Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2004, ISBN 011090916X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2004 Rhif 912 (Cy.95) (C.40)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud
24 Mawrth 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y per a roddwyd iddo gan adran 216(3), (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chymhwyso 1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2004.
2.
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig (ac eithrio mewn perthynas ag adran 198).
Dehongli 3.
- (1) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[2].
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Diwrnodau penodedig 4.
31 Mawrth 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5.
1 Awst 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Darpariaeth drosiannol - sefydlu neu newid ysgolion meithrin a gynhelir 6.
Er bod adran 154 yn dod i rym, ni fydd y paragraffau (aa) a (d) newydd yn is-adran (1) o adran 28 o Ddeddf 1998 yn gymwys lle mae awdurdod addysg lleol yng Nghymru wedi cymryd penderfyniad cyn 31 Mawrth 2004 i sefydlu ysgol feithrin newydd a gynhelir neu i wneud newid rhagnodedig i ysgol feithrin a gynhelir.
Darpariaeth drosiannol - trefniadau derbyn ar gyfer addysg feithrin 7.
Er bod paragraff 12(1), (3) i (5) o Atodlen 4 sy'n diwygio adran 98 o Ddeddf 1998 yn dod i rym, ni fydd y diwygiadau a wneir gan baragraff 12(3), (4) a (5) yn gymwys i flwyddyn ysgol sy'n gynharach na'r flwyddyn ysgol 2004 i 2005 mewn perthynas â derbyn plentyn i ysgol a gynhelir ar gyfer addysg feithrin.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2004 a 1 Awst 2004 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, mewn perthynas â Chymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru - gweler adran 211.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen -
Mae adran 51 ac Atodlen 4, paragraff 12(1), (3) i (5) yn diwygio adran 98 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Ddeddf 1998) er mwyn egluro mai'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir sy'n gyfrifol am dderbyn neu wrthod plant i'r ysgol ar gyfer addysg feithrin.
Mae adran 154 yn diwygio adran 28 o Ddeddf 1998 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i AALl gyhoeddi cynigion i sefydlu neu i wneud newidiadau rhagnodedig i ysgol feithrin a gynhelir.
Mae adran 156 yn diwygio'r diffiniad o "nursery school" yn adran 6 o Ddeddf Addysg 1996 (Deddf 1996), er mwyn darparu bod ysgol a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu addysg i blant rhwng dwy flwydd oed ac oed ysgol gorfodol, yn ysgol feithrin. Gynt yr oedd y diffiniad yn cyfeirio at ysgol a ddefnyddir yn bennaf i ddarparu addysg o'r fath. Mae adran 156 hefyd yn estyn y diffiniad o "primary education" yn adran 2 o Ddeddf 1996 i gynnwys addysg ran-amser sy'n addas i ofynion plant rhwng dwy flwydd oed ac oed ysgol gorfodol. Gynt yr oedd y diffiniad yn cyfeirio at addysg amser llawn yn unig.
Mae adran 198 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'w gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n eu bwydo lunio cynlluniau i hwyluso trosglwyddo disgyblion o'r naill i'r llall.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen -
Mae adran 177 yn estyn y diffiniad o "secondary education" yn adran 2 o Ddeddf 1996 er mwyn cynnwys addysg sy'n cael ei derbyn yn rhannol mewn ysgol ac yn rhannol mewn sefydliad arall neu unrhyw le arall, ac er mwyn ei gwneud yn glir ei bod yn cynnwys hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol, corfforol ac adloniadol. Rhoddir y per hefyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru addasu'r Deddfau Addysg mewn perthynas â phersonau sy'n cael addysg uwchradd yn rhannol mewn ysgol ac yn rhannol mewn sefydliad arall neu gorff arall.
Mae erthygl 6 o'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dwyn adran 154 i rym. Ni fydd y gofynion newydd i gyhoeddi cynigion yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniadau sydd wedi'u cymryd cyn 31 Mawrth 2004.
Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dwyn i rym y diwygiadau a wnaed i adran 98 o Ddeddf 1998 sy'n ymwneud â'r cyfrifoldeb dros dderbyniadau i ysgol ar gyfer addysg feithrin. Ni chaiff y diwygiadau hyn effaith tan y flwyddyn ysgol 2004-2005.
NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth
Y Dyddiad Cychwyn
Rhif O.S.
Adrannau 14 i 17
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 18(2)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 19(6) (yn rhannol)
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adrannau 27 a 28
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 29
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 40 (yn rhannol)
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 41
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Adran 42
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Adran 43
1 Tachwedd 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 46
1 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Adran 49
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 51 (yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
Adran 52 (yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
Adrannau 54 i 56
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 60 i 64
1 Awst 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 75 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 97 a 98
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 99(1)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 100 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 101 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 103
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 105 i 107
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 108 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 109
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 111 i 118
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 119
1 Hydref 2002
2002/2439
Adran 120(1) a (3) i (5)
1 Hydref 2002
2002/2439
Adran 120(2)
1 Awst 2003
2003/1667
Adran 121
1 Hydref 2002
2002/2439
Adran 122 i 129
1 Awst 2003
2003/1667
Adran 130 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn llawn)
1 Awst 2003
2003/1667
Adran 131
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 132 a 133
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 134 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 135
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 136 i 140
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 141
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 142 i 144
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 145
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 146 (yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 148 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 149
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 150
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 151(2)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 152 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 157 i 174
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
Adran 178(1) a (4)
1 Awst 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 179 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 180
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 181 i 185
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy. 185)
Adran 188 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Adran 189 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 191 i 194
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 195 (yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn llawn)
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 196
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 197
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 199
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 200
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 201 (yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 202 a 203
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 206
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Adran 207 a 208
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
Adran 215 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol)
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 3, paragraffau 1 i 5
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 4, paragraffau 1 a 4
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
Atodlen 5
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15.
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 11
1 Hydref 2002
2002/2439
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7,
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Paragraff 12(1) a (2)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 8
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 16, paragraffau 1 i 3
1 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 4 i 9
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7,
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 , (yn rhannol),
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 15,
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 19
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 20
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 21 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1667
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
Atodlen 22 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
9 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) ac 2003/1667
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 ( fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (dirymwyd) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667 ac O.S. 2003/2071.