall, ymgynghori â'r awdurdod hwnnw am y lleoliad ac am yr asesiad. Mae rheoliad 6 yn gosod y weithdrefn ar gyfer asesu. Ac eithrio pan fydd cymorth yn cael ei roi ar un achlysur yn unig, mae rheoliad 7 yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdod lleol pan fydd wedi penderfynu darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, i ddarparu cynllun sy'n nodi sut y bydd y gwasanaethau yn cael eu darparu; rhagnodir sut y mae ymgynghori ynghylch y cynllun hwnnw. Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer adolygu gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 9 yn dyrannu cyfrifoldeb dros gyllid pan leolir plant dros ffiniau awdurdodau lleol, neu os bydd y teulu mabwysiadol yn symud i fyw wedyn. Mae rheoliadau 10 i 14 yn ymwneud â thalu cymorth ariannol. Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gadw cofnod o gymorth ariannol yng nghofnodion achos y mae'n ofynnol eu cadw o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983. Mae rheoliad 16 yn diwygio Rheoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991 fel nad ydynt bellach yn gymwys i awdurdodau lleol, ond byddant yn aros mewn grym am y tro o ran asiantaethau mabwysiadu. Notes: [1] 2002 p.38. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol: gweler adran 144(1) am y diffiniad o "regulations". Diffinnir "appropriate Minister" yn adran 144(1), mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.back [2] 1976 p.36 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Plant 1989 p.41 (paragraff 25 o Atodlen 10) a Deddf 2002 (paragraff 4 o Atodlen 4). Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddi.back [3] Gan adran 1(4) o Ddeddf Mabwysiadu 1976, caniateir cyfeirio at awdurdod lleol neu gymdeithas fabwysiadu briodol fel asiantaeth fabwysiadu. Diffiniwyd y term "appropriate voluntary organisation" yn adran 1(5) o Ddeddf 1976, fel y'i mewnosodwyd gan adran 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac Atodlen 4, paragraff 5 iddi, t.14.back [6] O.S. 1983/1964, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/649, O.S. 1983/2308 ac O.S. 2001/2237.back [7] Gan adran 2(6) o Ddeddf 2002, diffinnir y term "adoption support services" fel (a) cwnsela, cyngor a gwybodaeth, a (b) unrhyw wasanaethau eraill a ragnodir gan reoliadau mewn perthynas â mabwysiadu.back [8] p.56. Gweler adran 12 o'r Ddeddf.back [10] O.S. 1991/2030, fel y'i diwygwyd gan O.S. 1991/2130.back
ISBN 0 11090935 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 21 April 2004 |