Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110909070. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 5 Ebrill 2004. (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988[2]. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau 2. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli), ar ôl y diffiniad o "relevant income" mewnosoder y diffiniad canlynol -
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
(b) yn is-baragraff (ii), ar ôl "disability element" mewnosoder "or severe disability element".
Diwygio Rhan I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
(b) ym mharagraff (c), yn lle "£12,000" rhodder "£12,250".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ("GIG") ac ar gyfer talu treuliau teithio mewn achosion penodol. Mae gan rai personau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio am eu bod yn cael budd-daliadau penodedig y wladwriaeth. Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â'r hawl i beidio â thalu ac i gael taliadau llawn) i fewnosod ffigur uwch ar gyfer y terfyn incwm perthnasol a ddefnyddir i gyfrifo'r hawl i gael credyd treth gwaith a chredyd treth plant. Nid oes gan lawer o bersonau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio. Mae'r prif Reoliadau'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm, cyfalaf a gofynion hawlydd (a rhai ei deulu, lle y bônt yn berthnasol). Gwneir y cyfrifiad hwn trwy gymhwyso darpariaethau wedi'u haddasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 a nodir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau. Mae Rheoliad 4 yn diwygio Tabl A o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau er mwyn uwchraddio'r terfynau cyfalaf sy'n cael eu defnyddio mewn cyfrifiadau ynghylch peidio â chodi tâl ac ad-daliadau sy'n ymwneud â phersonau sy'n byw yn barhaol mewn gofal preswyl neu mewn cartrefi nyrsio. Notes: [1] 1977 p.49 ("Deddf 1997"); mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17). Diwygiwyd Adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan Atodlen 4, paragraff 37(6) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8). Adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990 am y diffiniad o "prescribed a "regulations". Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).back [2] O.S.1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S.1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/417, 1999/767 a 2840 (Cy.20), 2001/1397 (Cy.92) a 3322 (Cy.W275), 2003/975 (Cy.134) a 2003/2561 (Cy.250).back
ISBN 0 11 090907 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 30 March 2004 |