Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Gofynnol) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Gofynnol) (Cymru) 2004, ISBN 0110908767. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 43(7)(a), 44(4) a 113, o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2]. Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Gofynnol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 25 Chwefror 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. (3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at adran â Rhif yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio) 2. Mae'r rhannau o'r cyfrifiad sydd i'w wneud o dan adran 43(3) yn cael eu haddasu ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2004 i'r graddau y bydd paragraff (a)(i) yn cael effaith fel petai'n cynnwys, yn ychwanegol at y materion sydd eisoes wedi'u pennu ynddo, unrhyw daliadau refeniw heb eu clustnodi eraill a wneir i awdurdod heddlu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Gartref ar gyfer y flwyddyn honno. Cyfrifo swm sylfaenol y dreth 3. O ganlyniad i'r ddarpariaeth a wnaed gan reoliad 2 uchod, mae'r rhannau o'r cyfrifiad sydd i'w wneud o dan adran 44(1) yn cael eu haddasu ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2004 i'r graddau y bydd y diffiniad o "P" yn cael effaith fel petai'n cynnwys, yn ychwanegol at y materion sydd eisoes wedi'u pennu ynddo, unrhyw daliadau refeniw heb eu clustnodi eraill a wneir i awdurdod heddlu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Gartref ar gyfer y flwyddyn honno. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 24 Chwefror 2004 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adrannau 43 a 44 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") yn rhagnodi'r rheolau y mae'n rhaid i'r prif awdurdodau praeseptio lynu wrthynt wrth gyfrifo'u hanghenion cyllideb a swm sylfaenol eu treth gyngor ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Wrth wneud y cyfrifiadau hyn, rhaid i awdurdodau gymryd i ystyriaeth symiau penodol y maent yn amcangyfrif y byddant yn daladwy iddynt ar gyfer y flwyddyn. Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992 fel bod rhaid i awdurdodau heddlu yng Nghymru (sy'n brif awdurdodau praeseptio at ddibenion Deddf 1992) gymryd i ystyriaeth unrhyw symiau ar ffurf taliadau refeniw heb eu clustnodi ychwanegol y mae'n bosibl y byddant yn eu cael oddi wrth y Swyddfa Gartref ar gyfer y flwyddyn ariannol 2004/5 (yn ogystal â'r symiau eraill y cyfeirir atynt yn yr adrannau hyn) wrth wneud eu cyfrifiadau ynglyn â'u hanghenion cyllidebol a'u cyfrifiadau treth gyngor am y flwyddyn honno. Notes: [1] 1992 p.14.back [2] Gweler O.S. 1999/672, sef Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Cymru) 1999.back
ISBN 0 11090876 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 12 March 2004 |