Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004, ISBN 0110909186. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi a chymhwyso 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004. Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2004 2. Mae darpariaethau canlynol Rhan 6 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn dod i rym ar 31 Mawrth 2004 mewn perthynas â Chymru -
(b) adran 41 (cau mangreoedd swnllyd: atodol); (c) adran 42 (ymdrin â s n yn y nos);(ch) adran 43 (hysbysiadau cosbau ar gyfer graffiti a gosod posteri); (d) adran 44 (ystyr tramgwydd perthnasol); (dd) adran 45 (derbynebau a derbyniadau cosbau); (e) adran 47 (dehongli etc.); (f) adran 48 (hysbysiadau cael gwared ar graffiti); (ff) adran 49 (adennill gwariant); (g) adran 50 (canllawiau); (ng) adran 51 (apelau); (h) adran 52 (esemptiad rhag atebolrwydd mewn perthynas â hysbysiadau cael gwared ar graffiti); (i) adran 55 (gwastraff a adawyd yn anghyfreithiol etc.); ac (l) adran 56 (estyn pwerau awdurdod sbwriel i gymryd camau adfer).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2004, mewn perthynas â Chymru, ddarpariaethau penodol o Ran 6 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (" y Ddeddf"), sef:
er i awdurdodau lleol i wneud gorchmynion cau mewn perthynas â mangreoedd swnllyd;(b) adran 41, sy'n gwneud darpariaethau atodol mewn perthynas â gorchmynion cau; (c) adran 42, sy'n diwygio Deddf S n 1996 i estyn y cymhwysiad adrannau 2 i 9 o'r Ddeddf honno at ardal pob awdurdod lleol, i roi disgresiwn i ymchwilio i gwynion am s n yn y nos yn lle'r ddyletswydd y mae awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn ddarostyngedig iddi, ac i roi p er i wneud darpariaeth, drwy reoliadau, ar gyfer pa ddibenion y ceir defnyddio'r derbyniadau cosb sy'n dod i law o dan adran 8 o'r Ddeddf honno;(ch) adran 43, sy'n rhoi p er i awdurdodau lleol i ddyroddi hysbysiadau cosbau penodedig i bersonau sydd wedi cyflawni tramgwydd perthnasol yn ardal yr awdurdod;(d) adran 44, sy'n diffinio ystyr "relevant offence" at ddibenion adran 43; (dd) adran 45, sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r cosbau sy'n daladwy yn unol â'r hysbysiadau cosbau penodedig o dan adran 43; (e) adran 47, sy'n gwneud darpariaeth o ran dehongli termau penodol ac sy'n rhoi p er i'r person priodol (a ddiffinnir, mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru) i gyhoeddi canllawiau mewn perthynas â hysbysiadau cosbau penodedig o dan adran 43;(f) adran 48, sy'n rhoi p er i awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiadau cael gwared ar graffiti i bersonau sy'n gyfrifol am arwynebau a ddifwynwyd gan graffiti;(ff) adran 49, sy'n rhoi p er i awdurdodau lleol adennill oddi wrth y personau y cyflwynwyd hysbysiadau cael gwared ar graffiti iddynt unrhyw wariant a dynnwyd yn rhesymol gan yr awdurdod wrth gael gwared ar y difwyniad;(g) adran 50, sy'n gosod dyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol yng Nghymru at ddibenion adrannau 48 a 49, ac sy'n gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol hynny i roi sylw i'r canllawiau hynny; (ng) adran 51, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau cael gwared ar graffiti; (h) adran 52, sy'n esemptio awdurdodau lleol a phersonau penodol rhag atebolrwydd dros ddifrod a ddaw o arfer neu honni arfer pwerau penodol ynghylch hysbysiadau cael gwared ar graffiti; (i) adran 55, sy'n diwygio Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989 a Deddf yr Amgylchedd 1995 i estyn pwerau gorfodi awdurdodau casglu gwastraff, ac sy'n mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi cyfarwyddiadau ynghylch y categorïau o wastraff a ddylai gael blaenoriaeth o dan adran 59 o'r Ddeddf honno a dyroddi hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth mewn perthynas ag arfer pwerau o dan adrannau 33(1) a 59 o'r Ddeddf honno; ac (l) adran 56, sy'n diwygio adran 92 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i estyn y categorïau o dir y caiff prif awdurdodau sbwriel gymryd camau mewn perthynas â hwy. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi cael neu yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn ogystal â Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Notes: [1] 2003 p. 38.back
ISBN 0 11 090918 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 7 April 2004 |