Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004, ISBN 0110908899. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo gan adran 35(5) o Ddeddf Landlord a Thenant[1] ac Atodlen 12 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[2] ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Tribiwnlysoedd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2004. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais a wneir, neu achos a drosglwyddir o lys, i dribiwnlys prisio lesddaliadau[3] mewn perthynas â thir ac adeiladau yng Nghymru ar 31 Mawrth 2004 neu ar ôl hynny. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
(b) y person sy'n ddiffynnydd neu'n atebydd mewn achos gerbron llys ac a drosglwyddir gan orchymyn y llys i dribiwnlys;
(b) cais a drosglwyddwyd;
(b) y person sy'n hawlydd neu'n geisydd mewn achos gerbron llys ac a drosglwyddir drwy orchymyn y llys i dribiwnlys;
Manylion ceisiadau
(b) enw a chyfeiriad yr atebydd; (c) enw a chyfeiriad unrhyw landlord neu denant y tir a'r adeiladau y mae'r cais yn ymwneud â hwy; (ch) cyfeiriad y tir a'r adeiladau y mae'r cais yn ymwneud â hwy; a (d) datganiad bod y ceisydd yn credu bod y ffeithiau a ddatgenir yn y cais yn wir.
(2) Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 (rhyddfreinio a lesoedd estynedig) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.
(b) na fydd unrhyw ragfarn yn cael ei hachosi, neu'n debygol o gael ei hachosi, i unrhyw barti i'r cais.
Hysbysu cais o dan Ran 4 o Ddeddf 1987
(b) unrhyw berson, y mae ei enw a'i gyfeiriad gan y tribiwnlys, ac y mae'r tribiwnlys o'r farn ei bod yn debygol y bydd yn cael ei effeithio'n sylweddol gan y cais.
(3) Wrth dderbyn cais caiff y tribiwnlys roi hysbysiad i unrhyw berson arall y mae o'r farn ei fod yn briodol.
(b) rhaid iddo bennu a yw'r person sy'n gofyn am hynny yn dymuno cael ei drin fel -
(ii) atebydd
i'r cais.
(3) Caiff y tribiwnlys ganiatáu neu wrthod i berson ymuno fel parti â'r achos o dan baragraff (1).
(b) anfon copi o'r hysbysiad at y ceisydd a'r atebydd.
(5) Rhaid trin unrhyw berson y caniateir iddo ymuno fel parti â'r achos o dan baragraff (1) fel ceisydd neu atebydd at ddibenion rheoliadau 8 i 18, 20 a 24.
(b) atebydd
gael eu dehongli fel petaent yn cynnwys person a drinnir felly o dan y rheoliad hwn a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at barti fel petai'n cynnwys person o'r fath.
(b) yn cynnwys rhai materion sydd yr un peth neu sy'n sylweddol yr un peth.
caiff y tribiwnlys gynnig penderfynu ar ddim ond un o'r ceisiadau hynny ("y cais cynrychioladol") i gynrychioli'r holl geisiadau am y materion hynny sydd yr yn peth neu'n sylweddol yr yn peth ("y materion cyffredin"), a rhaid iddo roi hysbysiad o'r cynnig i bartïon pob un o'r ceisiadau hynny.
(b) pennu'r cais y mae'r tribiwnlys yn bwriadu penderfynu arno fel y cais cynrychioliadol; (c) esbonio y bydd penderfyniad y tribiwnlys ar y materion cyffredin yn y cais cynrychioliadol yn gymwys i'r materion cyffredin mewn unrhyw gais a wneir gan berson y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan y paragraff hwnnw; (ch) gwahodd gwrthwynebiadau i fwriad y tribiwnlys i benderfynu ar y cais cynrychioliadol; a (d) pennu'r cyfeiriad y gellir anfon gwrthwynebiadau iddo a'r dyddiad (sef nid llai na 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pan anfonwyd yr hysbysiad) erbyn pryd y mae'n rhaid i'r tribiwnlys gael y gwrthwynebiadau.
(3) Os na ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw -
(b) nid oes angen i'r tribiwnlys benderfynu ar y materion a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) mewn unrhyw gais arall a wneir gan berson y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (1); a (c) rhaid cofnodi penderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r cais cynrychioliadol fel penderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r materion cyffredin mewn unrhyw gais arall o'r fath.
(4) Pan ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw -
(b) mae caniatâd i benderfynu ar gais a wrthwynebwyd ynghyd â'r cais cynrychioladol.
Ceisiadau dilynol pan roddir hysbysiad o'r cais cynrychioladol
(b) y penderfyniad a gofnodwyd mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais cynrychioladol; (c) y dyddiad pan roddwyd hysbysiad o dan reoliad 8(1) i'r ceisydd; (ch) bwriad y tribiwnlys i gofnodi penderfyniad y tribiwnlys ar y materion cyffredin yn y cais dilynol mewn termau sydd yn union yr un fath â'r penderfyniad yn y cais cynrychioliadol; (d) y cyfeiriad y gellir anfon gwrthwynebiadau i gynnig y tribiwnlys a'r dyddiad (sef nid llai na 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pan anfonwyd yr hysbysiad) erbyn pryd y mae'n rhaid i'r tribiwnlys gael y gwrthwynebiadau; ac (dd) datganiad bod rhaid i unrhyw wrthwynebiad gynnwys y sail dros ei wneud ac, yn benodol, a honnir na chafwyd yr hysbysiad o dan reoliad 8(1) gan y person sy'n gwrthwynebu.
(2) Os na ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw -
(b) rhaid i benderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais cynrychioladol gael ei gofnodi fel penderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais dilynol.
(3) Pan ddaw gwrthwynebiad i gynnig y tribiwnlys ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw -
(b) os yw'r tribiwnlys yn gwrthod gwrthwynebiad, caiff y tribiwnlys gofnodi'r penderfyniad ym mharagraff (1)(b) fel penderfyniad y tribiwnlys yn y cais dilynol.
Ceisiadau dilynol pan na roddir hysbysiad o gais cynrychioladol
(b) y penderfyniad a gofnodwyd mewn perthynas â'r materion cyffredinol hynny yn y cais cynrychioliadol; (c) bwriad y tribiwnlys i gofnodi'i benderfyniad ar y materion cyffredin yn y cais dilynol mewn termau sydd yn union yr un fath â'r penderfyniad yn y cais cynrychioladol; a (ch) y cyfeiriad y gellir anfon gwrthwynebiadau i gynnig y tribiwnlys a'r dyddiad (sef nid llai na 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pan anfonwyd yr hysbysiad) erbyn pryd y mae'n rhaid i'r tribiwnlys gael y gwrthwynebiadau.
(2) Os na ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw -
(b) rhaid i benderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais cynrychioladol gael ei gofnodi fel penderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais dilynol.
(3) Pan ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbyseb neu cyn y dyddiad hwnnw rhaid i'r tribiwnlys benderfynu ar y cais yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
(b) pan fydd atebydd cais yn gofyn i'r tribiwnlys wrthod cais fel cais gwacsaw neu gais blinderus neu gais sydd fel arall yn gamddefnydd o broses y tribiwnlys.
caiff y tribiwnlys wrthod y cais, yn gyfan neu'n rhannol.
(b) y sail sydd ganddo dros fod â'i fryd ar wrthod y cais; (c) y dyddiad (nid llai na 21 o ddiwnrodau ar ôl y dyddiad pan anfonwyd yr hysbysiad) erbyn pryd y caiff y ceisydd ofyn am gael ymddangos gerbron y tribiwnlys a chael ei wrando ganddo ynghylch y cwestiwn a ddylid gwrthod y cais.
(4) Ni chaniateir gwrthod cais -
(b) pan fydd ceisydd yn methu â gofyn am hynny, oni bai bod y tribiwnlys wedi clywed y ceisydd a'r atebydd, neu unrhyw un ohonynt a fu yn y gwrandawiad, ar gwestiwn gwrthod y cais.
Adolygiad cyn treial
(b) ymdrechu i sicrhau bod y partïon yn gwneud pob addefiad a chytundeb y dylasent yn rhesymol eu gwneud mewn perthynas â'r achos; a (c) cofnodi mewn unrhyw orchymyn a wneir yn yr adolygiad cyn treial unrhyw addefiad neu gytundeb neu unrhyw wrthodiad i wneud yr addefiadau neu'r cytundebau hynny.
(4) Mae caniatâd i unrhyw aelod unigol o'r panel y darperir ar ei gyfer yn Atodlen 10 o Ddeddf Renti 1977[8] arfer swyddogaethau'r tribiwnlys mewn perthynas ag adolygiad cyn treial neu yn ystod adolygiad cyn treial sy'n gymwys i'w harfer[9].
(b) os yw'r atebydd yn tynnu unrhyw wrthwynebiad i'r cais yn ôl; neu (c) os yw'r ceisydd a'r atebydd yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.
(2) Rhaid i'r tribiwnlys -
(b) gwahodd sylwadau ysgrifenedig ar y cais; (c) gosod terfynau amser ar gyfer anfon unrhyw sylwadau ysgrifenedig i'r tribiwnlys; a (ch) manylu ar sut mae'r tribiwnlys yn bwriadu penderfynu ar y mater heb wrandawiad llafar.
(3) Ar unryw adeg cyn penderfynu ar y cais -
(b) caiff y tribiwnlys roi hysbysiad i'r partïon ei fod yn bwriadu penderfynu ar y cais mewn gwrandawiad yn unol â rheoliad 14.
(4) Pan ofynnir am rhywbeth o dan baragraff (3) neu pan roddir hysbysiad o dano, rhaid penderfynu ar y cais yn unol â rheoliad 14.
(b) caiff person sy'n ymddangos gerbron tribiwnlys wneud hynny naill ai ei hun neu drwy gynrychiolydd a awdurdodwyd gan y person hwnnw, boed y cynrychiolydd yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr ai peidio; ac (c) caiff person sy'n ymddangos gerbron y tribiwnlys roi tystiolaeth drosto'i hun, galw tystion, a chroesholi unrhyw dystion a elwir gan unrhyw berson arall sy'n ymddangos.
(8) Os nad yw parti yn ymddangos mewn gwrandawiad, caiff y tribiwnlys fynd â'r gwrandawiad yn ei flaen os yw'n fodlon bod hysbysiad wedi'i roi i'r parti hwnnw yn unol â'r Rheoliadau hynny.
(b) yr amser y gofynnwyd amdano; a (c) cyfleuster y partïon eraill.
(3) Rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad rhesymol o unrhyw wrandawiad sydd wedi'i ohirio naill ai cyn iddo ddechrau neu ar ôl iddo ddechrau i'r partïon.
(b) copi o unrhyw ddogfen sy'n ymgorffori canlyniadau unrhyw ymholiadau perthnasol a wnaethpwyd gan y tribiwnlys, neu ar ei gyfer, at ddibenion yr achos.
(2) Mewn gwrandawiad, os nad yw parti eisoes wedi cael dogfen berthnasol neu gopi o ddogfen berthnasol, neu ddigon o ddarnau ohono neu ddigon o fanylion amdani, yna oni bai -
(b) bod y tribiwnlys yn barnu bod gan y person hwnnw ddigon o gyfle i drin y materion y mae'r ddogfen yn ymwneud â hwy heb ohirio'r gwrandawiad,
rhaid i'r tribiwnlys ohirio'r gwrandawiad am gyfnod y mae'n ei farnu y bydd yn rhoi digon o gyfle i'r person drin y materion hynny.
, y tir a'r adeiladau neu'r ardal sy'n destun y cais; neu(b) unrhyw d , tir ac adeiladau neu ardal sy'n debyg ac y tynnir ei sylw ato neu ati.
(2) Yn ddarostyngedig i baragarff (3), rhaid i'r tribiwnlys roi cyfle i'r partïon fod yn bresennol mewn archwiliad.
(b) cael ei roi nid llai na 14 o ddiwrnodau cyn y dyddiad hwnnw.
(8) Pan gynhelir archwiliad ar ôl diwedd gwrandawiad, caiff y tribiwnlys ailagor y gwrandawiad ar sail unrhyw fater sy'n codi o'r archwiliad.
(b) os yw'r tribiwnlys yn fodlon bod y partïon wedi cael digon o hysbysiad.
Penderfyniadau
(b) aelod unigol, fel a grybwyllwyd yn rheoliad 13(5).
(2) Os cynhaliwyd gwrandawiad, mae caniatâd i roi'r penderfyniad yn llafar ar ddiwedd y gwrandawiad.
(ii) os bydd y person yn absennol neu yn anghymwys, aelod arall o'r tribiwnlys a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor;
(b) ym mhob achos arall -
(ii) os bydd y person yn absennol neu yn anghymwys, aelod arall o'r tribiwnlys.
(9) Rhaid anfon copi o unrhyw ddogfen sy'n cofnodi penderfyniad, neu'r rhesymau dros benderfyniad, a chopi o unrhyw gywiriad a ardystir o dan baragraff (7) at bob parti.
(b) rhaid i'r tribiwnlys gyflwyno copi o'r cais i bob parti arall.
Presenoldeb aelod ar Gyngor Tribiwnlysoedd
(b) bod yn bresennol mewn unrhyw archwiliad y cafwyd unrhyw gydsyniad angenrheidiol ar ei gyfer; (c) bod yn bresennol yn ystod trafodion tribiwnlys mewn perthynas â chais, ond ni chaiff gymryd rhan ynddynt.
Gwybodaeth sy'n ofynnol gan dribiwnlys
(b) os yw'n cael ei anfon at y person hwnnw drwy gyfrwng ffacs neu unrhyw gyfrwng cyfathrebu electronig arall sy'n cynhyrchu testun o'r ddogfen; (c) pan fydd y person hwnnw wedi penodi asiant neu gynrychioloydd i weithredu ar ran y person hwnnw -
(ii) os yw'n cael ei anfon at yr asiant neu'r cynrychiolydd drwy ffacs neu unrhyw gyfrwng cyfathrebu arall sy'n cynhyrchu testun o'r ddogfen.
(2) Mae caniatâd i anfon hysbysiad neu ddogfen arall fel a grybwyllir ym mharagraffau (1) (b) neu (c)(ii) dim ond os yw'r person hwnnw neu asiant y person hwnnw wedi cydsynio i hynny.
(ii) bu farw ac nid oes ganddo gynrychiolydd presennol; neu (iii) y mae y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(b) os am unrhyw reswm arall nid yw'n rhwydd rhoi neu anfon hysbysiad neu ddogfen arall yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(5) Pan fydd paragraff (4) yn gymwys, caiff y tribiwnlys -
(b) caiff roi cyfarwyddiadau ar gyfer cyflwyniad dirprwyol ar y fath ffurf arall (boed drwy hysbyseb mewn papur newydd neu fel arall) neu'r fath dull arall y mae'r tribiwnlys yn ei farnu'n briodol.
Caniatáu rhagor o amser Rhyddfreinio ac estyn lesoedd 1. Ceisiadau o dan -
(b) adran 13 o Ddeddf 1987; (c) adran 31 o'r Ddeddf honno; (ch) adran 24 o Ddeddf 1993; (d) adran 25 o'r Ddeddf honno; (dd) adran 27 o'r Ddeddf honno; (e) adran 48 o'r Ddeddf honno; (f) adran 51 o'r Ddeddf honno; (ff) adran 88 o'r Dddeddf honno; (g) adran 91 o'r Ddeddf honno; (ng) adran 94 o'r Ddeddf honno; a (h) paragraff 2 o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno.
Taliadau gwasanaeth, taliadau gweinyddol a thaliadau ystad
(b) adran 27A o'r Ddeddf honno[14]; (c) paragraff 8 o'r Atodlen i'r Ddeddf honno[15]); (ch) adran 159 o Ddeddf 2002; (d) paragraff 3 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno; a (dd) paragraff 5 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
Cynlluniau rheoli ystadau
(b) adran 85 o'r Ddeddf honno; (c) adran 88 o'r Ddeddf honno; (ch) adran 94 o'r Ddeddf honno; (d) adran 99 o'r Ddeddf honno; a (dd) paragraff 5 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.
Penodi rheolwr
(b) adran 24 o'r Ddeddf honno.
Amrywio lesoedd Rhyddfreinio ac estyn lesoedd 1. - (1) Copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynir mewn perthynas â'r rhyddfraint. (2) Enw a chyfeiriad y rhydd-ddeiliad ac unrhyw landlord canol. (3) Enw a chyfeiriad unrhyw berson sydd â morgais neu unrhyw arwystl arall dros fuddiant yn y tir a'r adeiladau sy'n destun y cais ac a ddelir gan y rhydd-ddeiliad neu unrhyw landlord arall. (4) Pan wneir cais o dan adran 21(2) o'r Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967[16], enw a chyfeiriad yr is-denant, a chopi o unrhyw gytundeb ar gyfer yr is-denantiaeth. (5) Pan wneir cais o dan adran 13 o Ddeddf 1987[17], y dyddiad pryd cafodd y landlord yr eiddo a thelerau'r caffael gan gynnwys unrhyw symiau a dalwyd. Taliadau gwasanaeth, taliadau gweinyddol a thaliadau ystad 2. - (1) Pan wneir cais o dan adran 27A o Ddeddf 1985, enw a chyfeiriad ysgrifennydd unrhyw gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig. (2) Pan wneir cais o dan baragraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf 2002, drafft o'r amrywiad arfaethedig. (3) Copi o'r les neu, pan fydd yn briodol, copi o'r cynllun rheoli ystad. Taliadau o dan gynlluniau rheoli ystadau 3. - (1) Copi o unrhyw gytundeb rheoli ystâd neu'r cynllun rheoli ystad arfaethedig. (2) Datganiad bod y ceisydd naill ai -
(b) yn gorff cynrychioladol o fewn ystyr adran 71(3) o Ddeddf 1993; neu (c) yn awdurdod perthnasol o fewn ystyr adran 73(5) o'r Ddeddf honno.
(3) Pan wneir cais o dan adran 70 o Ddeddf 1993, copi o'r hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan adran 70(4) o'r Ddeddf honno.
(b) bod cais i gymeradwyo addasu ardal cynllun sydd eisoes yn bodoli; neu (c) bod cais i gymeradwyo amrywio cynllun sydd eisoes yn bodoli,
disgrifiad o ardal -
(ii) yr addasiad arfaethedig; neu (iii) yr amrywiad arfaethedig,
gan gynnwys dull o adnabod yr ardal drwy gyfrwng map neu blan.
(5) Pan wneir cais o dan adran 70 o Ddeddf 1993, copi o unrhyw gydsyniad a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 72(1) o'r Ddeddf honno.
(b) copi o'r hysbysiad a roddir o dan adran 85(3) o Ddeddf 2002 ynghyd â datganiad bod yr hysbysiad hwnnw wedi cael ei gyflywno i bob un o'r tenantiaid cymwys; (c) datganiad sy'n disgrifio'r amgylchiadau pan na ellir cadarnhau pwy yw'r landlord neu pan na ellir dod o hyd iddo.
(6) Pan wneir cais o dan adran 94(3) o Ddeddf 2002, amcangyfrif o swm y taliadau gwasanaeth sydd heb eu neilltuo sydd wedi cronni. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn rheoleiddio'r drefn y mae'n rhaid ei dilyn o ran ceisiadau sy'n cael eu gwneud i dribiwnlys prisio lesddaliadau . Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Maent yn disodli, gyda diwygiadau, Reoliadau Pwyllgor Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Tribiwnlys Prisio Lesddaliad) 1993, (i'r graddau y maent yn perthyn i Gymru) a ddirymir, yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth arbed yn rheoliad 25. Mae rheoliad 3 yn darparu i fanylion cyffredinol gael eu cynnwys gyda phob cais ac i fanylion penodedig gael eu cynnwys gyda cheisiadau penodedig fel a nodir yn yr Atodlenni. Mae rheoliad 4 yn darparu i hysbysiad gael ei roi gan geisydd ac atebydd pan wneir cais o dan Ran 4 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987, tra mae rheoliad 5 yn darparu i hysbysiad gael ei roi gan y tribiwnlys yn achos ceisiadau eraill. Mae rheoliad 5 yn rhoi disgresiwn i'r tribiwnlys roi hysbysiad drwy hysbysebu'n lleol hefyd. Mae rheoliad 6 yn darparu'r weithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fydd person yn gofyn am gael ymuno fel parti â'r achos. Mae rheoliad 7 yn darparu bod caniatâd i drin cais fel cais sydd wedi'i dynnu yn ôl os nad oes ffi wedi'i thalu am gyfnod o fis wedi iddi fod yn daladwy. Mae rheoliadau 8-10 yn darparu ar gyfer sicrhau cysondeb pan fydd ceisiadau niferus yn cael eu gwneud neu o bosibl yn cael eu gwneud o ran yr un materion neu faterion sydd yr un peth yn y bôn. Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer gwrthod ceisiadau sy'n wacsaw, blinderus neu'n gamddefnydd arall o broses y tribiwnlys. Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer adolygiadau cyn treial ac sy'n caniatáu i'r tribiwnlys roi unrhyw gyfarwyddiadau sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal yr achos yn hwylus ac yn ddarbodus. Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer penderfynu ar gais heb wrandawiad llafar ac mae'n caniatáu i aelod unigol o'r panel a ddarperir ar ei gyfer yn Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977, ac a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor, wneud hynny. Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer gwrandawiadau, mae'n caniatáu i'r tribiwnlys benderfynu'r weithdrefn ac yn rhoi i'r triwbiwnlys y disgresiwn i roi llai na 21 o ddiwrnodau o hysbysiad o'r gwrandawiad o dan amgylchiadau eithriadol. Mae rheoliad 15 yn darparu i wrandawiad nad yw wedi dechrau neu wrandawiad sydd ar ei ganol gael ei ohirio. Mae rheoliad 16 yn sicrhau bod y partïon yn cael copïau o'r dogfennau angenrheidiol. Mae rheoliad 17 yn darparu ar gyfer archwilio t , tir ac adeiladau neu ardal sy'n destun cais neu unrhyw d , tir ac adeiladau neu ardal debyg.Mae rheoliad 18 yn darparu ar gyfer cofnodi penderfyniadau sy'n gysylltiedig â cheisiadau ac mae'n galluogi cofnodi'r rhesymau dros benderfyniad mewn dogfen ar wahân ar ôl i'r penderfyniad gael ei gofnodi. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cywiro dogfen sy'n cofnodi penderfyniad neu resymau. Mae rheoliad 19 yn darparu bod caniatâd i benderfyniad gan y tribiwnlys, gyda chaniatâd y llys sirol, gael ei orfodi yn yr un ffordd â gorchmynion llys sirol. Mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer ceisio caniatâd i apelio i'r Tribiwnlys Tiroedd. Mae rheoliad 21 yn darparu i aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd fod yn bresennol mewn unrhyw wrandawiad neu archwiliad. Mae rheoliad 22 yn darparu bod rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir gan y tribiwnlys o dan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ("Deddf 2002"), gynnwys datganiad bod unrhyw berson sy'n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â'r hysbysiad, yn cyflawni tramgwydd ac mae'n agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol. Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill. Mae'n caniatáu rhoi'r hysbysiadau a dogfennau o'r fath yn electronig gyda chydsyniad y derbynnydd. Mae rheoliad 24 yn rhoi disgresiwn i dribiwnlys estyn unrhyw gyfnod o amser a osodir yn y Rheoliadau neu a osodir mewn hysbysiad a anfonir o dan y Rheoliadau. Mae Atodlen 1 yn disgrifio'r ceisiadau sydd dan lywodraeth y rheoliadau hyn. Mae'n cynnwys ceisiadau o dan adran 20ZA sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ymgynghori â thenantiaid ynghylch gwaith o fath arbennig, ceisiadau sy'n ymwneud â thaliadau gweinyddol a cheisiadau sy'n ymwneud â'r hawl i reoli. Cyflwynwyd y ceisiadau hyn gan Ddeddf 2002. Mae Atodlen 2 yn rhestru'r manylion a'r dogfennau y mae'n ofynnol eu cynnwys ynghyd â chais. Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025). Notes: [1] 1987 p.31; adran 35(5) a ddiwygiwyd gan adran 163(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) ("Deddf 2002"). Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 35(5) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). O dan adran 177 o Ddeddf 2002, mae cyfeiriadau yn Neddf 1987 yn O.S. 1999/672 i'w trin fel cyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd gan ran 2 o Ddeddf 2002.back [2] 2002 p.15; gweler adran 179(1) am y diffiniad o "the appropriate national authority" o ran Cymru.back [3] Gweler adran 173 o Ddeddf 2002.back [4] Diwygiwyd gan baragraff 10 o Atodlen 2 i Ddeddf Landlord a Thenant 1987.back [7] O.S. 2004/683 (Cy.71).back [8] 1977 p.42; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r rheoliadau hyn.back [9] I gael gwybod pwy sy'n gymwys, gweler paragraff 5(3) o Atodlen 12 i Ddeddf 2002.back [10] O.S. 1993/2408 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/2305, O.S. 1997/74 ac O.S. 1997/1854.back [13] Mewnosodwyd gan adran 151 o Ddeddf 2002 o 30 Mawrth 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).back [14] Mewnosodwyd gan adran 155 o Ddeddf 2002 o 30 Mawrth 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).back [15] Diwygiwyd gan adran 180 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 14 iddi o 30 Mawrth 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).back [16] Diwygiwyd gan adran 142 o Ddeddf Tai 1980 ac Atodlen 22 iddi.back [17] Mewnosodwyd gan adran 92(1) ac Atodlen 6 i Ddeddf Tai 1996 (p. 52).back [18] Gweler adran 73 o Ddeddf 2002.back
ISBN 0 11090889 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 23 March 2004 |