Gorchymyn Llywodraeth Leol (Diwrnod Arferol Etholiad) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Llywodraeth Leol (Diwrnod Arferol Etholiad) (Cymru) 2004, ISBN 0110908651. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol ac unrhyw bersonau neu gyrff eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol yn unol ag adran 104(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[1] a chan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 104(1) a (2) a 123(1) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol. Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Lleol (Diwrnod Arferol Etholiad) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 6 Chwefror 2004. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. (3) Yn y Gorchymyn hwn:
(b) ystyr "Deddf 1972" ("the 1972 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1972[3]; ac (c) ystyr "prif gyngor" ("principal council") yw cyngor fel y cyfeirir ato yn adran 21 o Ddeddf 1972.
Newid y diwrnod arferol yn 2004
(b) sy'n cael ei wneud gan brif gyngor yng Nghymru o dan adran 28(3) o Ddeddf 1972 (sefydlu neu ddiddymu cyngor cymuned), (c) sy'n cael ei wneud gan brif gyngor yng Nghymru o dan adran 57(6) o Ddeddf 1972 (newid y trefniadau etholiadol ar gyfer cyngor cymuned), neu (ch) sy'n cael ei wneud, mewn perthynas â Chymru, o dan adran 87(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[6] (p er i newid y blynyddoedd pan fo etholiadau cyffredin cynghorwyr i'w cynnal),
i'w ddehongli fel cyfeiriad at ddiwrnod arferol etholiad cynghorwyr yn 2004 ar gyfer ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru, fel y darperir ar ei gyfer yn unol â pharagraff (1) uchod.
(b) os byddai cynghorydd cymuned fel rheol wedi ymddeol ar y pedwerydd diwrnod ar ôl etholiad cyffredin, byddai rheol 8 o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986[7] yn gymwys i swydd cynghorydd sydd yn wag dros dro fel petai'r geiriau "within the period beginning with the 10th of November 2003 and ending immediately before" wedi'u rhoi yn lle'r geiriau "six months before" ym mharagraff (1) ac yn lle "within six months before" ym mharagraff (4).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae Adran 104(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru newid drwy orchymyn ddiwrnod arferol etholiad cynghorwyr ar gyfer pob ardal llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r gorchymyn hwn, sy'n cael ei wneud o dan yr adran honno, yn newid diwrnod arferol etholiadau llywodraeth leol 2004 yng Nghymru fel y bydd yr un fath â dyddiad etholiadau Senedd Ewrop yn y flwyddyn honno. Mae'n ymdrin hefyd â nifer o faterion canlyniadol. Fel arfer y dydd Iau cyntaf ym mis Mai ym mhob blwyddyn etholiad yw'r diwrnod arferol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr. Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu, o ran etholiadau llywodraeth leol 2004 yng Nghymru, fod y diwrnod hwn yn cael ei newid i fod yr un fath â dyddiad y bleidlais ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop yn 2004 sef 10 Mehefin. Mae'n darparu hefyd, o ran etholiadau llywodraeth leol 2004 yng Nghymru -
Mae Erthygl 3 yn estyn, o ran awdurdodau lleol yng Nghymru, y cyfnod pan na chaniateir cynnal is-etholiad cyn diwrnod arferol yr etholiad ar gyfer yr awdurdodau hynny, yn y fath fodd ag y bydd y cyfnod hwn, o ran etholiadau 2004, yn para o 10 Tachwedd 2003 (y dyddiad pan fyddai'r cyfnod hwn yn dechrau fel rheol) tan ddiwrnod arferol addasedig etholiadau o'r fath yn 2004 fel y penderfynir arno yn unol ag erthygl 2(1) o'r Gorchymyn hwn. Notes: [1] 2003 p.26.back [3] 1972 p.70. Cafodd adran 21 ei amnewid gan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994.back [4] Mae dyddiad y bleidlais yn etholiad arferol Senedd Ewrop yn cael ei bennu gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 4 o Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 2002 (p. 24).back [5] 1985 p.50. Mae adran 16(1) yn darparu ar gyfer gohirio am 3 wythnos y bleidlais mewn etholiad cynghorwyr plwyfi os yw dyddiad y bleidlais mewn etholiad cyffredinol Senedd Ewrop a diwrnod arferol etholiad cynghorwyr yng Nghymru a Lloegr yr un fath.back
ISBN 0 11090865 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 17 February 2004 |