Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110909089. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 2. Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. 3. Yn rheoliad 2(1) -
(c) mewnosoder ar ôl y diffiniad o "Deddf 1998" y diffiniad canlynol -
(d) hepgorer y diffiniad o "pwnc sylfaen".
4.
- (1) Caiff Rheoliad 6 ei ddiwygio fel a ganlyn.
(4) Ym mharagraff (2) mewnosoder ar ôl y geiriau "o hyd" y geiriau ", neu, yn ddarostyngedig i baragraff (2A), dau hanner tymor,".
(6) Ar ddiwedd paragraff (3) ychwaneger y canlynol -
6.
Caiff rheoliad 9 ei ddiwygio trwy roi yn lle paragraff (2) y canlynol -
7.
- (1) Caiff Rheoliad 18 ei ddiwygio fel a ganlyn.
(3) Dim ond yn ystod cyfnod o ddeuddeg mis yn cychwyn ar y dyddiad y cyflogir y person gyntaf fel athro neu athrawes gyflenwi (gan unrhyw gyflogwr) y caiff person ei gyflogi felly yn unol â pharagraff (2). (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) anwybyddir cyfnod y mae paragraff (5) yn gymwys iddo wrth gyfrifo'r cyfnod o ddeuddeg mis y cyfeirir ato ym mharagraff (3). (5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gyfnod pan nad yw person yn gweithio oherwydd amgylchiadau a fyddai'n rhoi hawl i gyflogai y mae Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999 neu Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002 yn gymwys iddo, i gael cyfnod absenoldeb mamolaeth, cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, cyfnod absenoldeb rhieiniol neu gyfnod absenoldeb tadolaeth, yn ôl y digwydd. (6) Mae'r cyfnod sydd i'w anwybyddu o dan baragraff (4) yn gyfnod o'r un hyd â'r cyfnod absenoldeb mamolaeth, y cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, y cyfnod absenoldeb rhieiniol neu'r cyfnod absenoldeb tadolaeth perthnasol, neu os yw'n fyrrach, y cyfnod pan nad yw'r person yn gweithio.".
8.
- (1) Diwygir Atodlen 1 fel a ganlyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anwybyddir cyfnod y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo wrth gyfrifo'r cyfnod o un flwyddyn ac un tymor y cyfeirir ato yn is-baragraff (1). (3) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i gyfnod pan nad yw person yn gweithio oherwydd amgylchiadau a fyddai'n rhoi hawl i gyflogai y mae Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999 neu Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002 yn gymwys iddo, i gael cyfnod absenoldeb mamolaeth, cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, cyfnod absenoldeb rhieiniol neu gyfnod absenoldeb tadolaeth, yn ôl y digwydd. (4) Mae'r cyfnod sydd i'w anwybyddu o dan is-baragraff (2) yn gyfnod o'r un hyd â'r cyfnod absenoldeb mamolaeth, y cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, y cyfnod absenoldeb rhieiniol neu'r cyfnod absenoldeb tadolaeth perthnasol, neu os yw'n fyrrach, y cyfnod pan nad yw'r person yn gweithio.".
(3) Ar ôl paragraff 4, mewnosoder y paragraffau canlynol -
4B. Person na ellir ei gyflogi mwyach o dan baragraff 4 ond a gyflogir am gyfnod o lai nag un tymor fel athro neu athrawes gyflenwi tra bo'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu wrth weithio'n rhan-amser.".
(4) Rhodder y paragraff canlynol yn lle paragraff 5 -
(5) Ar ddiwedd paragraff 9 ychwaneger y geiriau ", ac fel y'i diwygiwyd gan y Cytundeb ar Ryddid i Bobl Symud a wnaed rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, ar y naill law, a Chyd-ffederasiwn y Swistir, ar y llaw arall, a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999[7] ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002.".
(b) nad oes ganddo lai na dwy flynedd o brofiad dysgu llawnamser, neu yr hyn sy'n cyfateb i hynny yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall; (c) sy'n athro neu'n athrawes gymwysedig yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999[8]; a (ch) y cafwyd, pan gafodd ei asesu gan berson a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, ei fod yn bodloni'r safonau a grybwyllir yn rheoliad 13.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 (Rheoliadau 2003). Mae rheoliadau 3 a 4 yn diweddaru'r diffiniadau yn rheoliad 2 o Reoliadau 2003 ac yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2003 er mwyn cyfeirio at ddarpariaethau perthnasol Deddf Addysg 2002 (Deddf 2002). Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 2003 er mwyn darparu y gall cyfnodau o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu gynnwys dau hanner tymor sy'n dilyn ei gilydd yn ogystal â thymhorau llawn. Mae hefyd yn galluogi penaethiaid, naill ai cyn i'r cyfnod gychwyn neu o fewn pythefnos ar ôl iddo gychwyn, i gytuno y caiff cyfnodau o gyflogaeth fel athrawon cyflenwi gyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu. Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 9 o Reoliadau 2003 er mwyn galluogi personau sy'n absennol o achos absenoldeb mabwysiadu cyffredin, absenoldeb rhieiniol neu absenoldeb tadolaeth (yn ogystal ag absenoldeb mamolaeth) i ddewis estyn cyfnod ymsefydlu. Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 2003 er mwyn darparu bod y corff priodol yn gallu awdurdodi personau sydd eisoes wedi gweithio yn ystod cyfnod o flwyddyn a thymor fel athrawon cyflenwi i gael eu cyflogi felly am ddeuddeg mis arall. Anwybyddir absenoldebau o achos absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu cyffredin, absenoldeb rhieiniol neu absenoldeb tadolaeth wrth gyfrifo'r deuddeg mis hynny. Mae rheoliad 8 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2003 er mwyn -
Notes: [1] 1998 p.30; i gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 2003/543 (Cy.77).back [4] O.S. 2002/2788, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/921.back [5] O.S. 1999/3312, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/4010.back [8] O.S. 1999/2817 (Cy.18) a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy.158), 2002/2938 (Cy.279), 2003/140 (Cy.12) a 2003/2458 (Cy.240).back
ISBN 0 11 090908 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 30 March 2004 |