Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110908724. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (f), (17)(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 6 Mawrth 2005. Diwygio Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995 2. Diwygir Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995[4]) (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 i 10. 3. Yn rheoliad 1(2) (dehongli), yn y diffiniad o "the Directive", yn lle'r geiriau "Commission Directive 1999/50/EC" rhowch y geiriau "Commission Directive 2003/14/EC[5]". 4. Yn rheoliadau 2(ii) a 3(b) (amodau ar gyfer gwerthu fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol), yn lle'r ymadrodd "regulation 12" rhowch yr ymadrodd "regulations 12 and 12A". 5. Yn rheoliadau 5(1)(a) a 6(1)(a) (allforio fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol i drydydd gwledydd), yn lle'r ymadrodd "11 and 12" rhowch yr ymadrodd ", 11, 12 and 12A". 6. Yn rheoliadau 8(2) a 9(2) (cyfansoddiad fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol), hepgorwch y geiriau o "and it shall not" hyd at y diwedd. 7. Ar ôl rheoliad 12 (cyfansoddiad fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol) mewnosodwch y rheoliad canlynol -
(b) any omethoate, where it is a metabolite of a pesticide not specified in Schedule 7A, or any product resulting from degradation or reaction of that metabolite,
at a level exceeding 0.003 mg/kg.
(b) if it is not so manufactured, as reconstituted according to its manufacturer's instructions.
(5) Analytical methods for determining levels of pesticide residues for the purposes of this regulation shall be generally acceptable standardised methods.".
8.
Yn rheoliad 22 (tramgwyddau a gorfodi) -
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosodwch y paragraff canlynol -
9.
Yn lle rheoliad 23 (cymhwyso darpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990) rhowch y rheoliad canlynol -
23. The following provisions of the Act shall apply for the purposes of these Regulations (except regulation 21) with the modification that any reference in those provisions to the Act or Part thereof shall be construed as a reference to these Regulations (except regulation 21) -
(b) section 3 (presumptions that food is intended for human consumption); (c) section 20 (offences due to fault of another person); (d) section 21 (defence of due diligence) as it applies for the purposes of section 8, 14 or 15; (e) section 30(8) (which relates to documentary evidence); (f) section 33(1) (obstruction etc. of officers); (g) section 33(2), with the modification that the reference to "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" shall be deemed to be a reference to any such requirement as is mentioned in that subsection as applied by paragraph (f) above; (h) section 35(1) (punishment of offences) in so far as it relates to offences under section 33(1) as applied by paragraph (f) above; (i) section 35(2) and (3) in so far as it relates to offences under section 33(2) as applied by paragraph (g) above; (j) section 36 (offences by bodies corporate); and (k) section 44 (protection of officers acting in good faith).".
10.
Ar ôl Atodlen 7 (yr elfennau mwynol mewn llaeth buchod) mewnosodwch fel Atodlenni 7A a 7B gynnwys yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn. Chemical name Aldrin and dieldrin, expressed as dieldrin Disulfoton (sum of disulfoton, disulfoton sulfoxide and disulfoton sulfone expressed as disulfoton) Endrin Fensulfothion (sum of fensulfothion, its oxygen analogue and their sulfones, expressed as fensulfothion) Fentin, expressed as triphenyltin cation Haloxyfop (sum of haloxyfop, its salts and esters including conjugates, expressed as haloxyfop) Heptachlor and trans-heptachlor epoxide, expressed as heptachlor Hexachlorobenzene Nitrofen Omethoate Terbufos (sum of terbufos, its sulfoxide and sulfone, expressed as terbufos)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995, fel y'u diwygiwyd ("Rheoliadau 1995"), mewn perthynas â Chymru. Mae Rheoliadau 1995 yn gymwys i Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu ar gyfer Cymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/14/EC (OJ Rhif 41, 14.2.2003, t.37) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 91/321/EEC (OJ Rhif L175, 4.7.91, t.35) ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 6 Mawrth 2005. 2. Er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb 2003/14/EC mae'r Rheoliadau -
(b) yn gwneud rhai diwygiadau canlyniadol (rheoliadau 3 a 6).
3.
Er mwyn gweithredu brawddeg olaf Erthygl 6(2) o Gyfarwyddeb 91/321/EEC fel y'i hamnewidiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/50/EC, mae darpariaeth yn cael ei gwneud yngl
(b) yn gwneud rhai newidiadau technegol i'r ddarpariaeth sy'n cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9).
5.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/14/EC yn cael eu trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), o'i ddarllen ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] O.S. 1995/77; O.S.2001/1690 yw'r offeryn diwygio perthnasol yw (Cy.120).back [5] OJ Rhif L41, 14.2.2003, t.37.back
ISBN 0 11090872 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 24 February 2004 |