Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004, ISBN 0110908813. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(1), (3), (4) a (7), 5 ac 8 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - Enwi, cychwyn, a dehongli. 1. - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004 a daw i rym ar 5 Mawrth 2004. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
Sefydlu Proffesiynau Iechyd Cymru
(ii) ymgymryd â swyddogaethau awdurdod goruchwylio lleol yn unol ag erthygl 42(1)(b) ac erthygl 43 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001[2], (iii) ymgymryd â swyddogaethau (ac eithrio'r rhai sy'n ymwneud â gwneud deddfwriaeth sylfaenol) o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd a Iechyd Cyhoeddus 1968[3];
(b) gwneud trefniadau â Chyngor Proffesiynau Iechyd Cymru[4] i gyflawni swyddogaethau ar ran y Cyngor hwnnw mewn perthynas â Chymru;
(3) Rhaid i PIC yn ymgymryd â'i swyddogaethau o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
(b) unrhyw ddiffyg ym mhenodiad person fel cadeirydd neu aelod arall, neu (c) cyfansoddiad aelodaeth PIC ar y pryd.
Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol
(b) gwneud y pethau eraill hynny sy'n rhesymol angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
Dyddiad cyfrifyddu PIC
(b) aelodau eraill a benodwyd gan y Cynulliad a chaiff y Cynulliad, os gwêl yn dda, benodi un o'r aelodau eraill yn is-gadeirydd.
(2) Mwyafswm nifer aelodau PIC fydd 24.
(b) bod y cadeirydd wedi marw neu wedi peidio â dal y swydd, neu os na all gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb o'r Deyrnas Unedig neu unrhyw achos arall,
rhaid i'r is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd hyd nes y penodir cadeirydd newydd neu nes bod y cadeirydd yn ailafael yn nyletswyddau cadeirydd yn ôl y digwydd, a bernir y bydd cyfeiriadau at y cadeirydd, am ba hyd bynnag nad oes cadeirydd sy'n gallu cyflawni dyletswyddau cadeirydd, yn cynnwys cyfeiriadau at yr is-gadeirydd.
(ii) pobl broffesiynol sy'n meddu ar y cymwysterau, diddordebau neu brofiad a fyddai'n werthfawr wrth iddo arfer ei swyddogaethau, (iii) personau sy'n cynrychioli gweithwyr cymorth gofal iechyd; a
(b) personau sydd â'r cyfryw gymwysterau, diddordebau neu brofiad a fydd yn werthfawr i PIC wrth iddo arfer ei swyddogaethau ond nad ydynt yn aelodau o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Cyngor Proffesiynau Iechyd Cymru, neu nad ydynt ar eu cofrestrau, neu unrhyw gorff rheoleiddio arall sy'n ymwneud â'r proffesiynau gofal iechyd a gweithwyr cymorth gofal iechyd.
(6) Rhaid i'r Cynulliad yn arfer ei bwerau i benodi aelodau PIC i sicrhau ar bob adeg na fydd llai na 45% o'r aelodau yn bersonau a benodir yn unol â pharagraff (5)(b) uchod.
(ii) yn achos yr is-gadeirydd, am gyfnod hirach na chyfnod o bum mlynedd, a (iii) yn achos aelodau eraill, am gyfnod hirach na phum mlynedd;
(9)
(ii) Ni fydd person a fu'n aelod am ddeng mlynedd yn olynol yn gymwys i gael ei ailbenodi.
(10) Caiff person sy'n dal swydd fel cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall o PIC ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y penodiad.
(b) os yw'r Cynulliad wedi'i fodloni bod y person wedi bod yn absennol o ddau gyfarfod olynol PIC heb esgus rhesymol neu ganiatâd PIC neu nad yw fel arall yn ffit neu'n alluog i gyflawni swyddogaethau cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall; (c) mewn amgylchiadau eraill y gall fod PIC wedi darparu ar eu cyfer mewn rheolau sefydlog.
Prif Weithredwr
(b) caiff ei benodi ar y telerau a'r amodau y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt.
(4) Rhaid i PIC, os bydd y Cynulliad yn gofyn iddo wneud hynny -
(b) gwneud y taliadau hynny y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt tuag at ddarparu taliad pensiwn, lwfans neu arian rhodd i berson o'r fath neu mewn perthynas ag ef.
Staff
(b) o ran telerau ac amodau cyflogaeth y staff (gan gynnwys darpariaeth ynghylch talu pensiynau, lwfansau neu arian rhodd a thalu iawndal am golli cyflogaeth),
caiff PIC benodi'r cyflogeion hynny fel y gwêl orau.
(b) gosod copi ardystiedig ohonynt gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arnynt.
(5) Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru wneud ymchwiliadau i ba mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y bu PIC wrth arfer ei swyddogaethau. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu corff corfforaethol a elwir Proffesiynau Iechyd Cymru neu Health Professions Wales ("PIC") (erthygl 2). Sefydlir PIC at ddibenion ymgymryd â swyddogaethau mewn perthynas â phroffesiynau gofal iechyd a gweithwyr cymorth gofal iechyd Bydd PIC yn ymgymryd â rhai swyddogaethau ar ran y Cynulliad mewn perthynas â hybu'r canlynol a chynghori arnynt, sef ansawdd a darpariaeth addysg, hyfforddiant ac ymarfer y proffesiynau gofal iechyd, awdurdod goruchwylio lleol ar gyfer bydwragedd a swyddogaethau o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd a Iechyd Cyhoeddus 1963 (erthygl 3(2)(a)). Bydd PIC hefyd yn ymgymryd â rhai swyddogaethau yng Nghymru ar ran cyrff megis y Cyngor Proffesiynau Iechyd a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (erthygl 3(2)(b),(c) ac (ch)). Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth PIC gan gynnwys trefniadau gweithdrefnol a gweinyddol (erthyglau 6 i 12). Notes: [1] 2003 p.4.back [2] O.S. 2002/253; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/881 ac O.S. 2002/1125. Trosglwyddwyd swyddogaethau awdurdodau goruchwylio lleol oddi wrth yr awdurdodau iechyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 O.S. 2003/813 (Cy.98).back [3] {d1}{t1}1968 p.46. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd gan Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Gwasanaethau Cymdeithasol 1968, O.S. 1968/1699 a Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Iechyd a Nawdd Cymdeithasol) 1988, O.S. 1988/1843.{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erth 2, Atodlen 1.back [4] Sefydlwyd gan O.S. 2002/254 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/1571 ac O.S. 2003/1572.back [5] Sefydlwyd gan O.S. 2002/253; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/881 ac O.S. 2002/1125.back [6] Mae'r Cynulliad yn cydnabod Pwyllgor Ymgynghorol Therapïau Cymru, Pwyllgor Gwyddoniaeth Ymgynghorol Cymru a Phwyllgor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 o Ddeddf 1977 fel cynrychiolwyr categori neu gategorïau y personau sy'n darparu gwasanaethau sy'n ffurfio rhan o'r gwasanaeth iechyd.back
ISBN 0 11090881 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 16 March 2004 |