Gorchymyn Sbwriel a Baeddu gan Gwn (Cosb Benodedig) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Sbwriel a Baeddu gan Gwn (Cosb Benodedig) (Cymru) 2004, ISBN 0110909119. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 88(7) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1], a chan y ddarpariaeth honno fel y'i cymhwysir gan adran 4(2) o Ddeddf Cwn (Baeddu Tir) 1996[2], sef y pwerau sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru[3], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sbwriel a Baeddu gan G n (Cosb Benodedig) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2004.(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhychwantu Cymru a Lloegr yn unig ac mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig. Swm y gosb benodedig 2. Yn adran 88(6) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (sy'n pennu'r gosb benodol am adael sbwriel ac a gymhwysir yn ogystal gan adran 4(2) o Ddeddf C n (Baeddu Tir) 1996) -
(b) diddymir drwy hyn unrhyw gyfeiriad at £25 sy'n goroesi.
Dirymu (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn darparu y caiff rhywun dalu cosb benodedig er mwyn ei ryddhau ei hun o fod yn agored i'w gollfarnu am y tramgwydd o adael sbwriel o dan adran 87 o'r Ddeddf honno. Mae Adran 4 o Ddeddf C n (Baeddu Tir) 1996 yn darparu y caiff rhywun dalu cosb benodedig er mwyn ei ryddhau ei hun o fod yn agored i'w gollfarnu am y tramgwydd o fethu â chael gwared ar faw c n o dan adran 3 o'r Ddeddf honno, ac mae'n cymhwyso darpariaethau adran 88 (2)-(8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd.Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yn cynyddu'r gosb benodedig am y tramgwyddau hyn ill dau, sef y tramgwydd o adael sbwriel a'r tramgwydd o faeddu gan g n, o £25 i £75.Notes: [1] 1990 p.43.back [3] Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
ISBN 0 11 090911 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 31 March 2004 |