Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004, ISBN 0110908678. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (" y Ddeddf")[1]: Enwi a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Y diwrnod penodedig 2. Y diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym -
(b) adran 70(1) a (3) o'r Ddeddf (mân ddiwygiadau i Ddeddf Priffyrdd 1980[2]); ac (c) paragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf (darpariaethau sy'n ymwneud â chynlluniau gwella hawliau tramwy a baratowyd o dan adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf),
yw 1 Ebrill 2004. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym, ar 1 Ebrill 2004, i adrannau 63 a 70(1) a (3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") a pharagraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 iddi mewn perthynas â Chymru, Mae adran 63 o'r Ddeddf yn mewnosod adrannau 130A, 130B, 130C a 130D yn Neddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980"). Cyflwynwyd y darpariaethau hyn er mwyn cryfhau'r darpariaethau presennol sy'n ymwneud â symud rhwystrau o hawliau tramwy. Lle bydd unrhyw berson yn credu bod awdurdod priffyrdd lleol ("yr awdurdod") yn methu yn ei ddyletswydd o dan adran 130 o Ddeddf 1980 i atal, cyn belled â phosibl, hawl dramwy rhag cael ei chau neu ei rhwystro, mae adran 130A yn galluogi'r person hwnnw i gyflwyno hysbysiad i'r awdurdod yn gofyn iddo sicrhau bod y rhwystr yn cael ei symud. Lle nad yw'r person a gyflwynodd yr hysbysiad yn fodlon bod y rhwystr wedi'i symud, mae adran 130B yn galluogi'r person hwnnw i geisio gorchymyn llys ynadon er mwyn gorfodi'r awdurdod i fynd ati i sicrhau bod y rhwystr yn cael ei symud. Mae adrannau 130C a 130D yn darparu materion gweithdrefnol cysylltiedig. Mae adran 70(1) o'r Ddeddf yn ymestyn p er awdurdod priffyrdd o dan adran 66(3) o Ddeddf 1980 i ddarparu a chynnal a chadw nodweddion diogelwch ar lwybrau troed trwy alluogi'r awdurdod i ddarparu a chynnal a chadw pyst a thrwy ymestyn y ffordd y mae'r adran yn cael ei chymhwyso i gynnwys llwybrau ceffylau.Mae adran 70(3) o'r Ddeddf yn ymestyn p er awdurdod i ddefnyddio cerbydau ar droedffyrdd, llwybrau troed a llwybrau ceffylau trwy alluogi'r awdurdod i ddefnyddio cerbydau ac offer o'r fath at ddibenion atal neu symud rhwystrau, niwsans neu ymyriadau eraill.Mae paragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff sydd â ph er i gadarnhau (neu, yn achos paragraff 1, i gadarnhau neu wneud) gorchymyn creu, dileu neu wyro llwybr cyhoeddus i ystyried unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn cynllun gwella hawliau tramwy a baratowyd o dan adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf lle mae'r gorchymyn arfaethedig yn effeithio ar dir a gynhwysir yn y cynllun. Cychwynnwyd adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf ar 1 Tachwedd 2002 gan Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2615) (Cy.253) (C.82).(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Notes: [1] 2000 p.37.back
ISBN 0 11090867 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 18 February 2004 |