Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110908775. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 [1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad[2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2004, byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 5 Mawrth 2004. Diwygiad o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 2. Yn Atodlen 3 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[4]), yn y cofnod am E425 yn lle'r geiriau yn nhrydedd golofn y cofnod hwnnw, rhodder y geiriau "Foods in general (except those referred to in Schedules 6, 7 and 8, and jelly confectionery, including jelly mini-cups)". Diwygiadau canlyniadol 3. - (1) Hepgorir paragraff (2) o reoliad 3 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003[5]. (2) Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 i'w dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1997[6], Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999[7], Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001[8]), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001[9] Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001[10]), Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001[11], Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002[12], Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002[13]), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003[14], Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003[15]), Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003[16], Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003[17], Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Powdr (Cymru) 2003[18], Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003[19], Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003[20]), Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004[21] a'r Rheoliadau hyn:
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes ("y prif Reoliadau") sy'n gymwys i Brydain Fawr gyfan. 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Cyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 2003/52/EC[27] yn diwygio Cyfarwyddeb 95/2/EC[28] o ran amodau defnydd ychwanegyn bwyd E425 Konjac. 3. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i E425 Konjac gael ei ddefnyddio mewn Bwydydd yn gyffredinol (ac eithrio mewn rhai bwydydd a bennir yn y prif Reoliadau) ond nid mewn cyffaith jeli. Mae cyffaith jeli yn cynnwys teisennau cwpan jeli. 4. Nid oes asesiad o effaith y rheoliadau wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn gan na fydd gan yr offeryn effaith ar gostau busnes. Mae nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/52 yn cael eu trosi yn y rheoliadau hyn wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11 Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, c.1.back [4] O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S. 1999/1136, O.S. 2001/1787 (Cy.128), O.S. 2002/329 (Cy.42) ac O.S. 2003/945 (Cy.126).back [5] O.S. 2003/945 (Cy.126).back [8] O.S. 2001/1440 (Cy.102).back [9] O.S. 2001/1787 (Cy.128).back [10] O.S. 2001/2679 (Cy.220).back [11] O.S. 2001/3909 (Cy.321).back [12] O.S. 2002/329 (Cy.42).back [13] O.S. 2002/330 (Cy.43).back [14] O.S. 2003/945 (Cy.126).back [15] O.S. 2003/1713 (Cy.181).back [16] O.S. 2003/3047 (Cy.290).back [17] O.S. 2003/3041 (Cy.286).back [18] O.S. 2003/3053 (Cy.291).back [19] O.S. 2003/3037 (Cy.285).back [20] O.S. 2003/3044 (Cy.288).back [21] O.S. 2004/553 (Cy.56)back [22] O.S. 1966/1073; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [23] O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [24] O.S. 1996/1499; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.back [25] O.S. 1984/1566; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [27] OJ Rhif L178, 17.7.2003, t.23.back [28] OJ Rhif L61, 18.3.1995, t.1.back
ISBN 0 11090877 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 12 March 2004 |