Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110909194. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a 143(4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi[1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2]. Cymhwyso, enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004. Prisio ar sail y contractiwr 2. - (1) Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989[3] fel a ganlyn. (2) Ar ôl paragraff (1B) mewnosoder -
(3) Ar ôl paragraff (2B) mewnosoder -
(b) in any other case, 5.0%".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Paragraff 2 o Atodlen 6 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988") yn darparu bod gwerth ardrethol hereditament annomestig yn cael ei benderfynu trwy gyfeirio at y rhent y gellid disgwyl yn rhesymol ei ddefnyddio, yn ôl yr amcangyfrif, i osod yr hereditament o flwyddyn i flwyddyn. Yn yr achosion hynny lle nad oes tystiolaeth fwy uniongyrchol o werth rhent, yn hytrach, penderfynir ar werth ardrethol hereditament annomestig trwy ddatgyfalafu cyfanswm gwerth cyfalaf amcangyfrifedig yr hereditament (yr enw ar hyn yw "sail prisio'r contractiwr"). Rhagnodir y cyfraddau datgyfalafu gan Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988. Y prif Reoliadau a wnaed o dan y p er hwn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 (fel y'u diwygiwyd) ("Rheoliadau 1989"), y mae Rheoliad 2 ohonynt yn rhagnodi'r cyfraddau presennol.I'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, mae'r p er i wneud Rheoliadau o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 wedi'i drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Drwy ddibynnu ar y p er hwn, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn i ddiwygio, gydag effaith o 1 Ebrill 2005, y cyfraddau datgyfalafu a ragnodwyd gan Reoliad 2 o Reoliadau 1989.Notes: [1] 1988 p.41.back [2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 143(1) a 143(4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2(2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddi.back
ISBN 0 11 090919 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 7 April 2004 |