Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2004, ISBN 0110908597. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2004. (2) Yn Gorchymyn hwn, cyfeirir at Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 fel "y Ddeddf". (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Y diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 6(3) o'r Ddeddf 2. 24 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 6(3) o'r Ddeddf ddod i rym. Y diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 12 o'r Ddeddf 3. 31 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 12 o'r Ddeddf ddod i rym. Y diwrnod penodedig mewn perthynas ag adran 49 o'r Ddeddf 4. 1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 49 o'r Ddeddf ddod i rym i'r graddau na chafodd yr adran honno ei dwyn i rym eisoes. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 20 Ionawr 2004 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Dyma'r chweched Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ("y Ddeddf") mewn perthynas â Chymru. Mae erthygl 2 yn pennu 24 Ionawr 2004 fel y diwrnod y daw adran 6(3) o'r Ddeddf i rym yng Nghymru. Mae erthygl 3 yn pennu 31 Ionawr 2004 fel y diwrnod y daw adran 12 o'r Ddeddf i rym yng Nghymru. Mae erthygl 4 yn pennu 1 Ebrill 2004 fel y diwrnod y daw adran 49 o'r Ddeddf i rym yng Nghymru, i'r graddau nad yw'r adran honno eisoes mewn grym. Mae adran 6(3) yn mewnosod diwygiadau ym mharagraff 16 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 sy'n galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau a rhoi cyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru ynghylch tâl a thelerau ac amodau eraill y maent yn cyflogi staff odanynt ac yn gyffredinol mewn cysylltiad â materion ynghylch cyflogi staff. Mae adran 12 yn mewnosod adran 19A newydd yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r ddarpariaeth newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu, i'r graddau y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol i fodloni holl ofynion rhesymol, i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer pobl sy'n dymuno cwyno am y gwasanaeth y maent (neu y mae rhywun y maent yn gofalu amdano) wedi ei gael oddi wrth y GIG. Mae adran 49 yn eithrio gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig o'r gwasanaethau y gall yr awdurdodau lleol eu darparu yn unol â deddfiadau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gofal cymunedol. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3752 (C.122); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S.2001/4149 (C.133); O.S. 2002/1095 (C.26); O.S. 2002/1312 (C.36); O.S. 2002/2363 (C.77); O.S. 2003/53 (C.3); O.S. 2003/850 (C.46) ac O.S. 2003/2245 (C.87). Notes: [1] 2001 p.15; y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod perthnasol ar gyfer gwneud y Rheoliadau hyn yn rhinwedd adran 66 o'r Ddeddf.back
ISBN 0 11090859 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 6 February 2004 |