Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 Cychwyn (Rhif 2) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 Cychwyn (Rhif 2) (Cymru) 2004, ISBN 0110909267. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 199(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 Cychwyn (Rhif 2) (Cymru) 2004. (2) Yn y Gorchymyn hwn, "ystyr Deddf 2003" yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003. Y diwrnod penodedig 2. 1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod a bennwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf 2003 -
(b) adrannau 70 i 75; (c) ac eithrio adran 94(6) i (8), y darpariaethau ym Mhennod 6 o Ran 2 o Ddeddf 2003 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym[2]; (d) adrannau 109, a 142 i 145; (e) mewn perthynas â Chymru, adrannau 106, 108, 111, ac adran 196 a Rhan 2 o Atodlen 14 i'r graddau y maent yn berthnasol i adran 31(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[3].
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Dyma'r ail orchymyn cychwyn y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i wneud o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 ("y Ddeddf"). Mae'n dwyn i rym ar 1 Ebrill 2004 ddarpariaethau penodol y Ddeddf mewn cysylltiad â Chymru. Mae Erthygl 2(a) yn dwyn i rym adran 47 o'r Ddeddf sy'n caniatáu i'r Cynulliad baratoi a chyhoeddi datganiadau o safonau mewn perthynas â darparu gofal iechyd gan gyrff y GIG yng Nghymru ac ar eu cyfer. Mae Erthygl 2(b) yn cychwyn Pennod 4 o Ran 2 o'r Ddeddf sy'n darparu i'r Cynulliad gynnal adolygiadau o ddarpariaeth gofal iechyd gan gyrff y GIG yng Nghymru ac ar eu cyfer, ac ymchwiliadau i'r ddarpariaeth honno, ac mae'n rhoi i'r Cynulliad hawliau mynediad a phwerau i ofyn am wybodaeth ac esboniadau mewn cysylltiad ag adolygiadau ac ymchwiliadau o'r fath. Mae Erthygl 2(c) yn cychwyn Pennod 6 o Ran 2 o'r Ddeddf, sy'n darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal adolygiadau, ymchwiliadau ac arolygiadau i'r ffordd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae Erthygl 2(d) yn cychwyn darpariaethau eraill y Ddeddf sy'n ymwneud â Chymru, sef: (i) adran 109, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad ystyried yn benodol yr angen am ddiogelu a hybu hawliau a lles plant wrth arfer ei swyddogaethau rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol; (ii) adran 142, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gyhoeddi adroddiadau blynyddol ynghylch ei swyddogaethau rheoleiddo ac arolygu gofal cymdeithasol a gofal iechyd; (iii) adran 143, sy'n rhoi p er i'r Cynulliad i ddefnyddio gwybodaeth a gafwyd wrth arfer un o'i swyddogaethau rheoleiddio neu arolygu gofal cymdeithasol a gofal iechyd at ddibenion un arall o'r swyddogaethau hynny; (iv) adran 144 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch ymchwiliadau gofal iechyd neu ofal cymdeithasol a wneir o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998; a (v) adran 145, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad a'r Comisiwn Archwilio ac Arolygu Gofal Iechyd gydweithredu â'i gilydd.Mae Erthygl 2(e) yn cychwyn darpariaethau penodol y Ddeddf mewn perthynas â Chymru, sef: (i) adran 106, sy'n egluro'r diffiniad o "independent medical agency" yn Neddf Safonau Gofal 2000; (ii) adran 108, sy'n diwygio pwerau darpariaethau arolygu Deddf Safonau Gofal 2000; a (iii) adran 111, sy'n diwygio Deddf Plant 1989 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau gael eu cyhoeddi yn dilyn arolygiadau o ysgolion a cholegau byrddio. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 a restrir yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn. Ac eithrio lle dangosir hynny, cafodd y darpariaethau a gychwynnwyd gan OS 2003/3346 ac OS 2004/759 eu cychwyn mewn perthynas â Chymru a Lloegr. Cafodd y darpariaethau a gychwynnwyd gan OS 2004/288 eu cychwyn mewn perthynas â Lloegr. Cafodd y darpariaethau a gychwynnwyd gan OS 2004/480 (W.49) eu cychwyn mewn perthynas â Chymru.
Notes: [1] 2003 p. 43. Rhoddir y pwerau i'r awdurdod priodol. Gweler yn adran 199(2) y diffiniad o "appropriate authority" at ddibenion adran 199(1).back [2] Gweler adran 199(4) o Ddeddf 2003back
ISBN 0 11 090926 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 8 April 2004 |