Gorchymyn Cefnffordd Llundain - Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cefnffordd Llundain - Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004, ISBN 0110908546. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 10 a 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980[1] a phob p er galluogi arall[2]:-1. Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym. 2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd. 3. Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd, a chaiff ei ddosbarthu fel ffordd ddosbarthiadol, o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Powys fod gefnffordd newydd ar agor i draffig trwodd. 4. Yn y Gorchymyn hwn : - (1) Mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol; (2) ystyr "y gefnffordd" ("the trunk road") yw Cefnffordd Llundain - Abergwaun (A40);
5.
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Chwefror 2004 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Llundain - Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004. Llwybr y gefnffordd newydd yw llwybr rhwng Bwlch a Chrucywel yng nghyffiniau'r eiddo a elwir Heol Draw Cottage, ger Tret r yn Sir Powys oddeutu 0.80 cilomedr o hyd gan ddechrau ar bwynt ar y gefnffordd bresennol oddeutu 200 metr i'r gogledd orllewin o ddiwedd y wal ar ochr de ddwyrain y fynedfa i'r eiddo a elwir Dan-y-Myarth gan barhau i gyfeiriad y de ddwyrain hyd at bwynt ar y gefnffordd bresennol sy'n cyd-ddigwydd â llinell ganol y fynedfa i gae Rhif 8248 gyferbyn â'r fynedfa i Westy Gliffaes.Y darn o'r gefnffordd a fydd yn peidio â bod yn gefnffordd yw'r darn hwnnw o'r gefnffordd a leolir rhwng pwynt oddeutu 13 metr o ddechrau'r wal/giât ar ochr de ddwyrain yr eiddo a elwir Heol Draw Cottage, ger Tret r, hyd at bwynt ar y gefnffordd bresennol 26 metr o ddechrau'r wal/giât ar ochr de ddwyrain yr eiddo a elwir Heol Draw Cottage, ger Tret r.Notes: [1] 1980 p.66.back [2] Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, rhoddwyd y pwerau hyn bellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.back
ISBN 0 11090854 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 22 January 2004 |