Gorchymyn Diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru a Diwygiadau Canlyniadol 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru a Diwygiadau Canlyniadol 2004, ISBN 0110909054. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae adran 28(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1] ("Deddf 1998"), a Rhan I o Atodlen 4 iddi, yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i drosglwyddo iddo ef ei hun swyddogaethau statudol y Cyngor a sefydlwyd i Gymru o dan adran 2 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964[2]. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod swyddogaethau statudol y Cyngor, sef swyddogaethau cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar y materion hynny sy'n gysylltiedig â darparu neu ddefnyddio cyfleusterau llyfrgelloedd boed o dan Ddeddf 1964 neu fel arall ac ar unrhyw gwestiynau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfeirio at y Cyngor, yn swyddogaethau sy'n gofyn am i gyngor gael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun, ac felly yn dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, trwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan 1 o Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru a Diwygiadau Canlyniadol 2004. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. (4) Yn y Gorchymyn hwn -
Diddymu'r Cyngor
(c) Yn is-adran (3) yn lle "Each" rhowch "The"; (ch) Yn is-adran (4) yn lle "either" rhowch "the"; (d) Yn is-adran (5) yn lle "Each" rhowch "The" ac yn lle "a " rhowch "the ".
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 1A o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976[3], diddymir y cyfeiriad at "Library and Information Services Council (Wales)". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru (a adnabyddir fel 'Cyngor Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Hysbysrwydd (Cymru)'), ac mae'n trosglwyddo ei holl eiddo a hawliau ac unrhyw rwymedigaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol yn sgîl ddiddymu'r Cyngor. Notes: [1] 1998 p. 38.back [2] 1964 p. 75. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf wedi'u trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] 1976 p. 74. Mewnosodwyd Atodlen 1A gan adran 2(2) o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 (p.34), ac Atodlen 1 iddi, a ddiwygwyd gan Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswydd Statudol Cyffredinol) 2001 (O.S. 2001/3457), erthygl 2(d), a'r Atodlen iddi.back
ISBN 0 11090905 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 25 March 2004 |