Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Tir Diffaith) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Tir Diffaith) 2004, ISBN 0110909097. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y p er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 16(6) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975[1] a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru bellach[2]:Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Tir Diffaith) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2004. Cynnydd y Ganran Ragnodedig 2. At ddibenion is-adran (6) o adran 16 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975, ystyr "the prescribed percentage" (y ganran a ragnodwyd) yw 100 y cant. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. John Marek Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol 24 Mawrth 2004 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 16(1) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 ("y Ddeddf") yn darparu y caiff Awdurdod Datblygu Cymru ("yr Awdurdod") lle bo'n ymddangos iddo y dylid cymryd camau at ddibenion adfer neu wella unrhyw dir y mae adran 16(1) yn gymwys iddo, neu sy'n galluogi unrhyw dir o'r fath i gael ei ddefnyddio, arfer y pwerau a bennir yn adran 16(3) o'r Ddeddf mewn perthynas â'r tir hwnnw, gyda chaniatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae adran 16(2) o'r Ddeddf yn disgrifio'r tir y mae adran 16(1) yn gymwys iddo ac yn cynnwys tir sy'n ddiffaith, sydd wedi'i esgeuluso neu sydd wedi'i anharddu. O dan adran 16(3)(a) o'r Ddeddf, mae gan yr Awdurdod b er i dalu grantiau i unrhyw berson o'r cyfryw symiau ac sy'n daladwy ar y cyfryw adegau ac sy'n ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y gall yr Awdurdod eu pennu o bryd i'w gilydd mewn perthynas â gwariant perthnasol a dynnir gan y person hwnnw. Diffinnir y term 'relevant expenditure' yn adran 16(4) o'r Ddeddf. Mae'n cynnwys gwariant a dynnir, gyda chymeradwyaeth yr Awdurdod, i gyflawni neu mewn cysylltiad â chyflawni gwaith ar dir diffaith at ddibenion adfer neu wella'r tir hwnnw neu ei alluogi i gael ei ddefnyddio.Mae adran 16(6) o'r Ddeddf yn darparu bod rhaid i swm y grant y gellir ei dalu o dan adran 16(3)(a) i berson, heblaw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol y lleolir y tir y mae adran 16(1) yn gymwys iddo yn ei ardal, beidio â bod yn uwch na therfyn arbennig. Y terfyn hwnnw yw naill ai'r ganran ragnodedig o'r gwariant perthnasol (adran 16(6)(a)) neu, yn achos grant cyfnodol mewn perthynas â chostau a dynnir o bryd i'w gilydd (neu sy'n cael eu trin fel costau a dynnir mewn perthynas â benthyca arian er mwyn talu'r gwariant perthnasol), y ganran ragnodedig o'r costau a dynnir (neu sy'n cael eu trin fel petant wedi'u tynnu) (adran 16(6)(b)). Mae adran 16(6) o'r Ddeddf yn diffinio'r term "the prescribed percentage" (sef y ganran ragnodedig) fel 80 y cant, neu'r cyfryw ganran arall a ragnodir trwy orchymyn. Mae'r Gorchymyn hwn yn ragnodi'r ganran fel 100 y cant. Notes: [1] 1975 p.70; amnewidiwyd adran 16 gan adran 2(1) o Ddeddf Tir Diffaith 1982 (p.42) a'i diwygio gan adran 66(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a pharagraff 48 o Atodlen 16 iddi ac adran 120 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) ac Atodlen 24 iddi ac adran 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) a Rhan III o Atodlen 18 iddi.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11 090909 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 31 March 2004 |