Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004, ISBN 0110909178. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2004 Rhif 996 (Cy.104)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, gan weithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
RHAN 1
RHAGARWEINIOL
Teitl, cymhwyso a chychwyn 1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004; mae'n gymwys i Gymru, a daw i rym ar 31 Mawrth 2004.
ystyr "ceidwad" ("keeper") yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros foch, boed hynny ar sail dros dro neu barhaol, ond nid yw'n cynnwys person nad yw ond yn cludo moch; a
"ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
ystyr "daliad" ("holding") yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae moch yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod;
mae i "daliad cymeradwy" ("approved holding") yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 23;
mae i "marc adnabod" ("identification mark") yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 10;
ystyr "marc y genfaint" ("herdmark") yw'r cod alffaniwmerig a ddyrennir i genfaint o foch gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag erthygl 4(2);
ystyr "rhif CPH" ("CPH number") yw rhif daliad a neilltuir o dro i dro i unrhyw ddaliad neu ran o unrhyw ddaliad gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Trwyddedau, awdurdodiadau a chymeradwyaethau 3.
Rhaid i unrhyw drwydded, awdurdodiad neu gymeradwyaeth o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, gall fod yn amodol ar amodau a chaniateir ei hatal, diwygio neu ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw amser.
RHAN 2
CADW COFNODION
Hysbysiadau daliadau 4.
- (1) Rhaid i geidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol Cynulliad am yr wybodaeth ganlynol o fewn un mis ar ôl sefydlu daliad -
(a) cyfeiriad y daliad; a
(b) enw a chyfeiriad perchennog neu feddiannydd y daliad.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cod alffaniwmerig ar gyfer pob cenfaint o foch ar y daliad ("marc y genfaint"), ar ôl i'r wybodaeth ym mharagraff (1) gael ei darparu.
(3) Rhaid i geidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw newid neu y chwanegiad at yr wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis ar ôl y newid neu'r ychwanegiad.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i geidwad sydd eisioes wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae ei angen o dan yr erthygl hon fod yn ysgrifenedig.
Cofnodion symud 5.
- (1) Rhaid i geidwad gofnodi pob un o symudiadau mochyn i'w ddaliad ac oddi yno o fewn 36 awr ar ôl y symud.
(2) Rhaid i'r cofnod fod yn y ffurf a nodir yn yr Atodlen.
(3) Os yw'r symud ar gyfer unrhyw ddiben y cyfeirir ato yn erthyglau 19 neu 20 rhaid i'r ceidwad hefyd gofnodi'r rhif adnabod unigol unigryw.
Cofnodion Lladd-dai 6.
- (1) Rhaid i feddiannydd lladd-dy, yn ychwanegol at ofynion erthygl 5, gofnodi manylion unrhyw fochyn y deuir ag ef i ladd-dy -
(a) nad yw wedi'i farcio yn unol ag erthygl 14, yn achos mochyn dros 12 mis oed;
(b) nad yw wedi'i farcio yn unol ag erthygl 18 yn achos mochyn 12 mis oed neu'n iau; ac
(c) nad yw'r ddogfen sy'n ofynnol gan erthygl 21 gydagef.
(2) Rhaid i'r manylion i'w cofnodi gael eu cadw ar wahân i'r wybodaeth sy'n ofynnol gan erthygl 5 a rhaid iddynt gynnwys hefyd -
(a) enw ceidwad y mochyn; a
(b) y daliad yr anfonwyd y mochyn oddi arno i'w gigydda.
Cofnodion gwerthu mewn arwerthiant 7.
- (1) Mewn marchnad lle gwerthir moch trwy arwerthiant rhaid i feddiannydd y farchnad, ar gyfer pob lot of foch, gofnodi -
(a) yr wybodaeth yn yr Atodlen;
(b) enw'r gwerthwr a'r prynwr; a
(c) rhif y lloc lle y daliwyd pob lot.
(2) Rhaid i'r cofnod gael ei wneud o fewn 36 awr ar ôl y gwerthiant.
Cofnod o'r nifer o foch ar ddaliad 8.
O leiaf unwaith y flwyddyn rhaid i'r ceidwad gadw cofnodion uchafswm nifer y moch sy'n bresennol fel rheol ar y daliad.
Cadw cofnodion 9.
- (1) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud cofnodion o dan y Gorchymyn hwn eu cadw am o leiaf 6 blynedd o ddiwedd y flwyddyn y gwnaed y cofnod ynddi.
(2) Caiff cofnodion fod yn ysgrifenedig neu ar ffurf electronig.
(a) tag clust sydd wedi'i stampio neu wedi'i argraffu â'r llythrennau "UK" ac ar ôl hynny marc y genfaint; neu
(b) tatw o farc y genfaint sy'n ddarllenadwy am oes y mochyn.
(2) At ddibenion erthyglau 19 a 20 rhaid i farc y genfaint ym mharagraff (1) gael ei ddilyn gan rif adnabod unigol unigryw a neilltuir i'r mochyn gan y ceidwad.
Gofynion ar gyfer tagiau clust 11.
Rhaid i dag clust -
(a) bod yn hawdd ei ddarllen drwy gydol oes y mochyn;
(b) bod wedi'i wneud naill ai o fetel neu blastig neu gyfuniad o fetel a phlastig;
(c) bod yn amhosibl ymhêl ag ef;
(ch) bod yn amhosibl ei ail-ddefnyddio;
(d) gallu gwrthsefyll gwres yn ddigonol fel na fydd prosesu'r carcas yn sgil cigydda yn difrodi'r tag clust na'r wybodaeth sydd wedi'i stampio arno;
(dd) fod o ddylunwaith a fydd yn dal i fod ynghlwm wrth y mochyn heb beri niwed iddo.
Slapfarc 12.
Tatw o farc y genfaint a roddir ar ddwy ysgwydd flaen y mochyn yw slapfarc.
Marciau ychwanegol 13.
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn atal ceidwad rhag marcio'r mochyn ag unrhyw wybodaeth arall, neu rhag ychwanegu gwybodaeth ychwanegol at y marc adnabod, ar yr amod nad yw'r marciau hyn yn effeithio ar y gallu i darllen y marc adnabod neu'r slapfarc.
RHAN 4
GOFYNION ADNABOD CYFFREDINOL
Adnabod moch dros 12 mis oed a symudir oddi ar ddaliad 14.
Ni chaiff neb symud mochyn dros 12 mis oed oddi ar ddaliad oni bai ei fod wedi'i farcio â'r canlynol -
(a) marc adnabod; neu
(b) slapfarc sy'n ddarllenadwy drwy gydol oes y mochyn a thrwy gydol prosesu ei garcas.
Adnabod moch o dan 12 mis oed a symudir oddi ar ddaliad 15.
- (1) Ni chaiff neb symud mochyn 12 mis oed neu'n iau oddi ar ddaliad oni bai ei fod wedi'i adnabod yn unol ag erthygl 14 neu â marc dros dro.
(2) Rhaid i farc dros dro -
(a) naill ai ar ei ben ei hun neu drwy gyfeirio at ddogfen sydd gyda'r mochyn yn ystod y symud, alluogi'r daliad y symudwyd y mochyn oddi arno ddiwethaf i gael ei adnabod; a
(b) para nes y bydd y mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan.
Adnabod moch a symudir i ddaliad o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd 16.
- (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n mewnforio mochyn o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd roi tag clust neu datw ar y mochyn sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol, yn y drefn ganlynol -
(a) y llythrennau "UK";
(b) marc cenfaint y genfaint y cyflwynir y mochyn a fewnforiwyd iddi;
(c) unrhyw wybodaeth arall, os yw'r ceidwad yn dymuno defnyddio gwybodaeth o'r fath; a
(ch) y llythyren "F".
(2) Rhaid i'r tag clust neu'r tatw gael ei roi ar y mochyn o fewn 30 diwrnod ar ôl iddo gyrraedd daliad y gyrchfan, a beth bynnag, cyn iddo gael ei symud o'r daliad hwnnw.
RHAN 5
GOFYNION ADNABOD Y CHWANEGOL
Gofynion adnabod ychwanegol 17.
Mae'r gofynion adnabod ar gyfer symud a bennir yn erthyglau 18 i 20 yn gymwys yn ychwanegol at y gofynion yn Rhan 4.
Symud moch 12 mis oed neu'n iau i ladd-dy 18.
- (1) Ni chaiff neb symud mochyn 12 mis oed neu'n iau oddi ar ddaliad i ladd-dy neu farchnad gigydda oni bai ei fod wedi'i farcio â -
(a) marc adnabod; neu
(b) slapfarc sy'n ddarllenadwy drwy gydol oes y mochyn a thrwy gydol prosesu ei garcas.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr marchnad gigydda yw marchnad i werthu moch y bwriedir eu cigydda yn ddiymdroi.
Symud moch i sioeau, arddangosfeydd ac at ddibenion bridio 19.
Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad -
(a) i sioe neu arddangosfa; neu
(b) at ddibenion bridio gyda'r bwriad o ddychwelyd y mochyn i'r daliad y cafodd ei symud oddi arno
oni bai ei fod wedi'i farcio â marc adnabod sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw yn unol ag erthygl 10(2).
Symud moch i'w hallforio 20.
- (1) Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad at ddibenion masnach neu allforio rhyng-Gymunedol oni bai ei fod wedi'i farcio â marc adnabod sy'n cynnwys -
(a) rhif adnabod unigol unigryw yn unol ag erthygl 10(2); a
(b) y llythrennau "UK" o flaen marc y genfaint.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys p'un ai tag clust ynteu tatw yw marc adnabod.
RHAN 6
RHEOLEIDDIO SYMUDIADAU
Symud moch 21.
- (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo moch gario dogfen, a lofnodwyd gan y ceidwad sy'n pennu -
(a) y cyfeiriad, gan gynnwys cod post a rhif CPH y daliadau y mae'r moch yn cael eu symud oddi arnynt ac iddynt;
(b) y dyddiad y mae'r symud yn digwydd;
(c) y nifer o foch y mae'r ddogfen honno'n eu cwmpasu;
(ch) marc adnabod pob un o'r moch a symudir; ac
(d) yn achos symud mochyn o farchnad, rhif lot y moch sy'n cael eu symud.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo mochyn roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan a rhaid i'r ceidwad ei chadw am o leiaf 6 mis.
(3) Rhaid i geidwad daliad y gyrchfan anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol, a hynny o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r mochyn gyrraedd.
(4) Rhaid i geidwad mochyn sy'n cael ei symud y tu allan i Gymru anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol ar gyfer y daliad traddodi.
Trwyddedau cerdded i foch anwes 22.
- (1) Caiff ceidwad mochyn anwes wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol am drwydded ("trwydded gerdded") sy'n caniatáu i'r ceidwad symud y mochyn heb gydymffurfio ag erthyglau 5 a 21.
(2) Rhaid i'r person sy'n symud y mochyn o dan y drwydded hon gario copi ohoni drwy gydol y symud.
Daliadau cymeradwy 23.
- (1) Daliad y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gymeradwyo at ddibenion symud moch y bwriedir eu bridio neu eu pesgi yw daliad cymeradwy.
(2) Rhaid i'r gymeradwyaeth bennu pa ddaliadau y gellir symud moch oddi arnynt a pha ddaliadau y gellir eu symud iddynt.
(3) Nid yw symud moch rhwng daliadau sydd wedi'u cymeradwyo o dan yr erthygl hon yn sbarduno'r cyfnod segur yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 [2].
RHAN 7
AMRYWIOL
Dileu marc adnabod 24.
Ni chaiff neb, oni bai ei fod yn cael ei awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol, ddileu marc adnabod a roddir neu a atodir o dan y Gorchymyn hwn.
Amnewid marc adnabod 25.
- (1) Ni chaiff neb, oni bai ei fod yn cael ei awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol, amnewid marc adnabod a roddir neu a atodir o dan y Gorchymyn hwn oni bai -
(a) bod y marc wedi dod yn amhosibl ei ddarllen;
(b) ei fod wedi'i ddileu am resymau lles; neu
(c) ei fod wedi mynd ar goll.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n amnewid marc adnabod naill ai -
(a) defnyddio marc adnabod union debyg; neu
(b) defnyddio marc adnabod newydd a chroes-gyfeirio'r marc adnabod newydd â'r marc adnabod gwreiddiol yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 5.
Cyflwyno dogfennau a chofnodion 26.
Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gofnodion a wneir o dan y Gorchymyn hwn gael eu cyflwyno os gwneir cais ac i gopi neu allbrint ohono gael ei wneud.
Gorfodi 27.
- (1) Mae'r Gorchymyn hwn i'w orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y Gorchymyn hwn i'w gyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd) ac nid gan yr awdurdod lleol.
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn parhau i weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L 355, 5.12.92, t.0032) ac yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002. (O.S. 2002/2303 (Cy.228), fel y'i diwygiwyd). Mae'n gwneud y newidiadau sylweddol a ganlyn -
Mae'n dileu'r ddarpariaeth ddarfod fel bod gan y Gorchymyn bellach effaith barhaol (erthygl 1).
Mae'n diwygio'r darpariaethau sy'n ymwneud ag adnabod moch -
fel bod rhaid i fochyn dros 12 mis oed fod wedi'i farcio â marc adnabod neu slapfarc (erthygl 14), cyn cael ei symud oddi ar ddaliad, a bod rhaid i fochyn 12 mis oed neu'n iau fod wedi'i farcio yn y ffordd honno neu â marc dros dro (erthygl 15); a
fel bod rhaid i fochyn sy'n cael ei fewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd gael ei adnabod yn naliad y gyrchfan â thag clust neu datw sy'n cynnwys y llythrennau "UK" ac ar ôl hynny y llythyren "F" (erthygl 16).
Yn ychwanegol at y gofynion uchod, mae'r Gorchymyn yn darparu -
bod rhaid i fochyn 12 mis oed neu'n iau sy'n cael ei symud i ladd-dy neu farchnad gigydda gael ei farcio â marc adnabod neu slapfarc (erthygl 18);
bod rhaid i fochyn sy'n cael ei symud i sioe, arddangosfa neu i'w allforio a hefyd i'w fridio, lle bwriedir i'r mochyn gael ei ddychwelyd i'r daliad y cafodd ei symud oddi arno, gael ei farcio â marc adnabod unigryw sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw (erthyglau 19 a 20).
Mae'n ychwanegu erthygl 6 sy'n ei gwneud yn ofynnol i feddianwyr lladd-dai gofnodi manylion moch sydd heb eu hadnabod o dan y Gorchymyn hwn.
Mae'n estyn y cyfnod y mae rhaid cadw cofnodion o 3 blynedd i 6 mlynedd (erthygl 9).
Mae Rhan 2 yn nodi gofynion o ran cadw cofnodion, gan gynnwys y gofyniad i gadw cofnodion symud (erthygl 5), cofnodion gwerthu mewn arwerthiant (erthygl 7) a chofnodion am y nifer o foch ar ddaliad (erthygl 8).
Mae Rhan 3 yn diffinio marciau adnabod (erthygl 10) a slapfarciau (erthygl 12) ac yn pennu'r gofynion ar gyfer tagiau clust (erthygl 11). Mae Rhan 6 yn rheoleiddio symud moch (erthygl 21) a moch anwes (erthygl 22) ac yn darparu ar gyfer cymeradwyo daliadau y gellir symud moch oddi arnynt heb sbarduno'r cyfnod segur yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1966) (Cy. 211) yn naliad y gyrchfan (erthygl 23).
Mae Rhan 7 yn gwahardd dileu ac amnewid marciau adnabod, ac eithrio o dan rai amgylchiadau (erthyglau 24 a 25).
Mae'r Gorchymyn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol (erthygl 27).
Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn ac fe'i lleolir yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.