Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n ymwneud â Labelu) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n ymwneud â Labelu) (Cymru) 2004, ISBN 011090866X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 9 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cymhwyso a chychwyn 1. (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n ymwneud â Labelu)(Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig. (2) Daw'r rheoliadau hyn i rym ar 13 Chwefror 2004 ac eithrio rheoliadau 5 i 7 a ddaw i rym ar 1 Gorffennaf 2004. Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 2. Caiff Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[4]) eu diwygio (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 i 7. 3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli) -
(b) ar ôl y diffiniad o "Directive 99/2" mewnosodir y diffiniad canlynol -
4.
Yn y darpariaethau canlynol -
5.
Yn rheoliad 14 (enwau cynhwysion) -
(b) ar ôl paragraff (5) mewnosodir y paragraff canlynol -
6.
Ar ôl rheoliad 34 (bwydydd sy'n cynnwys melysyddion, siwgr ychwanegol, aspartame neu polyols) mewnosodir y rheoliad canlynol -
34A. - (1) Subject to paragraph (2) of this regulation, in the case of a drink which -
(b) is in concentrated or dried form and after reconstitution contains caffeine, from whatever source, in a proportion in excess of 150 milligrams per litre,
that drink shall be marked or labelled with the words "High caffeine content" in the same field of vision as the name of the drink, and those words shall be followed by a reference in brackets to the caffeine content expressed in milligrams per 100 millilitres.
7.
Yn Rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol) mewnosodir ar y diwedd y paragraff canlynol -
(b) the matters constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulations 5 and 6 of the Food (Provisions relating to Labelling) (Wales) Regulations 2004 had not been in operation when the food was sold.".
Diwygio Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000
n â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd stuffs, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC[13], (a ddiwygiwyd ei hun gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/86/EC[14]) ac fel y'i diwygiwyd ymhellach gan Gyfarwyddeb y Comiscwn 2003/89/EC[15];";
(b) yn rheoliad 3(1) (esemptiadau) a rheoliad 9(b) (amddiffyn mewn perthynas ag allforion) yn lle'r ymadrodd "Cyfarwyddeb 79/112" rhodder yr ymadrodd "Cyfarwyddeb 2000/13".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, fel y'u diwygiwyd, ("Rheoliadau 1996") i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny'n ymestyn i Brydain Fawr i gyd. 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/67/EC ar labelu bwydydd sy'n cynnwys cwinîn, a bwydydd sy'n cynnwys caffein. Rhaid darllen Cyfarwyddeb 2002/67/EC gyda Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyniad a hysbysebu bwydydd. Mae'r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol rhoi gwybodaeth -
(b) am labelu neu farcio diodydd sy'n cynnwys lefel uchel o gaffein, gyda rhai eithriadau (rheoliad 6).
Bydd y gofynion hyn yn gymwys o 1 Gorffennaf 2004 ymlaen (rheoliad 1(2)). Mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol (rheoliad 7). Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] O.S. 1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 1999/747, 1136, 1483, 2000/768, 2254, 2000/1925.back [5] OJ Rhif . L109, 6.5.2000, t.29, fel y mae wedi'i gywiro gan Corrigendum (OJ Rhif . L124, 25.5.2000, t.66).back [6] OJ Rhif . L310, 28.11.2001, t.19.back [7] OJ Rhif . L305, 7.11.2002, t.19.back [8] O.J. Rhif L308, 25.11.2003, t.15.back [9] OJ Rhif . L69, 16.3.1999, t.22.back [10] OJ Rhif . L191, 19.7.2002, t.20.back [11] O.S. 2000/1925 (Cy.134).back [12] OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29, fel y mae wedi'i gywiro gan Corrigendum (OJ Rhif . L124, 25.5.2000, t.66).back [13] OJ Rhif L310, 28.11.2001, t.19.back [14] OJ Rhif L305, 7.11.2002, t.19.back [15] OJ Rhif L308, 25.11.2003, t.15.back
ISBN 0 11090866 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 16 February 2004 |