Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004, ISBN 0110908627. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 8 Chwefror 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[3] yn unol â pharagraffau (2) a (3). (2) Yn lle paragraffau (1) a (2) o reoliad 6 (ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon) rhowch y paragraffau canlynol -
(b) (pan na chydymffurfir â'r gofynion hynny) distrywio'r cnau Brasil o fewn y cyfnod rhesymol a bennir.
(2) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan -
(b) y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.".
(3) Ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau "a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio" rhowch "a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 (Cy.224)); Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 (Cy.227)); Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2455 (Cy.238)); a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2910 (Cy.276)) sy'n cael eu hadnabod yn eu crynswth at ddibenion y Nodyn Esboniadol hwn fel "y Rheoliadau Bwyd" Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu geiriad diangen o reoliad 6(2) o'r priod Reoliadau Bwyd, sy'n darparu bod rhaid i hysbysiad, sy'n gorchymyn ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon, gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 6(3) o'r priod Reoliadau Bwyd er mwyn sicrhau bod y Llys Ynadon yn gallu penderfynu a yw hysbysiad sydd wedi'i gyflwyno gan swyddog awdurdodedig o dan reoliad 6(1) wedi'i gyflwyno'n gywir a hefyd a yw'n gyfreithlon mewnforio'r cynnyrch o dan sylw. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'n benodol hefyd Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 (Cy.224)). Maent yn diwygio'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan fydd arolygiad neu archwiliad o gnau Brasil yn dangos nad ydynt yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf ar gyfer afflatocsin B1 a'r cyfanswm o afflatocsin a sefydlwyd drwy Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n pennu'r lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1) (rheoliad 2(2)). Mae'r weithdrefn ddiwygiedig yn cydweddu â Phenderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil yn eu plisg sy'n deillio o Frasil neu wedi'u traddodi oddi yno (OJ Rhif L168, 5.7.2003, t. 33). Mae'r Rheoliadau hyn (rheoliad 3(4)) hefyd yn diwygio'n benodol Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 (Cy.227)) er mwyn cywiro gwall drafftio. Nid oes unrhyw arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yngl n â'r Rheoliadau hyn.Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.S. 2003/2254 (Cy. 224).back [4] (ch) OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1.back [5] O.S. 2003/2288 (Cy. 227).back [6] O.S. 2003/2455 (Cy. 238).back [7] O.S. 2003/2910 (Cy. 276).back
ISBN 0 11090862 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 16 February 2004 |