Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004, ISBN 0110908708. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(6), 12(2), 14(1)(d), 15(3), 16(1) a (3), 22(1), (2)(a) i (d), ac (f) i (j), (5)(a) a (7)(a) i (h) a (j), 25, 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1], ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall -
(b) a gyflwynir gan asiantaeth i ddefnyddiwr gwasanaeth i'w gyflogi ganddo; neu (c) a gyflogir gan ddarparydd gwasanaeth uniongyrchol,
i ddarparu gofal personol yn eu cartrefi eu hunain i bersonau nad ydynt yn gallu ei ddarparu iddynt eu hunain heb gymorth oherwydd eu hafiechyd, eu llesgedd neu eu hanabledd;
(b) unrhyw hynafiad uniongyrchol, disgynnydd uniongyrchol, brawd, chwaer, ewyrth, modryb, nai neu nith i'r person neu i briod y person; (c) priod unrhyw berthynas o fewn is-baragraff (b) o'r diffiniad hwn,
ac er mwyn penderfynu ar unrhyw berthynas o'r fath, trinnir llys-blentyn person fel plentyn iddo, ac mae cyfeiriadau at "priod" yn cynnwys cyn-briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel petai ef neu hi yn
(b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
rhaid dehongli "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") yn unol â rheoliad 8(2)(a).
(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw; (c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae'r termau "cyflogi" a "chyflogaeth" yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio a boed o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau neu mewn modd nad yw o dan gontract.
(ii) nad yw'n cael ei gyflogi gan gorff neu gymdeithas anghorfforedig i'w redeg; a (iii) nad yw'n cyflogi unrhyw berson arall at ddibenion yr ymgymeriad; (iv) sy'n darparu neu'n trefnu'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal personol i lai na phedwar defnyddiwr gwasanaeth;
(b) i'r graddau y mae'n trefnu ar gyfer darparu gofal personol ar gyfer personau sy'n cael eu lletya mewn cartref gofal y mae person wedi'i gofrestru mewn perthynas ag ef o dan Ran II o'r Ddeddf;
(2) Ni fydd darpariaethau'r Rheoliadau hyn sydd ym mharagraff (3) yn gymwys i asiantaethau gofal cartref i'r graddau y maent hefyd yn asiantaethau cyflogi.
(b) datganiad sy'n pennu'r gwasanaethau gofal personol y mae'r asiantaeth yn trefnu iddynt gael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth; (c) datganiad o ran nifer a maint y contractau neu'r trefniadau eraill y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau odanynt; (ch) datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod y datganiad o ddiben ar gael ym mangre'r asiantaeth i'w archwilio gan unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi at ddibenion yr asiantaeth.
(b) disgrifiad o'r ardal ddaearyddol y mae'r asiantaeth yn trefnu bod gwasanaethau i'w darparu ar ei chyfer; (c) y telerau a'r amodau ar gyfer y gofal personol sydd i'w ddarparu i'r defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys -
(ii) y materion a ddisgrifir ym mharagraffau 5, 6 a 9 o Atodlen 1;
(ch) disgrifiad o strwythur staff yr asiantaeth;
(2) Rhaid i'r person cofrestredig -
(b) darparu copi o fersiwn gyfredol yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i bob defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth pan fydd yr asiantaeth yn trefnu gwasanaethau gofal personol ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth am y tro cyntaf; ac (c) yn dilyn y ddarpariaeth a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (b), darparu copïau pellach o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth os gofynnir amdanynt i'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth.
Adolygiad o'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
(b) hysbysu'r defnyddwyr gwasanaeth a swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.
(2) Onid yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn bod y diwygiad yn effeithiol. Ffitrwydd y darparydd cofrestredig 8. - (1) Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth onid yw'n ffit i wneud hynny. (2) Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth oni bai bod y person -
(ii) mewn partneriaeth gydag eraill a'i fod ef a phob un o'r partneriaid yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b) yn gorff ac -
(ii) bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion -
(b) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth yr asiantaeth; ac (c) bod gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 ar gael mewn perthynas â'r person.
(4) Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth -
(b) os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas â hwy.
Penodi rheolwr
(b) os yw'r darparydd cofrestredig -
(ii) yn rhedeg asiantaeth mewn partneriaeth; (iii) heb fod yn berson ffit i reoli asiantaeth; neu (iv) heb fod â gofal llawnamser dros yr asiantaeth o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod â gofal drosti.
(2) Pan fydd -
(b) os oes penodiad wedi'i wneud o dan baragraff (1), y rheolwr cofrestredig,
yn cynnig bod, neu'n debyg o fod, neu wedi bod, yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu ragor, rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r asiantaeth tra bydd y darparydd neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn absennol.
(b) yn amodol ar gofrestru'r person, o'r dyddiad y mae effaith y penodiad i fod i ddod i rym.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig enwebu person i fod â gofal dros yr asiantaeth ar bob adeg y mae'r asiantaeth ar agor ar gyfer busnes a phan fydd y person cofrestredig yn absennol o'r fangre.
(b) o roi sylw i natur yr asiantaeth a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth -
(ii) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r asiantaeth; ac
(c) bod gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 ar gael mewn perthynas â'r person.
Person cofrestredig - gofynion cyffredinol a hyfforddiant
(b) os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod gan yr unigolyn yr arbenigedd, y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am redeg yr asiantaeth.
(b) o'r tramgwydd; ac (c) o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.
Rhedeg yr asiantaeth 13. Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod yr asiantaeth yn cael ei rhedeg, a bod y gofal personol a drefnir gan yr asiantaeth, yn cael eu darparu yn y fath fodd ag y bydd -
(b) yn diogelu'r defnyddwyr gwasanaeth rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; (c) yn hyrwyddo annibyniaeth y defnyddwyr gwasanaeth; (ch) yn sicrhau bod eiddo'r defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys eu cartrefi, yn ddiogel ac yn saff; (d) mewn modd sy'n parchu preifatrwydd, urddas a dymuniadau'r defnyddwyr gwasanaeth, a chyfrinachedd gwybodaeth yngl n â hwy; ac(dd) gan roi sylw dyledus i ryw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y defnyddwyr gwasanaeth ac unrhyw anabledd sydd ganddynt ac i'r ffordd y maent yn byw eu bywydau.
Trefniadau ar gyfer darparu gofal personol
(b) pennu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth y mae gofal personol i'w ddarparu mewn perthynas â hwy; (c) pennu sut y mae'r anghenion hynny i'w diwallu drwy ddarparu gofal personol.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig -
(ii) i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth yr ymgynghorwyd ag ef wrth ei baratoi neu ei ddiwygio;
(b) parhau i adolygu cynllun cyflenwi gwasanaeth y defnyddiwr gwasanaeth;
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, sicrhau bod y gofal personol y mae'r asiantaeth yn trefnu iddo gael ei ddarparu i unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth yn diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth a bennir yn y cynllun cyflenwi gwasanaeth.
(b) darparu gwybodaeth gynhwysfawr a chynnig dewisiadau addas iddynt yngl n â'r gofal personol y gellid ei ddarparu iddynt; ac(c) eu hannog a'u galluogi i wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r gofal personol hwnnw.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y trefniadau sy'n cael eu gwneud i ddarparu gofal personol i ddefnyddiwr gwasanaeth -
(b) yn pennu o dan ba amgylchiadau y caiff gweithiwr gofal cartref roi neu helpu i roi meddyginiaeth y defnyddiwr gwasanaeth iddo a'r gweithdrefnau sydd i'w mabwysiadu o dan amgylchiadau o'r fath; (c) yn cynnwys trefniadau addas i helpu'r defnyddiwr gwasanaeth gyda materion symudedd yn ei gartref, os oes angen; ac (ch) yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan fydd gweithiwr gofal cartref yn gweithredu fel asiant ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth, neu'n cael arian oddi wrth ddefnyddiwr gwasanaeth.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cofnodi'r meddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio wrth ddarparu gofal personol i ddefnyddwyr gwasanaeth ac ar gyfer trafod y meddyginiaethau hynny, eu cadw'n ddiogel, eu rhoi a'u gwaredu yn ddiogel.
(b) bod gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw; ac (c) bod y person cofrestredig wedi'i fodloni ar seiliau rhesymol yngl n â dilysrwydd y tystlythyron y cyfeirir atynt ym mharagraff 5 o Atodlen 3 mewn perthynas â'r person hwnnw.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw berson nad yw'n weithiwr gofal cartref ond ei fod yn ofynnol iddo fel arall at ddibenion yr asiantaeth i ymweld â defnyddiwr gwasanaeth yn ei gartref yn gweithio i'r asiantaeth onid oes gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 a 9 o Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person.
(b) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni.
(4) Ni fydd paragraffau 1(b) a (2), i'r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 4 o Atodlen 3, yn gymwys tan 31 Hydref 2004 mewn perthynas â gweithiwr a gafodd ei gyflenwi gan yr asiantaeth neu a weithiodd iddi ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 1 Mehefin 2003 hyd at 31 Mai 2004.
(b) bod gwybodaeth a chyngor priodol yn cael eu rhoi i bersonau sy'n cael eu cyflogi at ddibenion yr asiantaeth, ac os ydynt yn gofyn yn rhesymol amdanynt, bod gwybodaeth a chyngor pellach yn cael eu rhoi ar gael iddynt mewn perthynas â'r canlynol -
(ii) darparu gofal personol i ddefnyddwyr gwasanaeth;
(c) bod cymorth addas yn cael ei roi i bersonau sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth, ac os ydynt yn gofyn yn rhesymol amdano, bod cymorth pellach ar gael iddynt mewn perthynas â darparu gofal personol i ddefnyddwyr gwasanaeth;
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob aelod o'r staff -
(b) yn cael cymorth addas, gan gynnwys amser i ffwrdd o'r gwaith, er mwyn ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith hwnnw; (c) yn ymwybodol o'i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau aelodau eraill o'r staff; ac (ch) yn gorfod hysbysu'r person cofrestredig os yw wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael ag unrhyw agwedd ar berfformiad aelod o'r staff y cafwyd ei fod yn anfoddhaol.
(b) rôl a chyfrifoldebau aelodau staff a gweithwyr gofal cartref; (c) y gofynion yngl n â chadw cofnodion;(ch) y gweithdrefnau recriwtio; a (d) gofynion a chyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth
(b) manylion yngl n â'r ffordd y gall y defnyddiwr gwasanaeth gysylltu â'r person cofrestredig, neu berson sydd wedi'i enwebu i weithredu ar ei ran, ar bob adeg yn ystod y cyfnod y mae gofal personol yn cael ei ddarparu; ac(c) y telerau a'r amodau y trefnir gofal personol odanynt.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) yn cael ei darparu hefyd, os yw'n briodol, i berthnasau neu ofalwyr y defnyddiwr gwasanaeth.
(b) ar gael ar bob adeg i'w harchwilio gan unrhyw berson a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i fynd i'r fangre ac i'w harchwilio; ac (c) yn cael eu cadw am gyfnod heb fod yn llai na thair blynedd gan ddechrau ar ddyddiad yr eitem olaf ynddynt.
(2) Yn ychwanegol at y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ymdrechu i sicrhau bod copi o gynllun cyflenwi gwasanaeth a chofnod manwl o'r gofal personol a ddarparwyd i'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu cadw yng nghartref y defnyddiwr gwasanaeth a'u bod yn cael eu cadw'n gyfoes, mewn cyflwr da ac mewn modd diogel.
(b) y weithdrefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch yr asiantaeth.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y bydd ymchwiliad llawn i bob cwyn a wneir o dan y weithdrefn gwyno.
(b) tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r atebolrwydd y gallai ei beri mewn perthynas â'r asiantaeth ynghylch marwolaeth, niwed, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.
Hysbysu digwyddiadau
(b) unrhyw ddigwyddiad -
(ii) y rhoddir adroddiad amdano i'r heddlu, neu y mae ymchwiliad iddo yn cael ei gynnal ganddynt; ac
(c) unrhyw honiad o gamymddwyn gan y person cofrestredig neu unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig o fewn 48 awr.
(b) rheolwr cofrestredig,
i fod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.
(b) y rheswm dros yr absenoldeb; (c) y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb; (ch) enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a fydd yn gyfrifol am yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb; a (d) enw, cyfeiriad a chymwysterau unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 9.
(3) Os yw'r absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi yn sgil argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(b) rheolwr cofrestredig,
wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, ac na roddwyd hysbysiad o'r absenoldeb i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r swyddfa honno, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(b) os yw person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r asiantaeth, neu'n bwriadu rhoi'r gorau i'w rhedeg neu i'w rheoli; (c) pan yw'r person cofrestredig yn unigolyn, os yw'r unigolyn hwnnw yn newid ei enw neu'n bwriadu newid ei enw; (ch) pan yw'r darparydd cofrestredig yn gorff -
(ii) os yw unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd neu os bwriedir i hynny ddigwydd; (iii) os oes unrhyw newid o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol, neu os bwriedir unrhyw newid o'r fath; (iv) os oes unrhyw newid ym mherchenogaeth y corff, neu os bwriedir unrhyw newid o'r fath;
(d) pan yw darparydd cofrestredig yn unigolyn, os yw ymddiriedolwr mewn methdaliad wedi'i benodi ar ei gyfer, neu'n debygol o gael ei benodi, neu os oes cyfamod neu drefniant wedi'i wneud, neu'n debygol o gael ei wneud, gyda chredydwyr;
Marwolaeth person cofrestredig
(b) o fewn 28 diwrnod o'u bwriadau yngl n â rhedeg yr asiantaeth yn y dyfodol.
(3) Caiff cynrychiolwyr personol y darparydd cofrestredig ymadawedig redeg yr asiantaeth heb fod wedi'u cofrestru ar ei chyfer -
(b) am unrhyw gyfnod pellach a benderfynnir yn unol â pharagraff (4).
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol estyn y cyfnod a bennwyd ym mharagraff (3)(a) am unrhyw gyfnod pellach, heb fod yn hirach na blwyddyn, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno, a rhaid iddo hysbysu'r cynrychiolwyr personol yn ysgrifenedig o unrhyw benderfyniad o'r fath. Cydymffurfio â'r rheoliadau 30. Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill. Tramgwyddau 31. - (1) Bydd torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliadau 4 i 7, 9 ac 11 i 28 yn dramgwydd. (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn person a oedd ar un adeg, ond nad yw bellach, yn berson cofrestredig, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 20. Pennu swyddfeydd priodol 32. Caiff y Cynulliad bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â mangre'r asiantaeth sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru. Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 33. - (1) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[4] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn. (2) Yn rheoliad 2(1) -
(ii) in any other case, any office of the National Assembly.";
(c) yn y diffiniad o "statement of purpose" mewnosoder -
(3) Yn rheoliad 9 -
(b) ar ôl paragraff (i) mewnosoder -
(4) Ym mharagraff 1 o Atodlen 1, mewnosoder -
Diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002
(b) yn y lle priodol, mewnosoder -
(4) Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (3C), mewnosoder -
(b) by a person mentioned in paragraph (1)(b), the registration fee shall be nil.".
(5) Ar ôl rheoliad 14 (Ffi Flynyddol - asiantaethau nyrsys), mewnosoder y rheoliad canlynol -
15. - (1) The annual fee in respect of a domiciliary care agency is -
(b) otherwise, £750.
(2) The annual fee in respect of a domiciliary care agency is to be payable by the registered provider on the first and subsequent anniversaries of the date on which his or her certificate of registration is issued.".
Darpariaethau trosiannol
(b) os gwneir cais am gofrestriad yn ystod y cyfnod hwnnw, hyd nes y gwneir y penderfyniad terfynol ar y cais hwnnw neu y tynnir ef yn ôl.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr "penderfyniad terfynol" yw'r dyddiad 28 diwrnod ar ôl caniatáu neu wrthod y cofrestriad ac, os caiff apêl ei gwneud, y dyddiad pan ddyfarnir yn derfynol ar yr apêl neu pan roddir y gorau iddi. 1. A yw'r asiantaeth yn cael ei rhedeg gan unigolyn, gan bersonau mewn partneriaeth neu gan gorff. 2. Natur y gwasanaethau y mae'r asiantaeth yn eu darparu. 3. Yr ardal ddaearyddol y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau ynddi. 4. Ystod cymwysterau'r gweithwyr gofal personol sydd i fod i ymweld â chartrefi defnyddwyr gwasanaeth. 5. O dan ba amgylchiadau y caiff yr asiantaeth roi terfyn ar ddarparu gwasanaethau i ddefnyddiwr gwasanaeth. 6. Y trefniadau i ganslo'r cyflenwad o weithiwr gofal cartref gan y defnyddiwr gwasanaeth neu'r asiantaeth. 7. Ffioedd yr asiantaeth. 8. Y trefniadau a fydd yn gymwys yn ystod salwch neu reswm arall dros absenoldeb gweithwyr gofal cartref sydd i fod i weini yng nghartrefi defnyddwyr gwasanaeth. 9. Y gofynion yngl n â dalennau amser.10. Y weithdrefn gwyno a sefydlwyd yn unol â rheoliad 21. 11. Y gweithdrefnau i ddiogelu defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr gofal cartref. 12. Y gweithdrefnau i ddiogelu eiddo'r defnyddwyr gwasanaeth. 13. Y gweithdrefnau ar gyfer rhoi meddyginiaeth, neu helpu i'w rhoi. 14. Y gofynion i amddiffyn iechyd a diogelwch gweithwyr gofal cartref. 15. Y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd digwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 27 yn digwydd. 16. Y trefniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth fynegi eu barn yngl n â'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan yr asiantaeth.17. Strwythur rheoli'r asiantaeth. 18. A yw'r asiantaeth, ac os felly i ba raddau, yn darparu gwasanaethau drwy bersonau heblaw cyflogeion yr asiantaeth. 1. Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn. 2. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar. 3. Naill ai -
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 133(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno. 1. Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn. 2. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y perthynas agosaf. 3. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar. 4. Naill ai -
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 113(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno. Cofnodion ariannol 1. Cofnod o holl drafodion busnes yr asiantaeth. 2. Bonion neu gopïau o'r holl dderbynebau a roddwyd. 3. Manylion y ffioedd sy'n daladwy gan bob defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â darparu gofal personol. 4. Cofnodion treth a chyfraniadau yswiriant gwladol sy'n ymwneud â phob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth. Cofnodion eraill 5. Cofnod o'r holl wybodaeth a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cofrestru mewn perthynas â'r asiantaeth. 6. Manylion pob honiad o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall a wnaed yn erbyn un o gyflogeion yr asiantaeth, neu unrhyw weithiwr gofal cartref sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth, gan gynnwys manylion yr ymchwiliadau a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd yn sgil hynny. 7. Manylion unrhyw ataliad corfforol a ddefnyddiwyd ar ddefnyddiwr gwasanaeth. 8. Y cynllun cyflenwi gwasanaeth a luniwyd ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaeth a chofnod manwl o'r gofal personol a roddwyd iddo. 9. Cofnod personél sy'n ymwneud â phob person sy'n cael ei gyflogi gan yr asiantaeth, neu sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") ac maent yn gymwys mewn perthynas ag asiantaethau gofal cartref ("asiantaethau") yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, a fydd yn cofrestru personau sy'n rhedeg neu'n rheoli asiantaethau ac yn archwilio mangreoedd asiantaethau. Mae Rhan II yn darparu hefyd fod person sy'n rhedeg neu'n rheoli asiantaeth heb fod wedi'i gofrestru ar gyfer hynny yn cyflawni tramgwydd. Mae'r Ddeddf yn darparu hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru. O dan adran 13 o'r Ddeddf rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei fodloni bod yr asiantaeth yn cydymffurfio â'r rheoliadau ac y bydd yn parhau i wneud hynny os yw'n mynd i ganiatáu cais am gofrestriad. Mae rheoliad 3 yn eithrio ymgymeriadau penodol o'r diffiniad o asiantaeth gofal cartref yn adran 4 o'r Ddeddf. Ymgymeriadau yw'r rhain sy'n cael eu rhedeg gan unigolyn yn unig a hwnnw'n unigolyn nad yw'n cael ei gyflogi gan gorff i redeg ymgymeriad, ac nad yw'n cyflogi neb arall at ddibenion yr ymgymeriad ac y mae'n trefnu gofal personol i lai na phedwar defnyddiwr gwasanaeth. Mae rheoliadau 4 i 6 yn ymwneud â datganiad o ddiben yr asiantaeth a'i harweiniad defnyddiwr gwasanaeth. Rhaid bod gan bob asiantaeth ddatganiad o ddiben ac arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i'r asiantaeth (rheoliadau 4 a 5). Rhaid i'r person cofrestredig roi sylw i'r datganiad o ddiben wrth wneud trefniadau staffio ar gyfer yr asiantaeth (rheoliad 16), a sicrhau bod mangre'r asiantaeth yn addas at ddibenion cyrraedd y nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben (rheoliad 24). Mae'r datganiad a'r arweiniad i'w cadw o dan sylw ac i'w diwygio os bydd angen (rheoliad 6). Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r ffaith bod asiantaeth wedi'i chofrestru gael ei nodi ar ei gohebiaeth. Mae Rhan II o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth yngl n â ffitrwydd personau sy'n rhedeg neu'n rheoli'r asiantaeth, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol yngl n â'r materion a nodir yn atodlen 2 fod ar gael mewn perthynas â'r personau hyn. Os corff yw'r person sy'n rhedeg asiantaeth, rhaid iddo enwi person cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael mewn perthynas ag ef (rheoliad 8). Mae rheoliad 9 yn darparu bod rhaid i reolwr gael ei benodi ar gyfer asiantaeth o dan amgylchiadau penodol, ac mae rheoliad 11 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg asiantaeth, a'r angen i bersonau cofrestredig ymgymryd â hyfforddiant priodol.Mae Rhan III o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth yngl n â rhedeg asiantaethau, ac yn benodol ynghylch y trefniadau ar gyfer darparu gofal personol (rheoliad 14), ffitrwydd gweithwyr (rheoliad 15), gofynion staffio (rheoliad 16), darparu llawlyfr a chod ymddygiad i'r staff a gwybodaeth i'r defnyddwyr gwasanaeth (rheoliadau 17 a 18), yr adnabyddiaeth sydd i'w gyflwyno gan weithwyr (rheoliad 19), cadw cofnodion (rheoliad 20), gweithdrefnau cwyno'r asiantaeth (rheoliad 21), holi barn y staff yngl n â'r ffordd y mae'r asiantaeth yn cael ei rhedeg (rheoliad 23) ac adolygu gweithrediadau asiantaeth (rheoliad 23).Mae Rhan III hefyd yn gwneud darpariaeth yngl n â ffitrwydd mangreoedd asiantaethau (rheoliad 24), gosod gofynion yngl n â sefyllfa ariannol asiantaethau (rheoliad 25) ac yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol o ddigwyddiadau penodedig sy'n ymwneud ag asiantaeth (rheoliadau 26 i 29).Mae Rhan IV o'r Rheoliadau yn ymdrin â materion amrywiol megis cyflawni rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau pan fydd gan asiantaeth fwy nag un person cofrestredig (rheoliad 30), tramgwyddau o dan y Rheoliadau (rheoliad 31), pennu swyddfeydd priodol y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau i roi hysbysiad (rheoliad 32), diwygiadau i'r Offerynnau Statudol yngl n â gwneud ceisiadau am gofrestriad a thalu ffioedd cofrestru i gymryd i ystyriaeth gymhwysiad y Ddeddf i asiantaethau (rheoliadau 33 a 34), ac mae'n gwneud darpariaeth drosiannol hefyd (rheoliad 35).Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, sy'n cael ei ddiffinio yn adran 121(1), mewn perthynas â Chymru, fel y Cynulliad, ac mewn perthynas â Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Diffinnir ystyr "prescribed" a "regulations" yn adran 121(1) o'r Ddeddf; diffinnir "the Assembly" yn adran 5(b) o'r Ddeddf.back [2] Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar gyfer y gofyniad i ymgynghori.back [4] O.S. 2002/919 (Cy.107) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/710 (Cy.86) a 2003/2517 (Cy.242).back [5] O.S. 2002/921 (Cy.109) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/710 (Cy.86), 2003/781 (Cy.92) a 2003/2517 (Cy.242).back
ISBN 0 11090870 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 24 February 2004 |