Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110908562. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru'n unig a deuant i rym ar 31 Ionawr 2004. Diwygio Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994 2. - (1) Diwygir Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994 [3] yn unol â'r rheoliad hwn. (2) Yn rheoliad 2(1), rhoddir y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o "the Commission Decision" -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Gwneir y Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac maent yn diwygio darpariaethau Rheoliadau (Graddio) Carcasau Moch 1994. Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi cyfundrefn y Gymuned ar gyfer graddio carcasau moch ac a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3220/84 (OJ Rhif L301, 20.11.84, t.1) fel y'i diwygiwyd. Ceir y rheolau manwl yn Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2976/85 (OJ Rhif L285, 25.10.85, t.39) a Phenderfyniad y Comisiwn 88/234/EEC (OJ Rhif L105, 26.4.88, t.15), fel y'u diwygiwyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn awdurdodi dull newydd o raddio cyfansoddiad carcasau moch drwy ddefnyddio offer a elwir yn "graddio carcasau'n gwbl awtomatig drwy ddulliau uwchsain" ("AUTOFOM") ac yn tynnu'n ôl yr awdurdodiad ar gyfer defnyddio offer a elwir yn "Ultra-FOM". Mae defnyddio AUTOFOM yn ychwanegol at y dulliau eraill a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 88/234/EEC, fel y'i diwygiwyd. Paratowyol Arfarniad Rheoliadol ac fe'i hadneuwyd yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Bwyd a Datblygu Amaethyddol, Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [4] OJ Rhif L105, 26.4.88, t.15.back [5] OJ Rhif L234, 24.8.88, t.11.back [6] OJ Rhif L358, 8.12.92, t.22.back [7] OJ Rhif L208, 19.8.93, t.36.back [8] OJ Rhif L150, 16.6.94, t.34.back [9] OJ Rhif L271, 22.10.03, t.24.back
ISBN 0 11 090856 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 27 January 2004 |