Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) (Diwygio) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) (Diwygio) 2004, ISBN 0110908554. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, ac yn gweithredu drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl a Chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 26 Ionawr 2004. Diwygio Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001 2. Diwygir Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001[3] yn unol â rheoliadau 3 i 12 o'r Rheoliadau hyn. 3. Yn rheoliad 1, ar ôl y gair "Chymru" yn yr ail le y mae'n ymddangos, mewnosodir y geiriau "ac mewn perthynas â daliadau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys perthnasol arnynt". 4. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (Dehongli) -
(c) yn lle'r diffiniad o "cyfnod penodedig" mewnosodir y diffiniad canlynol -
(ii) o ran cais o dan reoliad 5A, yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad derbyn ac sy'n gorffen pan ddaw'r cyfnod o bum mlynedd, o'r dyddiad y daw'r taliadau hynny yn daladwy arno ar gyfer y parsel neu'r parseli organig sy'n destun y cais hwnnw, i ben;"
(ch) yn y diffiniad o "dyddiad derbyn" mewnosodir ar ôl y geiriau "rheoliad 3" y geiriau "neu reoliad 5A yn ôl y diwgydd";
5.
Ar ôl rheoliad 5, mewnosodir y rheoliadau canlynol -
5A. - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 5B a 5C, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau cymorth blynyddol, a elwir cymorth Stiwardiaeth Organig, ar gyfer parsel organig, i unrhyw berson sy'n fuddiolwr o ran y parsel organig hwnnw, ar yr amod bod y buddiolwr, mewn perthynas ag unrhyw daliad ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol, wedi hawlio taliad ar gyfer y flwyddyn honno yn unol â rheoliad 9 ac wedi darparu unrhyw wybodaeth a thystiolaeth bellach yngl n â'r hawliad hwnnw y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfarwyddo i'w darparu.(2) Rhaid gwneud taliadau o dan baragraff 1 i'r ceiswyr hynny sydd yn bodloni'r amodau cymhwyster a nodir yn rheoliad 5B. (3) Rhaid penderfynu cyfradd y taliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1), ac am ba hyd y byddant yn para, yn unol â rheoliad 5C. (4) Bydd rheoliadau 6 i 20 o'r rheoliadau hyn, os yw'n gymwys, yn gymwys i gymorth Stiwardiaeth Organig sy'n daladwy yn unol â pharagraff (1). Amodau Cymhwyster 5B. - (1) Mae'r amodau cymhwyster y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 5A (2) fel a ganlyn -
(ii) bod rhaid cyflwyno cais am gymorth Stiwardiaeth Organig ar gyfer nid llai nag un hectar o dir; (iii) mai'r ceisydd, ar ddyddiad cais am gymorth Stiwardiaeth Organig, yw perchennog neu denant y tir sy'n destun y cais a'i fod yn meddiannu'r tir hwnnw yn gyfreithlon; (iv) nad yw'r ceisydd wedi'i anghymhwyso rhag cymryd rhan mewn cynllun amaeth-amgylcheddol naill ai o dan Reoliad y Cyngor 1257/1999 neu o dan Reoliad y Comisiwn; (v) yn achos ceiswyr a oedd gynt yn fuddiolwyr cymorth o dan reoliad 3, y cydymffurfiwyd â'r amodau cymhwyster i gael cymorth o dan y rheoliad hwnnw er bodlonrwydd y Cynulliad Cenedlaethol; (vi) bod y ceisydd yn rhoi'r ymrwymiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) i ategu'r cais.
(2) Y gofynion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(i) yngl
(ii) bod pob cymorth o'r fath, lle'r oedd proses trosi'r tir hwnnw wedi denu cymorth gynt o dan reoliad 3, wedi dod i ben.
(3) Mae'r ymrwymiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(vi) fel a ganlyn -
(ii) ar gyfer pob parsel organig sydd wedi'i gynnwys mewn cais o dan reoliad 5A(1), bod tystysgrif gofrestru ddilys y parseli hynny a'u statws hollol organig yn cael eu cadw drwy gydol y cyfnod penodedig; (iii) bod y tir sy'n destun y cais yn cael ei ffermio, drwy gydol y cyfnod penodedig, yn unol â'r cynigion sydd wedi'u nodi yn y cais o dan reoliad 5A(1) ac yn unol â safonau UKROFS a'r safonau sydd wedi'u nodi yn Atodlen 2; (iv) bod rhaid sicrhau bod unrhyw dda byw organig neu dda byw sy'n cael eu trosi ac sy'n cael eu cadw ar y tir sydd wedi'i gynnwys mewn cais o dan reoliad 5A(1) yn cael eu cadw, drwy gydol y cyfnod penodedig, yn unol â safonau UKROFS; a (v) os yw'r ceisydd, ar ddyddiad y cais o dan reoliad 5A(1), wedi cyflwyno ffermio organig ar ran o'r daliad ac eithrio'r rhan sy'n destun y cais, ei fod yn sicrhau bod y rhan arall yn cydymffurfio, drwy gydol y cyfnod penodedig, â safonau UKROFS ac yn parhau â ffermio organig ar y rhan arall honno o'r daliad yn unol â safonau UKROFS a'r safonau a nodir yn Atodlen 2.
Penderfynu swm y cymorth Stiwardiaeth Organig a'r cyfnodau y mae cymorth yn cael ei dalu ar eu cyfer
6.
Yn rheoliad 6 (Cyfyngiadau ar dderbyn ceisiadau), ym mharagraff 1, ar ôl y gair "cais", mewnosodir y geiriau canlynol "o dan reoliad 3".
(b) ym mharagraff 4, ar ôl y gair "amodau" mewnosodir y geiriau canlynol ", i'r graddau y maent yn yn ymwneud â chymorth sy'n daladwy o dan reoliad 3"; (c) ym mharagraff 6(c), ar ôl y cyfeiriad alffaniwmerig "5(1)(a), (b)(ii) ac (ch)" mewnosodir y geiriau canlynol a'r cyfeiriad alffaniwmerig "ac yn rheoliad 5B(1)(ii), (iv) a (vi)".
10.
Yn rheoliad 16 (Gwrthod ac adennill cymorth, terfynu a gwahardd) -
(b) ym mharagraff (2), yn lle'r geiriau "y cynllun hwn" rhoddir y geiriau "y Rheoliadau hyn".
11.
Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (Y Taliad ar gyfer Parsel Organig) -
(b) ym mharagraff 2 (Tir wedi'i amgáu), o fewn y llinellau sydd wedi'u dynodi â'r Rhif olion Rhufeinig "(iv)" a "(v)", rhaid rhoi'r ffigur"£35" yn lle'r ffigur "£15"; (c) ym mharagraff 3 (Tir heb ei amgáu a choetir sy'n cael ei bori), o fewn y llinellau sydd wedi'u dynodi â'r Rhif olion Rhufeinig "(iii)", "(iv)" a "(v)", rhaid rhoi'r ffigur "£10" yn lle'r ffigur "£5"; (ch) ar ôl y tabl ym mharagraff 3, rhaid mewnosod y tabl canlynol -
(b) rhoddir y paragraff canlynol yn lle paragraff 10 -
(ii) Cod Arferion Amaethyddol Da er Diogelu D r (1991 (a ddiwygiwyd ym 1998)), a gyhoeddwyd gan Adran Amaethyddiaeth y Swyddfa Gymreig a'r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd [7];(iii) Cod Arferion Amaethyddol Da ar gyfer Diogelu'r Pridd (1992 (a ddiwygiwyd ym 1998)), a gyhoeddwyd gan Adran Amaethyddiaeth y Swyddfa Gymreig a'r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd [8]); (iv) Cod Arferion ar gyfer Defnyddio Plaleiddiaid ar Ffermydd a Daliadau (1998), a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Comisiwn Iechyd a Diogelwch[9].".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 26 Ionawr 2004, yn diwygio Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") yn y fath fodd ag i gyflwyno cymorth ychwanegol, a elwir cymorth Stiwardiaeth Organig ("cymorth Stiwardiaeth"), a fyddai'n daladwy i geiswyr cymwys ar gyfer tir y mae'r gwaith i'w drosi i fod yn dir organig wedi'i gwblhau ond y mae'r ceisydd wedi rhoi ymrwymiad yngl n â'r tir hwnnw i barhau i'w ffermio yn organig.Mae rheoliad 3 yn diwygio'r prif reoliadau yn y fath fodd ag i ddarparu iddynt fod yn gymwys i ddaliadau trawsffiniol sy'n cynnwys tir sydd y tu allan i Gymru. Mae rheoliad 5 yn mewnosod darpariaethau yn y prif Reoliadau sydd:
(b) yn pennu'r amodau cymhwyster; (c) yn pennu cyfradd y cymorth Stiwardiaeth ac am ba hyd y bydd yn para; (ch) yn darparu bod y darpariaethau gweinyddu a gorfodi yn y prif Reoliadau yn gymwys i Gymorth Stiwardiaeth.
Mae rheoliadau 4, 6, 7, 8, 9, 10 a 12 yn darparu diwygiadau i'r prif Reoliadau sy'n ganlyniad i gyflwyno cymorth Stiwardiaeth ac yn gysylltiedig â hynny. Notes: [1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae p er y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn y Deyrnas Unedig ond sydd y tu allan i Gymru wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back[3] O.S. 2001/424 (Cy.18).back [4] O.S. 1993/1317, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/1134, 1997/1148, 1999/1820 a 2000/2573.back [5] Mae pob cod ar gael yn rhad ac am ddim oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Is-adran Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.back
ISBN 0 11 090855 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 27 January 2004 |